Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datgeliadau o gysylltiadau -  Chris Holley a Mark Child

 

2.

Cynigion Drafft Cyllideb y Gwasanaethau i Oedolion

Gwahoddir y Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol i fod yn bresennol.

 

Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 14 Chwefror 2019, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 7 Chwefror 2019.)

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Trafododd y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, a Deb Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion y cynigion cyllidebol arfaethedig mewn perthynas â'r Gwasanaethau i Oedolion gan amlygu'r prif faterion ac ateb cwestiynau.

 

3.

Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion

Gofynnir i’r panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau i Oedolion er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet.

 

Bydd cynullwyr pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 12 Chwefror sydd wedi’i drefnu’n benodol i edrych ar y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 14 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu.

 

Cofnodion:

Cytunodd y panel â'r farn a'r argymhellion canlynol am y cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r Gwasanaethau i Oedolion yr hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet:

 

  • Cyflawnwyd 80% o'r arbedion arfaethedig yn y flwyddyn ariannol hon. Mae'r targed arbedion ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf felly yn ymddangos yn uchelgeisiol, yn enwedig gan fod llawer o'r gwariant yn cael eu harwain gan alw.
  • Gan ein bod ni wedi gorwario £1 filiwn eleni o ganlyniad i 'wrthwynebiad gan y BILl i drafod cyfraniadau cyfiawn ac addas tuag at becynnau gofal a nodwyd' roedd pryder ymysg y panel y bydd hon yn broblem barhaus yn y flwyddyn ariannol nesaf. Roedd y panel yn teimlo bod angen datrys hyn cyn gynted â phosib os ydym am lynu wrth y gyllideb ar gyfer 2019-20.
  • Nid yw'n glir pryd bydd arbedion o bob un o'r adolygiadau comisiynu gwasanaeth yn dechrau neu ba arbedion sy'n berthnasol i ba adolygiad. Mae'r broses yn ymddangos yn eithaf aneglur o safbwynt y panel a byddem yn croesawu dadansoddiad mwy manwl.
  • Byddwn yn trafod y gyllideb eto ym mis Hydref fel y gallwn ni fonitro canlyniadau'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn fwy gofalus.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

Bydd y cynullydd yn cyflwyno barn y panel, ar y cyd â chynullyddion paneli eraill, i'r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid, sy'n cwrdd ar 12 Chwefror.  Bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid yna'n mynd i gyfarfod y Cabinet ar 14 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet.