Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 324 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2023 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Cyflwyniad - Diweddariad ar gynnydd gyda'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) PDF 242 KB
Michelle Davies,
Pennaeth Cynllunio Strategol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Julie Davies, Pennaeth
y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Cofnodion:
Roedd Claire Norman, Nyrs Arweiniol CAMHS, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe
yn bresennol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am gynnydd dros y flwyddyn
ddiwethaf, gan nodi y bu ymgais fwy penodol i weithio mwy o fewn y gymuned, a
drwy ad-drefnu'r Gwasanaeth mae un llwybr ar gyfer ymyriadau.
Pwyntiau Trafod:
- Gofynnodd y Panel a oes cysylltiad rhwng y
cynnydd mewn atgyfeiriadau ymhlith grwpiau oedran penodol ac absenoldeb
o'r ysgol yn ystod y pandemig. Clywsant
ei bod hi'n anodd gwybod ond byddent yn synnu pe na bai cysylltiad.
- O ran y graff ar dudalen 11, teimlai'r Panel
fod atgyfeiriadau’n dechrau gostwng o'r brig a gofynnodd a yw hyn yn
debygol o barhau. Dywedwyd nad ydyn
nhw'n disgwyl y bydd yn cyrraedd y brig eto.
- Holodd y Panel am y llwybrau ar gyfer atgyfeirio, pwy all atgyfeirio
ac os yw'n aros yn weddol gyson. Clywodd ei fod wedi aros yn weddol gyson
oherwydd ni fu unrhyw newidiadau sylweddol o ran llwybrau mynediad atgyfeirio dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, ym mis Tachwedd 2023
gwnaethant eu hymestyn fel y gall cwnselwyr mewn
ysgolion atgyfeirio hefyd.
- O ran y graffiau ar dudalen 13 a 14, roedd y
Panel yn teimlo eu bod yn dangos y gwelliant yr hoffent ei weld ond nid
ydynt yn deall sut mae'r llwybrau'n cael eu datblygu, gan nad yw'n
ymddangos eu bod yn gwneud synnwyr o'u cymharu â'r ffigurau gwirioneddol. Esboniwyd pan symudodd CAMHS draw i'r
Bwrdd Iechyd, cytunwyd y dylid cymryd agwedd geidwadol o ran y trywydd
- Gwnaeth y Panel sylw am yr ail graff ar
dudalen 13. Roedd yn cydnabod y gwelliannau yn nhuedd gyffredinol y
gromlin ond roedd yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r ddwy echel yn
dechrau ar sero fel y gellir gweld y gwir drywydd Nodwyd y bydd hyn yn cael
ei ystyried yn y dyfodol er mwyn sicrhau cywirdeb wrth symud ymlaen.
- Llongyfarchodd y Cynghorydd Mary Jones, a
gadeiriodd yr ymchwiliad craffu gwreiddiol ar CAMHS, y BI ar eu holl
waith. Mae hi'n teimlo ei fod yn wasanaeth gwahanol nawr i'r hyn ydoedd
pan ddechreuodd, roedd yn falch o glywed bod atgyfeiriadau bellach yn cael
eu gwneud drwy weithwyr Addysg proffesiynol ond teimlai mai'r un mater
negyddol yw mynediad at y gwasanaeth go iawn, sy'n anodd oherwydd ble y
mae wedi'i leoli yng nghanol Abertawe.
Cytunodd y Panel ei fod wedi gweld gwelliant enfawr o ran CAMHS a'i
fod yn obeithiol y bydd yn parhau.
- Hysbyswyd y Panel ar 9 Chwefror 2024 y bydd
digwyddiad iechyd meddwl i blant.
Maent yn gobeithio y bydd rhai o'r Panel eisiau mynychu a byddant
yn darparu rhagor o wybodaeth.
Camau Gweithredu:
- Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad
iechyd meddwl plant yn cael ei dosbarthu i'r Panel.
|
6. |
Y Diweddaraf am y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol PDF 143 KB
David Howes, Cyfarwyddwr
y Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Mynychodd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal a Julie
Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i roi diweddariad ac ateb
cwestiynau.
Pwyntiau Trafod:
- Clywodd y Panel fod Llywodraeth Cymru wedi
lansio Siarter Rhianta Corfforaethol ym mis Medi
2023. Abertawe oedd un o'r cyntaf i
gofrestru ar ei chyfer.
- Clywodd y Panel fod pobl ifanc wedi rhannu eu
meddyliau mewn cyfres o bodlediadau a fydd ar
gael ar wefan y Cyngor. Bydd y
dolenni i'r rhain yn cael eu rhannu ag Aelodau'r Panel.
- Ar dudalen 22 paragraff 1.4, nododd y Panel
fod 479 o blant sy'n derbyn gofal ond na allent gael y rhifau i adio i
479. Hysbyswyd y Panel nad yw'r
niferoedd yn adio i 479 oherwydd dim ond rhai o'r prif gategorïau lle mae
plant yn byw sydd wedi'u cynnwys.
- Holodd y Panel faint o leoliadau y tu allan
i'r sir sydd yno ac roeddent yn falch o glywed bod llai na llond llaw yn
byw yn Lloegr.
- Nododd y Panel mai 479 oedd nifer y plant a
oedd yn derbyn gofal ym mis Tachwedd 2023 a gofynnodd a oedd hyn yn mynd i
fyny neu i lawr. Dywedwyd ei fod
wedi aros yr un fath yn fras.
- O ran y Cyrchfan Profiad o Ofal, gofynnodd y
Panel a yw'r Adran yn hapus eu bod yn mynd ymlaen i rywbeth sy'n cael ei
gefnogi. Clywodd y Panel fod gan
bob plentyn a pherson ifanc hyd at 21 oed gynghorydd person ifanc
dynodedig ac mae gan bob person ifanc hyd at 18 oed weithiwr cymdeithasol
hefyd, felly bydd ganddynt gynllun llwybr ar waith. Adroddiad llawn i'w gyflwyno i'r Panel.
- Dywedodd y Panel fod ganddo bryderon yn
flaenorol am y canlyniadau y mae plant sy'n derbyn gofal yn eu cyflawni a
gofynnwyd pryd y gallai weld rhagor o wybodaeth am hyn. Cytunodd swyddogion i wirio gydag Addysg
pryd y gellir rhoi cyflwyniad am 'ysgolion rhithwir' i'r Panel yn y
flwyddyn ddinesig newydd.
Camau Gweithredu:
- Caiff dolen i bodlediadau
ei dosbarthu i Aelodau'r Panel
- Eitem ar 'Gyrchfan Profiad o Ofal' i'w
hychwanegu at gynllun gwaith yn y dyfodol.
- Cyflwyniad ar 'Ysgolion Rhithwir' i'w
ychwanegu at gynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf.
|
7. |
Cynllun Waith 2023-24 PDF 40 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod
nesaf.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 23 Ionawr 2024) PDF 133 KB
|