Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datgeliad o gysylltiadau - Mike Durke ac Alyson Pugh

 

2.

Nodiadau Cyfarfod 26 Chwefror 2018 pdf eicon PDF 117 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yngofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

4.

Adroddiad Blynyddol Cwynion Gwasanaethau Plant a Theuluoedd 2016/17 pdf eicon PDF 57 KB

Andrew Taylor, Rheolwr Cwynion Corfforaethol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth Andrew Taylor, Rheolwr Cwynion Corfforaethol, drwy'r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Perthynas waith dda rhwng y Tîm Cwynion, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol. 
  • Dim ond 3 cwyn a ymchwiliwyd iddynt yng ngham 2 y broses gwynion yn 2016/17
  • Nid oedd unrhyw ganfyddiadau o gamweinyddu gan yr Ombwdsmon mewn perthynas â Gwasanaethau Plant Abertawe yn 2016/17
  • Canmolwyd y Gwasanaethau Plant sawl gwaith yn ystod y cyfnod ac mae'r aelodau staff yn ymwybodol o'r ganmoliaeth sy'n ymwneud â hwy.
  • Diolchodd y panel a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i'r Rheolwr Cwynion Corfforaethol am ei holl waith caled dros y blynyddoedd a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd.

 

5.

Monitro Perfformiad

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

 

 

Cofnodion:

Aeth Val Jones, Rheolwr Mabwysiadu, drwy'r adroddiad ar ddeunydd Taith Bywyd a gyflwynwyd i'r panel yn dilyn ymholiad gan y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol.

 

Pwyntiau trafod:

 

·       Mae swm ac ansawdd Deunydd Taith Bywyd yn peri pryder ond disgwylir iddo wella wrth weithredu Fframwaith Deunydd Taith Bywyd o fis Ebrill.

·       Roedd y Panel yn bryderus bod hyn yn dasg ychwanegol i weithwyr cymdeithasol y mae ganddynt eisoes lwyth gwaith trwm iawn.  Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod ganddynt bob amser gyfrifoldeb i wneud hyn ond bod angen sicrhau bod ganddynt lwythi achosion hylaw fel y bod ganddynt y gallu i wneud hynny.

·       Pob rhanbarth yng Nghymru wedi rhannu arfer ac wedi gweithio gyda'i  gilydd i lunio'r fframwaith.

·       Mae'r adroddiad terfynol ar y gwasanaeth mabwysiadu i'w arolygu wedi'i dderbyn.

 

Cam Gweithredu:

 

  • Ychwanegu adroddiad ar Archwilio'r Gwasanaeth Mabwysiadu at y rhaglen waith ym mis Awst 2018.

 

 

Aeth Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac Owen Davies, Rheolwr Perfformiad, drwy'r Adroddiadau Perfformiad ar gyfer mis Mawrth 2018 a chwarter 4 ac atebodd gwestiynau'r panel. 

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Mae Gofal Cefnogol ar ei newydd wedd wedi'i lansio.  Fel rhan o hyn mae nifer o achosion wedi'u cau ac mae nifer yr achosion wedi gostwng islaw 1600. Mae'r adran yn teimlo ei bod mewn sefyllfa dda i gynyddu a gwella safon y gwaith. 
  • Bydd DPA Llywodraeth Cymru newydd yn 2019/2020 ar gyfer Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
  • Drws Blaen - Nifer yr ail-atgyfeiriadau yn ystod y mis wedi cynyddu. 
  • Nifer yr asesiadau a gynhaliwyd o fewn 10 niwrnod gwaith wedi cynyddu yn ystod y mis ac mae ar darged.  Nifer yr asesiadau a gynhaliwyd mewn 42 o ddiwrnodau wedi gwella ond mae'n dal i fod yn is na'r targed.
  • Dim graddfa amser eto ar gyfer symud i system rheoli gwybodaeth newydd (System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru) yn hytrach na PARIS.  Panel yn hapus bod y datblygiad i gynhyrchu'r paramedrau ar gyfer y system newydd yn cael ei arwain gan reng flaen yr awdurdodau lleol yn hytrach na Llywodraeth Cymru.
  • Bydd yr adran yn cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd, gyda gwasanaethau cymorth cynnar o fis Mehefin 2018 a bydd yn gallu adrodd ar hyn o fewn y flwyddyn ariannol hon.
  • Pwysleisiwyd nad yw hyn yn ymwneud ag ymyrryd yn gynnar yn unig, mae'n ymwneud â nodi'n gynnar, ac mae'r adran wedi gallu gweithio gyda chymorth cynnar wrth fynd o amgylch hyn gyda llwybrau i wasanaethau gofal cynnar.
  • Amddiffyn plant - Y panel yn bryderus bod canran y plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant y maent eisoes wedi'u cofrestru'n uchel, er ei bod wedi lleihau ychydig. Nododd y panel nad yw plant yn dychwelyd am yr un rhesymau ond bod angen monitro hyn yn agos.
  • Plant yn gadael gofal - bydd gwybodaeth yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad monitro perfformiad nesaf am gyrchfan pobl sy'n gadael gofal pan maent yn cyrraedd 18 oed.
  • Bwrdd Cyfiawnder Bae'r Gorllewin - gofyn i gynrychiolydd ddod i gyflwyno i'r panel unwaith y bydd ffigurau diwedd y flwyddyn ar gael.

 

Camau Gweithredu:

 

  • Ychwanegu cyflwyniad gan Fwrdd Cyfiawnder Bae'r Gorllewin i raglen waith 2018/19.

 

 

Cyflwynodd Owen Davies adroddiad ar 'Ddadansoddiad Thematig o blant sy'n derbyn gofal'.  Yn 2017/18 roedd cynnydd o 8.24% yn niferoedd y plant sy'n derbyn gofal yn Abertawe.  Nid oedd yr adran yn disgwyl cynnydd mor uchel mewn cyfnod amser mor fyr ac felly cynhaliwyd adolygiad thematig er mwyn cael dealltwriaeth well o'r ffactorau sy'n gyfrifol am gynyddu niferoedd ac i'w caniatau i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau'n fwy effeithiol.

 

Pwyntiau trafod:

 

·       Mae materion ynghylch faint o ddylanwad y gall y llys ei gael ar waith y gwasanaethau cymdeithasol.

·       Mae'r adran eisoes wedi dechrau gweithredu rhai o'r pethau y soniwyd amdanynt yn yr adroddiad a fydd yn gwneud gwahaniaeth.

·       Mae'r panel yn teimlo bod hyn yn ddarn arbennig o waith

·       Mae'n bwysig iawn cynnwys pob gwasanaeth ar lefel gymunedol - cynnwys gwasanaethau - dim ond hyn a hyn y mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn gallu ei wneud a dim ond hyn a hyn y mae'r cyngor yn gallu ei wneud.  Dyma'r unig ffordd y gallwn fod yn gynaliadwy wrth fynd ymlaen.

 

6.

Adolygiad o'r flwyddyn a chynllun ar gyfer y 12 mis nesaf yn y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd gan y panel ddigon o amser i gynnal adroddiad o'r flwyddyn.

 

Camau Gweithredu:

 

·       Ychwanegu adroddiad o'r flwyddyn i'r rhaglen waith ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2018

·       Aelodau'r panel i roi gwybod i'r cynullydd os oes unrhyw eitemau y mae angen eu cynnwys yn y rhaglen waith ar gyfer 2018/19.

 

LLythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 30 Ebrill 2018) pdf eicon PDF 153 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 30 Ebrill 2018) pdf eicon PDF 106 KB