Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatgeliadau.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cwestiynau gan y Cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
4. |
Gwasanaethau Gofal Preswyl PDF 186 KB
Chris Griffiths, Prif Swyddog
y Gwasanaethau Preswyl
Cofnodion:
Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal a swyddogion
perthnasol yn bresennol i roi trosolwg o wasanaethau preswyl i blant yn
Abertawe.
Pwyntiau Trafod:
- Dywedodd y Panel fod y Gwasanaeth mewn
sefyllfa heriol iawn gyda diffyg lleoliadau addas ar gyfer plant, ond ei
fod yn gweithio'n galed iawn i ddatblygu ei ddarpariaeth ei hun ac mae
adroddiadau'n dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud.
- Nododd y Panel fod y Datganiad o Ddiben am 12
wythnos a holodd beth oedd hyn yn ei olygu i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
ac yn bwysicach, i'r bobl ifanc dan sylw. Cawsant wybod bod hwn yn ffigwr
mympwyol a'i fod yn dibynnu ar p'un a oes trosglwyddiad mwy priodol i'r
person ifanc symud ymlaen i ddarpariaeth fwy sefydlog o fewn y 12
wythnos. Mae'r gwasanaeth yn
gweithio'n agos gyda thîm rheoliadau ac arolygiadau AGC ar hyn, ac maent
yn gwbl ymwybodol o'r heriau.
- Roedd Aelodau'r Panel yn deall pam nad yw
plant yn hapus i wneud elw allan ohonynt a'u bod yn cytuno â symud ymlaen
gyda diffyg elw. Holodd y Panel a
oes unrhyw negyddiaeth gyda lleoliadau maeth oherwydd eu bod yn cael eu
talu. Dywedodd y Panel nad yw byth yn achos i leoliad chwalu, ond gall
ddod yn broblem os yw'n cael ei drafod yn y ffordd anghywir.
- Nododd y Panel fod yna le mewn darpariaeth
gofal preswyl i 3 o blant yn Abertawe ar hyn o bryd a bod y gwasanaeth yn
bwriadu cynyddu hyn i 7 ond teimlai fod hyn yn dal i ymddangos yn isel
iawn ar gyfer ardal maint Abertawe.
Holodd y Panel a yw'r awdurdod mewn sefyllfa lle mae'n gorfod rhoi
plant dan ofal preswyl y tu allan i Abertawe a beth yw'r niferoedd ar
gyfer hyn. Clywodd y Panel fod rhai'n derbyn
gofal yn Abertawe ac awdurdodau cyfagos ac mae'r mwyafrif yng Nghymru.
- Mynegodd y Panel bryder y bydd Cartref 3, lle
y daw plant o unedau diogel, a Chartref 4 sydd ar gyfer darpariaeth frys,
yn cael eu lleoli wrth ymyl ei gilydd. Cawsant wybod y bydd yn 2 gartref
ar wahân ac y bydd un yn lled-ddiogel.
- Gofynnodd y Panel a oedd o fudd economaidd
i'r awdurdod gael ei gyfleusterau ei hun neu gyfleusterau a ddarperir gan
ddarparwyr allanol. Clywyd bod
cael gwasanaethau mewnol yn yr awdurdod lleol yn parhau i fod yn fuddiol o
ran arbed costau. Fodd bynnag, mae gwerth hefyd mewn cadw plant a phobl
ifanc yn lleol er mwyn cadw eu hunaniaeth, sydd yr un mor werthfawr â’r
arbediad cost i’r awdurdod lleol.
Hefyd, mae gan yr awdurdod gynnig hyfforddiant gwell ar gyfer
staff.
- Holodd y Panel a oes gan blentyn sy'n byw y
tu allan i ardal yr awdurdod yr un safon o ofal â gwasanaethau'r
cyngor. Clywodd y Panel fod gan yr
awdurdod swyddog monitro contractau sy'n sicrhau ansawdd yr holl blant a
phobl ifanc sy'n derbyn gofal y tu allan i ddarpariaethau'r awdurdod. Mae rheoleiddwyr AGC hefyd yn archwilio'r
ddarpariaeth ac yn rhannu'r wybodaeth hon â'r awdurdod lleol y mae'r plant
wedi'u lleoli ynddo.
- Dywedodd y Panel fod gan yr holl blant a
phobl ifanc y mae angen gofal a chymorth arnynt ar hyn o bryd ddarparwyr
cofrestredig.
- Holodd y Panel a oedd unrhyw wrthwynebiad
lleol i'r cartrefi preswyl newydd arfaethedig. Hysbyswyd y Panel ei fod yn y camau
cynnar ar hyn o bryd ond nid yw'r gwasanaeth yn rhagweld unrhyw
bryderon. Y bwriad yw cysylltu â'r
gymuned leol, mewn partneriaeth â chynghorwyr lleol, i egluro beth mae'n
ei olygu cyn i arwyddion cynllunio gael eu gosod, gyda'r gobaith y bydd
cadernid cymunedol.
