Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Penodi/Cadarnhau Cynullydd y Panel a Chadarnhau Cyfetholedigion Cofnodion: Cadarnhawyd Paxton Hood-Williams fel Cynullydd y panel. |
|
Nodiadau cyfarfod blaenorol PDF 285 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau'r Cyhoedd Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Cyflwyniad a Sesiwn Holi ac Ateb gydag Aelod y Cabinet Elliott King, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau
Plant (Blynyddoedd Cynnar) Sam Pritchard, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau
Plant (Pobl Ifanc) Cofnodion: Cyflwynodd Elliott King a Sam Pritchard, Aelodau'r Cabinet dros Wasanaethau Plant y prif broblemau sy'n wynebu'r adran i'r Panel a'r hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hwy, ac i ateb cwestiynau'r Panel. Pwyntiau i'w trafod: • Bydd y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol yn ogystal â'r panel yn edrych ar y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc eleni. • Y grŵp mwyaf o blant sy'n derbyn gofal (PDG) yw'r grŵp oedran 10 - 15 oed. Mae'r gyfran tua 50/50 i blant sy'n dod i mewn yn 10 - 15 oed a phlant sydd wedi dod o'r grŵp oedran isaf 5 - 9 oed. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chynnwys mewn data perfformiad yn y dyfodol. • Ar gyfer disgyblion PDG fesul 10,000 o'r boblogaeth, mae’r cyngor sy'n perfformio orau yng Nghymru yn uwch o lawer na chyfartaledd Lloegr. Mae nifer o resymau gwahanol dros hyn. Mae hon yn flaenoriaeth i'r Gweinidog. • Mae Rhaglen Gwella Plant a Theuluoedd ar waith yn Abertawe. Mae'r panel yn bryderus am y diffyg adnodau i gyflawni'r cynlluniau hyn. • Yn y pen draw, gobeithiwn gyrraedd pwynt lle mae'r cynllun yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda phlant. • Mae gan Abertawe'r nifer uchaf o blant ceiswyr lloches heb gwmni oedolyn ar ôl Caerdydd. Mae hyn wedi cynyddu'n niferoedd PDG. • Mae'n bwysig meithrin hyder aelodau sy'n eistedd ar y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol er mwyn datblygu'r strategaeth a chwrdd â swyddogion arweiniol yn rheolaidd i gefnogi camau gweithredu sydd i'w cwblhau a pharatoi'r adroddiadau diweddaru gwrthrychol ar gyfer y bwrdd. • Disgwylir System Wybodaeth Gofal Cymunedol newydd ym mis Chwefror 2020. Mae disgwyl i'r dyddiad hwn gael ei wthio yn ôl. • Mae angen sicrhau bod y cyngor yn gwrando'n agored ac yn onest ar lais y plentyn, y teulu a'r gymuned. • Mae angen i weithwyr cymdeithasol wrando ar blant ac mae angen annog plant i leisio'u barn. Mae gennym CCUHP yn Abertawe sy'n annog plant i leisio'u barn llawer mwy. Mae'r adran yn siarad â gweithwyr cymdeithasol drwy'r amser am ba mor bwysig yw'r berthynas ond mae pwysau o ran cael y gwaith papur wedi'i gwblhau. Mae angen newid diwylliannol a dyma'r cyfeiriad y mae'r cyngor yn symud iddo. • Mae gan yr adran gysylltiadau â'r brifysgol. Mae’n dymuno cael mwy o ddylanwad ar ei rhaglen. • Mae gan sefydliadau megis ‘Cymorth i Fenywod’ leoliadau am dri mis ar gyfer myfyrwyr prifysgol ambell waith. Mae hwn yn rhoi'r cyfle iddynt gael profiad o sut beth ydyw yn y byd go iawn. • Gweithio'n galed i ddatblygu'r gweithlu ac ar effaith trawma eilaidd. Camau gweithredu: • Ychwanegu ‘Cynnydd ar Raglen Gwella Plant a Theuluoedd' at y rhaglen waith ar gyfer 2019/20. |
|
Adolygiad Panel y Flwyddyn 2018/19 a Rhaglen Waith Ddrafft 2019/20 PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adolygodd aelodau'r
panel eu blwyddyn ar y Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a thrafodwyd y cwestiwn canlynol: 1. Beth sydd wedi
gweithio'n dda? •
Mae'n dda gweld manylion
mewn adroddiadau perfformiad. Mae'n anodd mynd ati
i gael
mwy o fanylion ond mae swyddogion
wedi rhoi llawer o wybodaeth. •
Mae cefnogaeth swyddogion yn wych •
Mae'r trafodaethau a'r ymateb gan swyddogion
wedi bod yn dda •
Mae’r berthynas â swyddogion yn dda ac yn
agored iawn. Cytunodd aelodau'r
panel ar raglen waith 2019/20. Camau gweithredu: • Gwahodd uwch-wleidyddion o Lywodraeth Cymru i ddod i gyfarfod Panel i glywed materion a phryderon y Panel ac ymateb iddynt. (ac o bosibl y Comisiynydd Plant?). |
|
a) Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 29 Ebrill 2019) Cofnodion: Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel. |
|