Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datganodd Cheryl Philpott fuddiant personol.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 322 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y panel
fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2023 yn gofnod cywir o'r
cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Adroddiad Lles/Perfformiad Blynyddol PDF 208 KB
Julie Davies, Pennaeth
y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Damian Rees, Prif Swyddog Diogelu a
Pherfformiad
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Gofal a Julie
Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, yn bresennol i friffio'r
panel ar yr eitem hon ac i ateb cwestiynau.
Pwyntiau i'w trafod:
- Clywodd y panel ei bod wedi bod yn flwyddyn
heriol arall ond bod llawer o bethau cadarnhaol, gan gynnwys ffyrdd newydd
o waith sydd wedi'u gwreiddio a llawer o waith dysgu wedi'i wneud.
- Diolchodd Aelod y Cabinet i Bennaeth y
Gwasanaeth a'i swyddogion am eu gwaith caled.
- Teimlodd y panel fod yr adroddiad yn hawdd
iawn ei ddarllen, roedd y fformat yn eglur ac roedd yn dangos cryfder cred
y swyddogion.
- Nododd y panel fod 24 o blant wedi'u hailatgyfeirio i'r gofrestr amddiffyn plant o fewn blwyddyn,
a gofynnwyd a oedd dadansoddiad o ran y rhesymau dros eu hailatgyfeirio. Fe'i hysbyswyd bod hyn yn dibynnu ar
amgylchiadau'r plentyn.
- Gofynnodd y panel ynghylch y sefyllfa o ran
prinderau staff. Clywyd bod niferoedd y staff sydd yno ar hyn o bryd mor
isel â phedwar aelod ac mae diddordeb mawr wedi bod yn yr Academi.
- Nid oedd y panel yn ymwybodol o'r ymadrodd
'Bod â llais, dewis a rheolaeth'. Clywyd bod yr ymadrodd hwn wedi'i
gynnwys yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bydd arolygydd
Arolygiaeth Gofal Cymru yn gofyn pa dystiolaeth sydd mewn perthynas â hyn
bob tro y byddant yn cyfarfod.
- Gofynnod y panel am esboniad ynghylch
archwilio ansoddol. Rhoddwyd gwybod bod yr adroddiad bob mis yn cynnwys
rhai themâu ynghylch y canfyddiadau sydd wedi'u harchwilio'n benodol a
rhoddwyd hyn at ei gilydd i roi'r darlun llawn. Cytunodd y panel y dylid
cynnal sesiwn ar hyn i'w ddeall yn well ac y byddai'n ddefnyddiol ei
gynnwys mewn adroddiadau ar sail chwarterol.
- Nododd y panel bod nifer yr adolygiadau
gofalwr a gwblhawyd o fewn amserlenni'n isel iawn rhwng mis Mehefin 2022 a
mis Mawrth 2023, sy'n awgrymu y'u gwnaed yn hwyr. Rhoddwyd gwybod bod
ôl-groniad o adolygiadau wedi bod ond eu bod wedi dal i fyny ac mae'r
darlun lawer yn well erbyn hyn.
- Teimlodd y panel ei fod yn adroddiad
cynhwysfawr a chadarnhaol, sy'n glod i Bennaeth y Gwasanaeth ac i'r Adran.
Camau Gweithredu:
- Bydd y panel yn derbyn sesiwn ar archwilio
ansoddol y tro nesaf y bydd Monitro Perfformiad ar yr agenda (mis Rhagfyr
2023).
|
6. |
Gwasanaethau Gofal Preswyl (gan gynnwys diweddariad ar Dy Nant) PDF 357 KB
Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd
Chris Griffiths, Prif Swyddog y Gwasanaethau
Preswyl
|
Cofnodion:
Roedd Chris Griffiths, Prif Swyddog y Gwasanaethau Preswyl, yn bresennol er
mwyn rhoi trosolwg o'r Gwasanaethau Gofal Preswyl i Blant, gan gynnwys
cynlluniau i ddatblygu gwasanaethau gofal preswyl mewnol, heriau a'r camau
nesaf a gynigir a'r cynnydd o ran Tŷ Nant.
Pwyntiau i'w trafod:
- Yr her fwyaf ar hyn o bryd yw staffio a
phenderfyniad Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar elwau ym maes gofalu am blant
sy'n derbyn gofal o fis Ebrill 2026, sy'n arwain at leihad yn nifer y
darparwyr allanol.
- Roedd y panel yn falch o glywed bod Cartref 2
bellach wedi'i gofrestru'n llawn gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ers
27 Gorffennaf 2023.
- Gofynnwyd i swyddogion esbonio'r gwahaniaeth
rhwng 'rheoledig' ac 'anrheoledig'. O safbwynt
statudol, mae cartrefi rheoledig wedi'u cymeradwyo ac wedi derbyn asesiad
risg gan AGC, ac wedi cael yr awdurdod i weithredu a lleoli pobl ifanc
yno. Nid yw AGC wedi cymeradwyo'r ddarpariaeth mewn lleoliadau anrheoledig ond oherwydd hyn, mae asesiadau risg yn
fwy cadarn gan nad yw'r corff rheoleiddiol yn eu goruchwylio.
- Gofynnodd y panel pa broblemau/heriau y mae'r
awdurdod yn eu wynebu wrth gynghori â phreswylwyr mewn ardaloedd lle mae
cartrefi i blant yn cael eu hystyried. Clywyd yn unol ag arweiniad AGC bod
asesiadau lleoliad a mangre'n digwydd cyn
ymgysylltu â chymunedau. Rhoddwyd gwybod bod rhai o'r heriau gyda'r eiddo
newydd wedi bod mewn perthynas â lleoliad yn unig. Mynegwyd pryderon gan y
gymuned ynghylch diogelwch gyda Chartrefi 3 a 4.
- Teimlai'r panel fod y gwasanaeth yn
trawsnewid ar hyn o bryd oherwydd y gofynion o ran lleihau elw. Nododd
swyddogion yr hoffai'r gwasanaeth leihau'r defnydd o ddarparwyr allanol
ond y bydd yn dibynnu arnynt o hyd. Maent yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol
petai Llywodraeth Cymru'n rhoi diffiniad eglur o ystyr 'nid er elw'.
- Roedd y panel yn falch o glywed y cafwyd
gwelliant sylweddol yn Nhŷ Nant. Yn ystod yr ymweliad diwethaf,
tynnwyd pob hysbysiad o gamau gweithredu sy'n flaenoriaeth ac roedd unig
faes i'w wella'n perthyn i asesiadau darparwyr, a oedd yn cael ei adolygu
ar y pryd.
|
7. |
Cynllun Waith 2023-24 PDF 36 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod
nesaf.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 2 Awst 2023) PDF 122 KB
|