- Roedd y Panel yn falch o glywed beth mae
plant a phobl ifanc wedi ei ddweud am Dŷ Nant.
- Cadarnhaodd swyddogion fod sgiliau bywyd
wedi'u cynnwys yn yr amserlen yn Nhŷ Nant. Maen nhw am geisio gwneud pobl ifanc mor
hunangynhaliol â phosib.
- Roedd y Panel am wybod pam mae staff yn dal i
wneud camgymeriadau ar waith papur am dderbyniadau yn Nhŷ Nant, gan
fod cyn lleied o bobl y mae'n rhaid ei gwblhau ar eu cyfer. Clywodd y
Panel fod y gwaith papur yn ymddangos yn syml, ond mae'r canllawiau'n
eithaf cymhleth ac mae llawer o wybodaeth y mae angen ei chofnodi'n gywir
ar waith papur derbyniadau. Mae'r gwasanaeth yn gweithio gydag AGC i
nodi'r modelau gorau i'w defnyddio fel nad yw gwaith papur mor gymhleth
i'w gwblhau. Mae gan y Panel
ddiddordeb mawr mewn gweld y canlyniad yn dilyn archwiliad pellach o
Dŷ Nant ym mis Rhagfyr 2022.
Camau Gweithredu:
- Ychwanegu 'Sesiwn Friffio ar Arolygiad sy'n
canolbwyntio ar Dŷ Nant' at raglen waith y dyfodol.
|
5. |
Y Diweddaraf am y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol PDF 154 KB
Julie
Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Cofnodion:
Roedd Julie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, yn bresennol
i roi trosolwg i'r Panel o'r cynllun gwaith ar gyfer y Bwrdd Magu Plant
Corfforaethol dros y flwyddyn nesaf a'r cynnydd hyd yma.
Pwyntiau Trafod:
- Soniodd y Panel fod ganddyn nhw bryderon yn y
gorffennol am y gwahaniaeth ym mherfformiad plant sy'n derbyn gofal rhwng
blwyddyn 6 a blwyddyn 11. Clywodd y
Panel y bydd yr Ysgol Rithwir yn caniatáu i'r gwasanaeth archwilio hyn
mewn ffordd fwy cydlynol sy'n dda ar gyfer cyrhaeddiad a dilyniant. Mae
Llywodraeth Cymru wedi cynnig treialu'r Ysgol Rithwir ac mae Abertawe yn
rhan o'r cynllun peilot. Bydd
effeithiolrwydd yr ysgol rithwir yn cael ei farnu gan ddefnyddio data ar
bresenoldeb, cynnydd, gwaharddiadau, dilyniant ac adborth gan blant a
phobl ifanc am gyflawni eu dyheadau. Roedd gan y Panel ddiddordeb mewn
gweld sut mae'r canlyniadau hyn yn cael eu hadrodd.
- Hysbyswyd y Panel fod datblygiad meddalwedd
ar gyfer yr ysgol rithwir ar y trywydd iawn gyda'r cynllun
gweithredu. Bydd y Pennaeth
Gwasanaeth yn cadarnhau a yw wedi'i gwblhau ac yn rhoi diweddariad i'r
Panel.
- Nododd y Panel o'r adroddiad fod tîm y rheini
sy'n gadael gofal wedi'i ailddechrau'n fewnol a holodd pa mor llwyddiannus
y bu hyn yn enwedig o ran COVID a phrinder staff a oedd yn siŵr o fod
yn gyfnod anodd. Hysbyswyd y Panel fod staff wedi'u trosglwyddo heb unrhyw
anawsterau a bu'r ymgyrch i recriwtio staff yn llwyddiannus ac roedd symud
drosodd i’r awdurdod wedi gwella cyflog ac amodau pobl. Clywyd ei fod yn heriol iawn yn ystod
COVID, roedd pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd peidio â gallu cael cyswllt
wyneb yn wyneb â phobl, ond mae hyn wedi gwella nawr mae mwy o ryngweithio
wyneb yn wyneb.
- Holodd y Panel faint o blant sy'n byw mewn
llety gwely a brecwast ar hyn o bryd ac fe’i hysbyswyd nad oes dim ar hyn
o bryd. Dros gyfnod o dri mis bu
rhwng dau a phump. Mae'r gwasanaeth
yn ceisio cadw eu harhosiad yno mor fyr â phosib, ond yr her yw dod o hyd
i opsiynau ar gyfer eu symud ymlaen gan fod diffyg argaeledd yn Abertawe o
ran llety annibynnol.
Camau Gweithredu:
- Pennaeth Gwasanaeth i gadarnhau a yw'r gwaith
i ddatblygu meddalwedd ar gyfer yr Ysgol Rithwir wedi'i gwblhau.
|
6. |
Rhaglen Waith 2022-23 PDF 33 KB
Cofnodion:
Trafododd y Panel y rhaglen waith gan nodi eitemau ar gyfer y cyfarfod
nesaf.
|