Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

4.

Canlyniad y Broses Ad-Gaffael - Gofal Cartref a Seibiant yn y Cartref pdf eicon PDF 653 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion

Cofnodion:

Roedd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda a Deborah Reem, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion yn bresennol i friffio'r panel ar ganlyniadau'r broses ailgaffael.

 

Pwyntiau trafod:

  • Pwynt 8.9 yr adroddiad - Holodd y panel ynghylch faint o'r £900 mil y mae'r adran yn disgwyl ei ddefnyddio eleni, ac yn y blynyddoedd sydd i ddod.
  • Mae'r cyngor wedi gosod gofal cymdeithasol yn brif flaenoriaeth ac mae'n falch o gael siarter gofal moesegol sy'n sicrhau bod pobl yn derbyn tâl gwell a thriniaeth well er mwyn denu pobl i'r sector hwn.
  • Holodd y panel ynghylch sut y profir bod darparwyr yn bodloni'r meini prawf, megis hyfforddi staff a throsiant staff, oherwydd un o elfennau allweddol ansawdd yw cysondeb y staff a ddarperir i ddefnyddwyr (parhad gofal). Hysbyswyd y panel y profir safon darparwyr wrth i swyddogion monitro fonitro perfformiad yn gyson. Hefyd mae'n rhaid i ddarparwyr gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Caiff y panel ei gynghori ar ba system mesur ansawdd a ddefnyddir a sut y caiff ei monitro wrth i'r contractau symud ymlaen.
  • Mae'r adran yn ceisio annog darparwyr i gyrraedd nodau'r siarter foesegol trwy gynnwys buddion cymunedol ym manylebau'r contractau.
  • Yn dilyn ailgaffael, mae 75% o ddarparwyr yn ddarparwyr cyfredol. Ni ystyriwyd parhad gofal wrth werthuso contractau gan fod yr Adran am ddenu darparwyr newydd.
  • Mae'r panel yn pryderu y bydd contractau'n trosglwyddo o flwyddyn i flwyddyn. Yn y gorffennol, cafodd contractau eu trosglwyddo am nifer o flynyddoedd. Cadarnhaodd yr adran nad yw trosglwyddo contractau'n ddelfrydol ond bydd gan ddarparwyr y dewis i estyn eu contractau am gyfnod o hyd at 48 o fisoedd. Dewis yr awdurdod fydd caniatáu i gontractau gael eu trosglwyddo. 
  • Mae'r awdurdod wedi dechrau defnyddio rhai o'r darparwyr newydd. Mae hyn wedi dechrau helpu i leihau oedi wrth drosglwyddo gofal.
  • Gofynnodd y panel a allent ddangos y gwahaniaeth a wnaed i oedi wrth drosglwyddo gofal o ganlyniad i newid darpariaeth gofal wrth edrych ar ddata perfformiad y tro nesaf.

 

Camau Gweithredu:

  • Bydd y panel yn derbyn gwybodaeth am y system mesur ansawdd a ddefnyddir a sut y caiff ei monitro wrth i'r contractau symud ymlaen.
  • Bydd y data perfformiad yn dangos y gwahaniaeth a wnaed i oedi wrth drosglwyddo gofal o ganlyniad i newid darpariaeth gofal.

 

5.

Amserlen Rhaglen Waith 2019/20 pdf eicon PDF 247 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

 

Camau Gweithredu:

  • Bydd gofyn i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ddod ag eitem am brosesu'r gyllideb i gyfarfod y panel yn y dyfodol. Bydd Tony Beddow yn darparu manylion yr hyn sydd ei angen.

 

6.

Llythyrau pdf eicon PDF 428 KB

a)    Ymateb gan Aelod y Cabinet Mark Child (cyfarfod 20 Mehefin 2019)

b)      Ymateb gan Aelod y Cabinet Andrea Lewis (cyfarfod 20 Mehefin 2019)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

 

Llythyr at Aelod Y Cabinet pdf eicon PDF 271 KB