Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw
ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 324 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mai 2023 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno
d gwaith cyn
y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eite
mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Monitro Perfformiad PDF 208 KB
Julie
Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Julie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wybodaeth
i'r Panel am yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Ebrill 2023, ac
atebodd gwestiynau'r Panel.
Pwyntiau i'w trafod:
- Ym mis Ebrill,
cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru adolygiad cyflym o amddiffyn plant yn
Abertawe. Roedd yr adborth yn
gadarnhaol.
- Nododd y Panel fod
y niferoedd mewn gofal preswyl wedi cynyddu ychydig. Clywodd y Panel fod
hwn yn gysylltiedig â diffyg gofalwyr maeth. Roedd ymgyrch recriwtio ym mis Mai gyda
Gofal Maeth Cymru.
- Gofynnodd y Panel
am y cynnydd a ddangosir ar y graff ar gyfer pobl a oedd yn mynd i
Ganolfannau Cymorth Cynnar ym mis Ebrill 2022. Fe'i hysbyswyd fod hyn o ganlyniad i
newid mewn cofnodi rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2022.
- Gofynnodd y Panel
a yw'r Tîm Asesu Gofalwyr Annibynnol yn fewnol, ac os felly, sut mae'n
annibynnol? Clywodd y Panel fod y tîm yn ystyried y gofalwyr eu hunain yn
eu rhinwedd eu hunain, yn lle cynnal asesiad rhiant/plentyn.
- Nododd y Panel y
byddai'n pryderu petai rhywun yn mynd yn ôl ar y gofrestr amddiffyn plant
lai na flwyddyn ar ôl cael ei dynnu oddi ar y gofrestr. Cytunodd
swyddogion i gynnwys hyn ar gyfer dadansoddiad o'r adroddiad perfformiad
yn y dyfodol.
- Gofynnodd y Panel
a oedd unrhyw broblemau o ran cyflwyno'r ffurflen newydd ac a oedd yr
adran yn fodlon arni. Clywodd fod y ffurflen wedi datblygu yn ôl y disgwyl
a'i bod yn parhau i wneud hynny.
- Nododd y Panel nad
oedd unrhyw sôn am lefelau staffio yn yr adroddiad, yn enwedig y nifer o
staff asiantaeth. Hysbyswyd y Panel, yn ystod y cyfrif diwethaf roedd
pedwar gweithiwr cymdeithasol asiantaeth ond byddent yn croesawu mwy ar
hyn o bryd ac roeddent yn ceisio recriwtio dau arall.
Camau Gweithredu:
- Data i'w gynnwys wrth
ddadansoddi'r adroddiad perfformiad yn y dyfodol - 'nifer y plant a
ychwanegwyd at y Gofrestr Amddiffyn Plant, o fewn 12 mis o datgofrestru, sydd wedi cael eu hailgofrestru dan yr
un categori.'
|
6. |
Diweddaraf am y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol PDF 205 KB
Nichola
Rogers, Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol, Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Nichola Rogers, Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol, yn bresennol i
friffio'r Panel ac ateb cwestiynau.
Pwyntiau i'w trafod:
- Gofynnodd y Panel sut mae'r Gwasanaeth yn
cynhyrchu incwm. Clywodd y Panel, yn ystod y pandemig roedd mwy o fabwysiadwyr ar y rhestr na phlant oedd ar gael. Roedd
nifer o'r mabwysiadwyr wedi symud draw i gofrestr fabwysiadu ar gyfer
Cymru ac yn chwilio am blant a oedd ar gael i'w mabwysiadu ar draws y
DU. Roedd y gwasanaeth mabwysiadu
rhanbarthol wedi derbyn ffi leoliad ar gyfer y lleoliadau hynny.
- Gofynnodd y Panel beth yw ystyr atgyfeiriadau
'olrhain gefeilliaid' Hysbyswyd y Panel, pan mae awdurdod lleol yn
penderfynu bod angen rhoi gweithdrefnau gofal ar waith a chwilio am y
cynllun gorau ar gyfer y plentyn, os yw mabwysiadu'n opsiwn tebygol
byddant yn atyfeirio hyn i'r gwasanaeth
mabwysiadu rhanbarthol ar y pwynt hwnnw.
Nid yw pob rhanbarth yn gwneud hyn.
- Gofynnodd y Panel a oes digon o fabwysiadwyr ar hyn o bryd ar gyfer nifer y plant y
mae angen eu mabwysiadu. Fe'i hysbyswyd bod gan y gwasanaeth gronfa o fabwysiadwyr sy'n aros, a thrwy'r
prosiect cyfran y farchnad mae lleoliadau ychwanegol y gall eu defnyddio,
felly eleni mae'n debygol o fod yn gyfartal.
- Nododd y Panel y gostyngiad yn nifer y
cymeradwyaethau a gofynnodd a oedd hyn yn bryder. Clywodd ei fod yn bryder
a'i fod wedi dod yn broblem genedlaethol. Bydd angen i'r Panel fonitro
hwn.
- Gofynnodd y Panel am y sefyllfa bresennol o
ran straeon bywyd. Clywodd fod Cymru'n gwneud gwelliannau yn y maes hwn.
Yn rhanbarthol, datblygwyd tîm bach o fewn y gwasanaeth sy'n edrych ar y
gwaith taith fywyd a gynigir i fabwysiadwyr.
|
7. |
Rhaglen Waith Drafft 2023-24 PDF 34 KB
Cofnodion:
Trafododd a chytunodd y Panel ar ei gynllun gwaith ar gyfer 2023-24.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Mehefin 2023) PDF 119 KB
|