Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

2.

Nodiadau cyfarfod 28 Awst 2018 pdf eicon PDF 366 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

 

4.

Y Diweddaraf am y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid pdf eicon PDF 119 KB

Amanda Turner, Rheolwr Ôl-Lys Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyriad Cynnar Bae’r Gorllewin

 

 

Cofnodion:

Roedd Amanda Turner, Huw Fyfe a Carl Matthews o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Bae'r Gorllewin yn bresennol i friffio'r Panel ar berfformiad ac ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Nifer y plant a phobl ifanc sy'n troseddu am y tro cyntaf yn gostwng yn sylweddol.
  • Abertawe oedd yr awdurdod cyntaf i gyflwyno'r system bureau
  • Dylai'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid edrych ar astudiaethau achos etc i nodi a phrofi bod ymyrryd â phobl ifanc yn gweithio.
  • Byddai'n ddefnyddiol i olrhain oedolion ifanc i weld a yw ymyrryd yn parhau i weithio unwaith bydd pobl ifanc yn troi'n 18 oed.
  • Gostyngodd nifer y dedfrydau o garchar a osodwyd ar bobl ifanc yn yr ardal i 9 yn 2017/18. Dyma stori lwyddiant go iawn.
  • Lleihawyd y gyllideb ar gyfer Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Bae'r Gorllewin o £4.2m yn 2015/16 i £3.68m yn 2017/18. Nid oes unrhyw effaith negyddol ar berfformiad wedi bod, ac nid oes neb wedi colli swydd yn orfodol o ganlyniad i hyn. Bellach, mae 19 o swyddi a rennir ar draws y rhanbarth o'u cymharu ag 11 yn 2017/18. Dyma stori gadarnhaol iawn ar gyfer cydweithio.
  • Mae cysylltiadau cryf rhwng y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid rhanbarthol a'n Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ni yn yr awdurdod ac Info-nation felly mae ymagwedd integredig ar waith.
  • Nid oes gan y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid fynediad uniongyrchol at Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS). Mae achos yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Iechyd dros gael llwybr diffiniedig i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc mewn modd amserol.
  • Mae'r panel yn teimlo nad yw'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn gweithio'n effeithiol. Codir y mater ar nifer o fforymau gan gynnwys y Panel Craffu Addysg.
  • Pryder am effaith Pen-y-bont ar Ogwr yn gadael Bae'r Gorllewin. Ar hyn o bryd mae 19 o swyddi a rennir yn y rhanbarth. Mae'n rhaid sicrhau nad yw un o'r 3 ardal dan anfantais, yn enwedig plant a phobl ifanc yr ardaloedd.

 

 

5.

Monitro Perfformiad (gan gynnwys BAYS +) pdf eicon PDF 57 KB

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, drwy'r adroddiad perfformiad ar gyfer mis Medi 2018 gan amlygu'r prif bwyntiau ac ateb cwestiynau'r panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Plant sy'n Derbyn Gofal (tudalen 2) - mae'r adran yn ymgymryd ag archwiliad gan fod tuedd ar i fyny wedi bod yn y ffigwr hwn. Cynllun i ddod ag adroddiad briffio i gyfarfod y panel ym mis Rhagfyr.
  • Mae'r panel yn teimlo bod yr adran yn mynd yn y cyfeiriad iawn ond mae nifer o faterion y mae angen i'r panel gadw llygad arnynt.

 

Camau Gweithredu:

 

  • Ychwanegu 'Adrodd ar Archwiliad Plant sy'n Derbyn Gofal' at y rhaglen waith ar gyfer mis Rhagfyr 2018

 

 

6.

Adborth ar yr Adroddiad Arolygu

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Cofnodion:

Darparodd Julie Thomas adborth i'r panel ar y canfyddiadau a'r meysydd i'w gwella o ddau arolygiad a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Gorffennaf 2018 - sef arolygiad llawn o wasanaethau plant yr awdurdod ac arolygiad o Faethu Abertawe.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Mae Maethu Abertawe wedi derbyn adroddiadau cadarnhaol yn gyson mewn arolygiadau.
  • Mae'r panel yn teimlo bod yr adroddiad arolygu am y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn wych ar y cyfan ond mae modd gwella o hyd. Mynegodd y panel ddiolchgarwch i Julie a gweddill y tîm gan fod y cynnydd a wnaed yn ganlyniad i waith caled ac ymrwymiad ac yn wych. Mae Julie'n hapus iawn â'r adroddiad ond heb fod yn hunanfodlon a dyna pam mae'r cynllun gwella ar waith.
  • O safbwynt craffu, bydd y panel yn parhau i graffu ar y gwasanaeth a chynnig awgrymiadau ac argymhellion er mwyn gwella.

 

7.

Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y panel y rhaglen waith.

 

8.

Llythyrau pdf eicon PDF 258 KB

a) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Awst 2018)

Cofnodion:

Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.

 

Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 29 Hydref 2018) pdf eicon PDF 258 KB