Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiadau.
|
2. |
Nodiadau Cyfarfod 29 Hydref 2018 PDF 121 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yngofnod cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel
ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.
|
3. |
Cwestiynau'r Cyhoedd
Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw
aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.
|
4. |
Diweddariad ar y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol
Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant
a Theuluoedd
Cofnodion:
Roedd Julie
Thomas, Rachel Moxey, Jane Whitemore, Gemma Whyley a
Sue Jones yn bresennol i roi trosolwg o'r Bwrdd Magu Plant Corfforaethol, y
diweddaraf ar y cynnydd a wnaed ar yr amcanion yn y strategaeth magu plant
corfforaethol ac i ateb cwestiynau.
Pwyntiau i'w
trafod:
- Roedd y panel yn siomedig nad oedd
cynrychiolaeth o'r Adran Addysg a Diwylliant a Hamdden yn y cyfarfod.
- Mae angen atgoffa rhieni corfforaethol bod eu
cyfrifoldebau yn eang
- Mae angen sicrhau bod partneriaid yn
ymrwymo'n llawn a bod grwpiau o swyddogion yn cwrdd yn rheolaidd.
- Mae angen dangos bod y gwaith sy'n cael ei
wneud yn gwneud gwahaniaeth i blant sy'n derbyn gofal.
- Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Magu Plant
Corfforaethol - tudalen 11, ail dabl.
Mae'r panel yn pryderu'n fawr am ffigurau perfformiad addysgol ac
yn enwedig y canlyniadau gwael ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 yn
Abertawe. Crybwyllwyd hyn yn yr
Adroddiad Arolygu ac Arolwg Bright Spots ac mae yn y Cynllun Gweithredu.
- Mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn
bwriadu olrhain plant sydd wedi gwneud yn dda yn addysgol i nodi'r hyn a
wnaed er mwyn iddynt lwyddo. Mae
angen dod o hyd i linynnau cyffredin.
Mae'r Adran Addysg a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwrdd i asesu'r
gwaith. Yna caiff y panel ei friffio ar hyn.
- Dylai'r holl
lywodraethwyr fod yn derbyn gwybodaeth i helpu i graffu ar ysgolion yn
iawn. Mae'r panel yn teimlo bod hyn yn bwysig. Byddai'n ddefnyddiol i lywodraethwyr
wybod y cwestiynau iawn i'w gofyn mewn cyfarfodydd llywodraethwyr a gofyn
i athrawon PDG ac athrawon diogelu am blant diamddiffyn mewn
ysgolion.
- Mae angen i
lywodraethwyr fonitro Grantiau Datblygu Disgyblion hefyd.
- Hoffai'r panel weld data hanesyddol dros 20
mlynedd i weld y tueddiadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
- Mae pwynt mynediad unigol ar gyfer y
Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd yn cael ei dreialu yn y Tîm Gwybodaeth,
Cyngor a Chefnogaeth ac mae'r canlyniadau'n gadarnhaol iawn.
- Mae problemau o hyd gyda'r Gwasanaeth Iechyd
Meddwl Plant a Phobl Ifanc ond mae ffigurau'n gwella.
- Mae'r panel wedi bod yn pryderu ers tro am
gyfranogaeth y gwasanaeth Iechyd.
Rydym yn falch o glywed bod y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn
gweithio'n well gyda'i gilydd.
- Mae ymyrryd yn gynnar yn allweddol i wella
canlyniadau. Felly mae ymdrech fawr ar gyfer y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf.
- Y gobaith yw y bydd adroddiad blynyddol y
Bwrdd Magu Plant Corfforaethol nesaf yn cael ei lunio ar y cyd a chyda
chyfranogaeth plant.
- Bydd y panel yn derbyn diweddariad blynyddol
am y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol yn y dyfodol i fonitro cynnydd.
- Caiff cyfres o ddangosyddion perfformiad ei
datblygu ar gyfer y panel ar yr 8 amcan yn y strategaeth. Adroddir am y rhan fwyaf bob chwarter, a
rhai yn flynyddol.
- Diolchodd y panel i arweinwyr yr amcanion am
ddod a darparu diweddariad diddorol iawn.
Mae'r panel yn pryderu ar hyn o bryd am yr Adran Addysg. Ni chafwyd
cynrychiolaeth o'r adran yn y cyfarfod ac mae'r ffigurau perfformiad yn
peri pryder mawr.
Camau Gweithredu:
- Caiff cynrychiolwyr Addysg eu gwahodd i
gyfarfod y panel yn y dyfodol i esbonio'r canlyniadau gwael ar gyfer
Cyfnod Allweddol 4 yn Abertawe ac i ateb cwestiynau'r panel.
- Rhaid i'r Adran Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd feddwl am gwestiynau sy'n canolbwyntio ar atebion y gall
llywodraethwyr eu gofyn i benaethiaid, athrawon PDG ac athrawon diogelu
ynghylch plant diamddiffyn mewn ysgolion.
- Bydd Rachel Moxey yn rhoi canlyniadau cynllun
peilot y tîm Gwybodaeth Cyngor a Chefnogaeth i'r panel.
- Dylid ychwanegu 'Diweddariad am y Bwrdd Magu
Plant Corfforaethol' at raglen waith y dyfodol ar gyfer mis Rhagfyr 2019.
|
5. |
Archwiliad o ran cofrestru cam-drin emosiynol o safbwynt Amddiffyn Plant
Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant
a Theuluoedd
Cofnodion:
Nid ymdriniwyd â'r
eitem yn y cyfarfod.
Trafodwyd yr
Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Tachwedd 2018 yn lle hynny. Yn gyffredinol, dyma un o'r adroddiadau gorau
y mae'r panel wedi'i weld. Mae'r adran
yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Mae rhai materion o hyd y mae angen eu monitro'n
agos.
Cam Gweithredu:
- Ychwanegu 'Archwiliad ar nodi cam-drin
emosiynol ar y gofrestr amddiffyn plant' at raglen waith y panel ar gyfer
y dyfodol.
|
6. |
Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 PDF 77 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y panel
y rhaglen waith.
|
7. |
Llythyrau PDF 258 KB
a) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 29
Hydref 2018)
Cofnodion:
Cafodd llythyr ei
dderbyn a'i ystyried gan y panel.
|
|
Llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 18 Rhagfyr 2018) PDF 257 KB
|