Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan, Scrutiny 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datgelu buddiannau – Alyson Pugh |
|
Cynigion Drafft Cyllideb y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Isod ceir dolen i bapurau’r Cabinet ar gyfer 15 Chwefror 2018, sy’n cynnwys cynigion y gyllideb. Dylai fod ar gael ddydd Gwener 9 Chwefror 2018: https://democracy.swansea.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=124&MId=7520&Ver=4&LLL=0 Cofnodion: Trafododd Dave Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, a Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y cynigion cyllidebol arfaethedig mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau. |
|
Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion Gofynnir i’r
panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno
arnynt o ran y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet. Bydd cynullwyr pob
panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella Gwasanaethau a
Pherfformiad Cyllid ar 14 Chwefror sydd wedi’i drefnu’n benodol i edrych ar y
gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella
Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 15 Chwefror
i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu. Cofnodion: Cytunodd y panel â'r farn a'r argymhellion canlynol am y cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yr hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet:
Yn dilyn y cyfarfod hwn: Bydd y cynullydd yn cyflwyno barn y panel, ar y cyd â chynullyddion paneli eraill, i'r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid, sy'n cwrdd ar 14 Chwefror. Bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid yna'n mynd i'r Cabinet ar 15 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet. |