Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datganodd Cheryl Philpott fuddiant personol.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 322 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2022
yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Diweddariad ar Raglen Wella a Monitro Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd PDF 266 KB
Julie
Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Gemma
Whyley, Prif Swyddog Trawsnewid
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Gemma Whyley, Prif Swyddog Trawsnewid, ddiweddariad i'r Panel ar y
Rhaglen Wella a rhoddodd Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd, ddiweddariad i'r Panel ar yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer
mis Hydref 2022.
Pwyntiau Trafod:
- Roedd y Panel yn falch o glywed am yr Academi
Gwaith Cymdeithasol ac yn teimlo’i bod yn hynod arloesol.
- Gofynnodd y Panel am niwroamrywiaeth
a'r effaith y mae'r ôl-groniad o ran diagnosis yn ei chael. Clywyd bod
rhestrau aros ar gyfer asesiadau diagnostig ar draws Cymru. Mae
Llywodraeth Cymru wedi cytuno i roi cyllid ychwanegol i bartneriaethau
rhanbarthol, ond mae'n annhebygol y bydd yn cael llawer o effaith ar
amserau aros.
- Mae diffyg dybryd o weithwyr cymdeithasol o
hyd ac nid oes unrhyw arwydd bod hyn yn dod i ben.
- Mewn cyfarfod blaenorol, roedd y Panel wedi
gofyn am am ffigurau ar gyfer nifer y plant sy'n
derbyn gofal nad ydynt yn derbyn gofal yng Nghymru. Cadarnhaodd
swyddogion, o'r 479 o blant sy'n derbyn gofal, fod 112 ohonynt yn byw mewn
awdurdodau cyfagos, 52 yn byw mewn awdurdodau eraill yng Nghymru, 20 yn
byw yn Lloegr ac 1 yn byw yn yr Alban gydag aelodau o’i deulu.
- Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal y tu
allan i Gymru'n cynyddu. Un o'r rhesymau dros
hyn yw diffyg y lleoliadau addas yng Nghymru, yn rhannol oherwydd rhaglen
‘dileu’ elw Llywodraeth Cymru, sy'n golygu bod rhai darparwyr yn pryderu
am eu dyfodol yng Nghymru.
- Nododd y Panel fod llawer o eitemau yn yr
Adroddiad Perfformiad yn dweud 'adroddiad i'w lunio'. Fe'i hysbyswyd bod
hyn yn rhannol oherwydd y newid i System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru,
bu’n rhaid datblygu systemau ac mae'r ffocws wedi bod ar ddata craidd a
gwybodaeth ac mae'r bylchau'n geisiadau newydd yn bennaf. Un o'r heriau mwyaf yw dilysu'r data ac
mae hwn yn cymryd amser.
- Holodd Panel ynghylch ystyr ymholiad Adran 47
a chlywodd mai dyma'r cam ymchwilio. Mae'n nodi'r fframwaith y mae angen i
bob asiantaeth ei ystyried.
- Nododd y Panel fod nifer yr achosion sy’n
aros i gael eu neilltuo’n cynyddu. Cadarnhaodd swyddogion fod rhagor o
achosion yn codi a’u bod yn aros am ragor o staff i ddechrau eu swyddi
Cymorth Cynnar er mwyn neilltuo’r rhain iddynt.
- Yn yr Adroddiad Perfformiad, mae'n nodi, 'Mae
prosesau AD yn parhau i lesteirio llenwi swyddi gwag yn gyflym er mwyn
atal rhestrau aros'. Clywyd bod yr adran yn cynnal trafodaethau â'r Adran
AD Corfforaethol ac arweiniodd gyfuniad o drosiant nifer y swyddi o fewn
yr awdurdod a materion gallu mewn perthynas ag Oracle Fusion
at ôl-groniad yn y ganolfan gwasanaethau. Oherwydd hyn, mae'r adran wedi
cael sicrwydd y daliwyd i fyny â'r holl ôl-groniad a bydd adnoddau'n canolbwyntio
ar y swyddi mwyaf brys, gan gynnwys swyddi gwag y Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd.
