Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 348 KB

Derbyn Nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar gofnodion y cyfarfod ar 9 Mawrth 2022 fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

5.

Rôl Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau rôl y Panel.  Cododd y Cynullydd nifer o bwyntiau. Teimlodd y byddai'n dda gweld mwy o aelodau ar y Panel, ond y cryfder mawr yw bod llawer o'r aelodau'n brofiadol. Nododd y bydd y Panel yn parhau i ddal yr adran i gyfrif mewn ffordd adeiladol.

6.

Trosolwg o'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn Abertawe pdf eicon PDF 137 KB

Gwahoddwyd:

Y Cynghorydd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Gofal

David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, drosolwg o Wasanaethau Plant a Theuluoedd yn Abertawe, gan gynnwys heriau a blaenoriaethau. Aeth y Pennaeth Gwasanaeth drwy'r Adroddiad Perfformiad.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Rhoddwyd gwybod i'r panel am lawer o bwysau ar y gwasanaeth, yn enwedig recriwtio gweithwyr cymdeithasol a lleoliadau. Fodd bynnag, mae'r holl ofynion statudol allweddol yn cael eu bodloni ac mae rhai pethau cadarnhaol yn adroddiad perfformiad mis Awst. Mae'r blaenoriaethau'n parhau i gynnwys atal ac ymyrryd yn gynnar.
  • Clywodd y panel fod y prif arolygydd lleol yn falch iawn gyda chynnydd yr adroddiad perfformiad a bod yr adran wedi ystyried canfyddiadau'r bwrdd yn dilyn yr arolwg diwethaf ychydig flynyddoedd yn ôl.
  • Gofynnodd y panel a oedd y manylion ychwanegol wedi darparu unrhyw arweiniad pellach ar gyfer yr adran o ran cynllunio ar gyfer y dyfodol a dyrannu adnoddau. Nodwyd y defnyddir data er mwyn llywio a dylanwadu ar sut mae'r adran yn targedu adnoddau.
  • Gofynnodd y panel am staff sydd wedi'u cymhwyso mewn ffordd arall - sut maent yn debygol o gael eu recriwtio; lefelau cyflog priodol; faint o hyblygrwydd sydd gan y cyngor yn y pecyn y mae'n ei gynnig i'w wneud yn ddeniadol. Rhoddwyd gwybod i'r panel bod y cyngor yn gyflogwr cyflog byw ac mae'r ffaith y cynigir cyfle i gamu ymlaen yn eich gyrfa'n gryfder yn Abertawe. Mae Arweinydd Datblygu'r Gweithlu ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yn helpu i ddatblygu llwybr dilyniant ar gyfer pob agwedd ar y gwasanaeth. Mae'r cyngor yn cynnig amodau gwaith hyblyg ac ystwyth ac yn cefnogi lles mewn ffordd gadarnhaol.
  • Gofynnodd y panel a oes unrhyw gwmpas i wneud unrhyw beth gyda gwirfoddolwyr banciau bwyd, y byddai nifer ohonynt yn gwerthfawrogi arweiniad o ran beth i'w wneud os byddant yn cwrdd â theulu sy'n achosi pryder. Rhoddwyd gwybod bod CGGA yn cynnig hyfforddiant diogelu i wirfoddolwyr a gallai ehangu'r cynnig hwn drwy CGGA fod yn werthfawr er mwyn eu helpu i ddeall continwwm angen y gwasanaeth, a all eu helpu i ddeall beth i'w gyfeirio at y Gwasanaethau Cymdeithasol. Gall y gwasanaeth hefyd eu cysylltu â'i Ganolfannau Cymorth Cynnar. Mae'n cynnal cyfarfodydd Canolfannau Cymorth Cynnar lleol, a fyddai'n lle da i gael y sgwrs hon i helpu gyda dealltwriaeth a sicrwydd.
  • Mae'r panel yn falch bod y system WCCIS yn parhau i ddatblygu a theimlodd fod y data perfformiad newydd a gyflwynwyd yn eithaf trawiadol. Cytunodd y Cyfarwyddwr.
  • Gofynnodd y panel a oedd gofal maeth gyda chyswllt teulu'n cynnwys teidiau a neiniau neu deulu agos yn unig. Dywedwyd y gall eu cynnwys, ond mae'n dibynnu ar amgylchiadau unigol y plentyn dan sylw.
  • Rhoddwyd gwybod i'r panel y gallai'r cyngor gael pedwar cartref i blant ar draws Abertawe yn y 12 mis nesaf o bosib.
  • Clywodd y panel fod cartrefi a gynhelir yn breifat yn Abertawe'n creu lefel o alw o fewn y gwasanaeth ac o ran yr Heddlu ac Iechyd.

 

Camau Gweithredu:

  • Bydd swyddogion yn gwneud gwaith dilynol gyda'r CGGA o ran helpu i wella hyfforddiant diogelu i wirfoddolwyr a byddant yn adrodd yn ôl i'r panel.
  • Bydd swyddogion yn trefnu i gysylltu gwirfoddolwyr â Chanolfannau Cymorth Cynnar.

 

7.

Rhaglen Waith ddrafft 2022-23 pdf eicon PDF 33 KB

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar y Rhaglen Waith ar gyfer 2022-23.

 

Pwyntiau Trafod:

  • Eitem ar anabledd plant yn ystod cyfarfod mis Ionawr i gynnwys yr holl amrywiaeth o blant ag anableddau.
  • Mae angen i'r Adroddiad Monitro Perfformiad gynnwys data allweddol o adroddiad gweithlu mwy manwl. Mae gan y panel ddiddordeb arbennig mewn goruchwyliaeth, canran y staff asiantaeth, lefelau salwch, lles staff.

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 11 Hydref 2022) pdf eicon PDF 310 KB

Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 11 Hydref 2022 ) pdf eicon PDF 128 KB