Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Awst 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Cyflwyniad gan Ofalwyr Ifanc

Gavin Evans, Prif Swyddog y Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd

 

Cofnodion:

Roedd Gavin Evans, Prif Swyddog Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd, Helen Howells, Rheolwr Tîm Cefnogi Disgyblion ac Egija Cinovska, Cydlynydd Gofalwyr Ifanc yn y YMCA yn bresennol i gyflwyno fideo a wnaed gan Ofalwyr Ifanc yn y Fforwm Gofalwyr Ifanc sydd wedi helpu i lunio cynllun i gefnogi Gofalwyr Ifanc.

Pwyntiau i'w trafod:

  • Gofynnodd y panel sut y mae'r gwasanaeth yn darganfod faint o ofalwyr ifanc sydd a'r canrannau maent yn eu cyrraedd. Clywyd bod yr ystadegau'n cyd-fynd â'r ystadegau cenedlaethol e.e. tri gofalwr ifanc ym mhob dosbarth yn y DU. Dywedwyd bod gofalwyr ifanc yn cael eu nodi drwy sesiynau ABCh a gynhelir mewn ysgolion. Mae'r gwasanaeth yn tyfu gan ei fod yn derbyn gymaint o atgyfeiriadau a byddai'n elwa o ragor o weithwyr.
  • Cadarnhaodd swyddogion fod yr YMCA yn cefnogi unrhyw oedran, rhyw, unrhyw berson y mae angen cefnogaeth arnynt o fewn ein cymunedau.
  • Gofynnodd y panel bwy arall fyddai'n derbyn y cyflwyniad. Rhoddwyd gwybod bod y cynllun wedi cael ei rhannu â nifer o bartneriaethau strategol er mwyn derbyn cymeradwyaeth a derbyniwyd ymateb cadarnhaol. Clywyd o adborth gofalwyr ifanc mai un o'r prif bethau yw sicrhau bod pob ysgol yn cymryd rhan a bod hyrwyddwr ar gyfer pob ysgol.
  • Gwnaeth y panel sylwadau am yr iaith a ddefnyddiwyd yn y cyflwyniad a dywedwyd ei fod yn eithaf aeddfed. Teimlai'r panel os y bydd yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion gyda phlant iau mae angen iddo fod yn fwy addas at eu hoedrannau.
  • Gofynnodd y panel ers pryd sefydlwyd gwasanaeth Gofalwyr YMCA ac ym mhle ydyn nhw ar eu taith. Clywyd cafodd ei sefydlu saith mlynedd yn ôl. Teimlai swyddogion ei fod wedi bod yn llwyddiannus oherwydd mae gofalwyr ifanc wedi ei lunio a dywedwyd wrth y gwasanaeth am yr hyn yr oedd ei angen arnynt.

 

6.

Strategaeth a Chynllun Gweithredu'r Strategaeth Glasoed pdf eicon PDF 174 KB

Helen Williams, Prif Swyddog Gwasanaethau’r Glasoed a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Roedd Julie Davies, Pennaeth Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd a Helen Williams, Prif Swyddog Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r panel ar y mater hwn gan gynnwys camau gweithredu a llwyddiannau hyd heddiw a dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Pwyntiau i'w trafod:

  • Holodd y panel pam nad oedd eiriolaeth wedi cael ei grybwyll yn yr adroddiad. Rhoddodd swyddogion sicrwydd fod yr holl blant y maent yn ymdrin â hwy yn derbyn y cynnig ac yn derbyn anogaeth i'w ddefnyddio.
  • Gofynnodd y panel a oedd swydd Swyddog Adolygu Annibynnol (SAA) o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol o hyd, (cadarnhaodd swyddogion fod hynny'n gywir) ac a oedd y gwasanaeth yn teimlo bod ganddo ddigon o staff yn y meysydd hynny ar hyn o bryd. Clywyd bod Gwasanaethau'r Glasoed yn dechrau gweld heriau wrth recriwtio gweithwyr cymdeithasol. Fel arall, mae staff cymwys yn cael eu recriwtio i helpu gyda'r galw cynyddol am gefnogaeth. Mae lefelau staffio ar gyfer SAA yn eithaf iach.
  • Nododd y panel rhagor o drafodaeth am y System Cyfiawnder Ieuenctid yn yr adroddiad a gofynnwyd a oedd hyn yn arwydd bod rhagor o bobl ifanc yn dechrau cyflwyno problemau. Clywyd, o ran llety, mae rhagor o bobl ifanc yn cyflwyno anghenion am gefnogaeth ychwanegol ac mae'n anodd gwybod yr achos yn benodol. Rhoddwyd gwybod, o ran cyfiawnder ieuenctid, nid oeddent yn gweld niferoedd mwy sylweddol o bobl ifanc sy'n dod trwy'r gwasanaeth ar yr ochr statudol ond mae'r cynnig am ataliaeth o fewn y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn tyfu'n sylweddol yn nhermau ecsbloetio.
  • Gofynnodd y panel a oedd y gwasanaeth yn fodlon gyda'r ffordd y mae Barnardo's yn cyflwyno contractau. Clywyd nad oedd unrhyw broblemau gyda Barnardo's o ran ansawdd darpariaeth. 

 

7.

Cynllun Waith 2023-24 pdf eicon PDF 37 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y panel y cynllun gwaith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 13 Medi 2023) pdf eicon PDF 118 KB

Ymateb at Aelod y Cabinet (cyfarfod 13 Medi 2023) pdf eicon PDF 145 KB