- Mae gan yr adran tua 169 o swyddi gwag a 12 o
aelodau staff asiantaeth. Roedd y Panel yn bryderus ynghylch nifer y
swyddi gwag ar draws y gwasanaeth, ac ynghylch y sefyllfa yn y gorffennol
gyda diffyg staff a staff asiantaeth nad ydynt yn deall sefyllfaoedd yn
llawn. Roedd y Panel yn teimlo, wrth i'r Academi gael ei sefydlu, fod yr
adran yn gwneud ymdrech fawr mewn perthynas â'r broblem hon.
|
6. |
Diweddariad gan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol PDF 326 KB
Julie
Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Damian
Rees, Prif Swyddog, Diogelu a Pherfformiad
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i
friffio'r Panel ar yr eitem hon ac ateb cwestiynau.
Pwyntiau Trafod:
- Clywodd y Panel am gyfleoedd y Rhwydwaith
Eiriolaeth Rhieni (RhERh) a theimlodd fod y
ffaith bod y gwasanaeth yn cael ei lywio gan bobl sy'n defnyddio'r
gwasanaeth hwnnw'n fuddiol iawn.
- Gofynnodd y Panel a oedd yr adran yn hapus
bod y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn gweithio cystal ag y dylai fod. Clywyd
bod heriau a chymhlethdodau o ran gweithio ar sail ranbarthol yn hytrach
na chael bwrdd lleol, ond mae hefyd yn darparu cyfleoedd gwell. Clywodd y
Panel hefyd fod lefel dda o sicrwydd yn gyffredinol gan fod gennym ein
bwrdd diogelu corfforaethol ein hunain; gan ein bod wedi cael adborth da
gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch y trefniadau; gan fod ein Pwyllgor
Archwilio’n dangos ddiddordeb; gan ein bod wedi derbyn arolygiad da gan
Estyn a nododd fod hyn yn gadarnhaol a chan ein bod wedi cael adborth da
mewn adroddiadau AGC ar ddiogelu.
|
7. |
Adroddiad Blynyddol yr Uned Diogelu ac Ansawdd PDF 219 KB
Damian Rees, Prif Swyddog
Diogelu a Pherfformiad
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Damian Rees, Prif Swyddog Diogelu a Pherfformiad, yn bresennol i
friffio'r Panel ynghylch Adroddiad Blynyddol yr uned hon ar gyfer 2021-22 ac i
ateb cwestiynau'r Panel.
Pwyntiau Trafod:
- Roedd y Panel yn falch o weld gostyngiad yn
nifer yr ailgofrestriadau o fewn 12 mis ar y
gofrestr amddiffyn plant a gostyngiad yn nifer y plant sy'n dod oddi arni
ar ôl yr adolygiad cyntaf. Mae hyn yn galonogol iawn.
- Gofynnodd aelodau’r Panel a edrychir ar y
Cynlluniau Addysg Unigol pan maent yn edrych ar adolygiadau cynlluniau
personol. Fe’u hysbyswyd yr edrychir ar
Gynlluniau Addysg Unigol yn ystod pob adolygiad plant sy'n derbyn gofal os
yw'r plentyn mewn addysg o hyd.
- Teimlai’r Panel fod y drafodaeth ynghylch
Swyddogion Adolygu Annibynnol (SAAau) yn
ddefnyddiol iawn ac edrychir ar hyn eto mewn blwyddyn.
|
8. |
Rhaglen Waith 2022-23 PDF 33 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod
nesaf.
Camau Gweithredu:
- Caiff y Cyng. Mary Jones ei gwahodd ar gyfer
yr eitem ar CAMHS fel Cadeirydd yr ymchwiliad craffu blaenorol.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 5 Rhagfor 2022) PDF 123 KB
|