Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datgelu buddiannau - Mike Durke ac Alyson Pugh

2.

Trosolwg o Wasanaethau Plant a Theuluoedd yn Abertawe (gan gynnwys blaenoriaethau a heriau ac adroddiad perfformiad y chwarter cyntaf)

Cyflwyniad gan Julie Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cofnodion:

Rhoddodd Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gyflwyniad i'r panel (dosbarthwyd hwn ar wahân). Roedd Owen Davies hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Pwyntiau trafod:

 

·         Mae’n gadarnhaol bod y cynllun ar waith ac mae'r pwyslais sy’n cael ei roi ar fod yn fwy effeithlon yn arwain at well canlyniadau. 

·         Mae gwasanaethau arbenigol mewnol yn cael eu datblygu ond gellir gwneud mwy.

·         Mae'r gostyngiad yn nifer y plant mewn gofal yn gadarnhaol.

 

Camau Gweithredu:

 

·         Cost cyflogau uwch staff yn y GPaTh i'w rhoi i'r panel.

·         Adroddiad y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol i'w roi gerbron y panel yn flynyddol.  Ychwanegu at y Rhaglen Waith 

 

Rhoddwyd copïau caled o Adroddiad Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer mis Gorffennaf 2017 i’r panel.  Aeth Owen Davies drwy'r adroddiad a chodwyd nifer o sylwadau.

 

Camau Gweithredu:

 

·         Adroddiad ar absenoldebau a swyddi gwag a gweithwyr asiantaeth i'w ychwanegu at y set data perfformiad.

 

 

 

 

 

 

3.

Rôl y Panel gan gynnwys Cylch Gorchwyl a Rhaglen Waith Ddrafft pdf eicon PDF 24 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar y canlynol:

 

·         Rhaglen Waith arfaethedig ar gyfer 2017/18

·         Cytunodd y Panel ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer 2017/18

·         Amserau cyfarfodydd - cytunodd y Panel i drefnu amser amgen ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, ar ôl 4pm o ddydd Llun i ddydd Iau.

 

Camau Gweithredu:

 

·         Dod o hyd i ddyddiadau ac amserau newydd ar gyfer cyfarfodydd y Panel yn y dyfodol

·         Anfon llythyr at Aelod y Cabinet sy'n cynnwys y prif bwyntiau.

 

4.

Llythyrau pdf eicon PDF 157 KB

a) Llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 3 Ebrill 2017)

Cofnodion:

Nodwyd.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 337 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 76 KB