Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 320 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod

cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a  gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno

d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite

mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Y diweddaraf am Reolaeth Pandemig COVID-19 a Monitro Perfformiad

Mark Child, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Gofal i Oedolionac

Iechyd Cymunedol

David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Roedd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol a David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i friffio'r Panel ar y sefyllfa bresennol.

 

Pwyntiau Trafod:

 

  • Dywedodd yr Aelod Cabinet pa mor wych y bu staff, cydweithwyr a sefydliadau eraill dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
  • Mae effeithiau Omicron wedi bod yn broblem wirioneddol.
  • Roedd cyflwyniad gan y Bwrdd Iechyd, a roddwyd i Gynghorwyr y diwrnod blaenorol, yn galonogol iawn ac yn dangos cydweithio agosach rhwng yr holl bartneriaid dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
  • Mae'r Cyfarwyddwr yn gobeithio dosbarthu adroddiad ar fonitro perfformiad y mis hwn y tu allan i'r cyfarfod a dychwelyd i strwythur mwy arferol ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.
  • Mae canlyniad cael COVID-19 yn llawer llai ar hyn o bryd. Y prif fater i'r Gyfarwyddiaeth yw nifer y staff sydd â COVID neu sy'n gyswllt agos ac yn gorfod hunanynysu.
  • Ni fu naid sylweddol yn yr haint i'r garfan sy'n fwyaf agored i niwed. Mae nifer bach o staff mewn cartrefi gofal yn profi'n bositif ond ni welwyd naid sylweddol mewn heintiau ymhlith preswylwyr. Mae hyn yn awgrymu bod yr hyn a ddysgwyd mewn perthynas â mesurau amddiffynnol wedi gweithio. Mwy gofalus ynghylch derbyniadau i gartrefi gofal. Canlyniad negyddol hyn yw arafu'r broses o drosglwyddo o ysbytai i gartrefi gofal sy'n ychwanegu pwysau ar ysbytai. Problemau penodol gyda'r ddarpariaeth i'r Henoed Eiddil eu Meddwl.
  • Pwysau o hyd ar ofal cartref oherwydd llai o staff. Heb weld darparwyr yn anfon preswylwyr yn ôl i'r ysbyty'n barhaus, sy'n dda. Yn Abertawe, mae tua 40 o unigolion yn yr ysbyty gan nad oes modd trefnu cynnig gofal cartref ar eu cyfer. Y gobaith yw y bydd rhagor o staff ar gael gyda gwasanaethau gofal cartref mewnol.
  • Ceisio ychwanegu rhagor o staff at y cynnig preswyl mewnol. Os gellir dod o hyd i ddigon o staff iechyd a gofal, gellir dynodi un cartref mewnol i ddarparu darpariaeth camu i lawr, a all alluogi Henoed Eiddil eu Meddwl sy'n aros am ddarpariaeth i adael yr ysbyty.
  • Pryder am unigolion yn y gymuned sydd â'r lefel uchaf o angen.  Angen cynllunio ar gyfer sefyllfa eithafol o beidio â chael digon o staff. Gellir dynodi cartref mewnol yn lle y gallai'r unigolion hyn symud iddo, ond byddai angen staff gofal iechyd preswyl arno.
  • Ar draws gweddill y ddarpariaeth breswyl fewnol, pe bai methiant trychinebus, mae ganddynt le ffisegol i osod rhagor o welyau ar draws cartrefi eraill ond byddai'n dibynnu ar allu symud staff eraill o gwmpas.  Ymdrinnir â'r mater hwn ar hyn o bryd.
  • O ran gwaith cymdeithasol, mae haint COVID wedi lleihau'r gweithlu ymhellach ond nid yw'r rhan fwyaf yn gallu parhau i weithio gartref gan nad yw'r haint yn ymddangos mor ddifrifol. 
  • Holodd y panel a oes gan y Gwasanaethau i Oedolion yr un problemau o ran prinder staff ag sydd yn y Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd. Fe'u hysbyswyd bod problemau, yn bennaf o ran cadernid gofal cartref, yn enwedig ar gyfer darparwyr a gomisiynir yn allanol. Mae diffyg sylweddol yn nifer y gofalwyr sydd eu hangen yn y farchnad allanol. Bydd defnyddio ymagwedd ddeubig o hyn ymlaen yn cefnogi darparwyr allanol i recriwtio mwy ond hefyd rhaid ceisio cynyddu'r cynnig mewnol.  Anawsterau wrth recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol yn y Gwasanaethau i Oedolion. 
  • Gofynnodd y Panel am eglurder ynghylch nifer y bobl sy'n aros i gael eu rhyddhau o'r ysbyty, p'un a oedd yn 40 i gyd neu'n 40 yn aros am becyn penodol.  Cadarnhawyd bod tua 280 o unigolion yn cael eu hystyried yn feddygol addas i'w rhyddhau ar hyn o bryd.  Gellid cefnogi tua 140 o'r rhain y tu allan i welyau ysbyty nawr pe bai gwasanaethau cymunedol yr awdurdod yn cael eu trefnu.  O'r rhain dim ond 80 sydd wedi'u hatgyfeirio ac mae 40 o'r 80 yn aros am ofal cartref.  Mae'r rhan fwyaf o'r gweddill yn aros am welyau i'r Henoed Eiddil eu Meddwl.  Nid y 40 hyn yw'r unig rai sy'n aros am becyn gofal cartref, mae unigolion eraill, tua 200 yn gyfan gwbl yn ôl pob tebyg. 
  • Holodd y panel, o ran iechyd a gofal cymdeithasol, ynghylch yr hyn rydym yn mynd i'w ddosbarthu fel 'da' pan fyddwn yn dod allan o COVID.  Y gobaith yw y bydd yn gwella'n sylweddol ar ôl COVID ond nid yw'n hysbys a fydd yn 'dda'.  Bu camau bach tuag at hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae angen cyflymu'r ymdrechion yn ystod y blynyddoedd nesaf.
  • Pwysleisiodd y Cynullydd unwaith eto pa mor ddiolchgar yw'r Panel i'r holl staff a dywedodd pa mor ffodus ydym ni yn Abertawe.

 

6.

Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2021-22 pdf eicon PDF 218 KB

Cofnodion:

Trafododd y panel eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 2 Mawrth 2022.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 12 Chwefror 2022) pdf eicon PDF 121 KB