Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd Chris Holley gysylltiad personol.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 322 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Diweddariad ar Raglen Trawsnewid a Gwella'r Gwasanaethau i Oedolion pdf eicon PDF 285 KB

Gwahoddwyd:

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi

Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig

Lucy Friday, Prif Swyddog Trawsnewid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal a swyddogion perthnasol yn bresennol er mwyn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y tair prif thema dan y Rhaglen a'r ffocws arfaethedig ar gyfer 2024-25.

 

Pwyntiau Trafod:

 

·       Holodd y panel a oes nyrsys hyfforddedig neu ofalwyr hyfforddedig mewn cartrefi gofal, ac a oes rhywfaint o hyfforddiant arbenigol. Dywedwyd bod cartrefi preswyl mewnol yn gartrefi 'gofal' ac os asesir bod gan bobl anghenion nyrsio, byddent yn cael eu cefnogi i fynd i ddarpariaeth nyrsio sydd â chymorth meddygol. Esboniwyd bod timau ynghylch gofal preswyl yn ymdrin ag anghenion gofal cymhleth iawn ac maent wedi'u hyfforddi mewn amrywiaeth eang o gymorth.

·       Gofynnodd y panel sut y mae'r Adran yn annog pawb i gydweithio i gydlynu'r bobl y mae angen cymorth cynnar arnynt. Esboniwyd o ran sianeli cyfathrebu, bu llawer o ailaddysgu staff mewnol a sicrhau bod partneriaid yn deall beth arall sydd ar gael.

·       Trafododd y Panel y Pwynt Mynediad Cyffredin (PMC). Bu gwelliant yn ystod y naw mis diwethaf gyda 28% o ymholiadau i PMC yn cael eu cymeradwyo neu eu cau ar y pwynt cyswllt. Mae'r panel yn falch o weld hyn.

·       Gofynnodd y panel am eglurhad ynghylch yr hyn y mae 'Just Checking' yn ei olygu mewn perthynas â thechnoleg gynorthwyol. Clywodd ei fod wedi bod ar waith ers peth amser ond ar raddfa fach. Dros y 12 mis diwethaf mae wedi cael ei hyrwyddo fel opsiwn. Mae'n gyfres o fonitorau sy'n gallu mynd i gartref person i fonitro eu symudiadau a helpu i lywio asesiad.

·       Ar gyfer pobl sy'n cael eu cynnal yn eu cartrefi eu hunain, gofynnodd y Panel sut y mae staff gofal cartref mewnol yn cael eu helpu i ymdrin ag unigolion a allai fod angen gofal ychwanegol arnynt neu a allai fod yn fwy heriol. Dywedwyd bod y gwasanaeth yn cael ei ailffocysu o ganlyniad i adborth gan staff, felly mae mwy o gefnogaeth gan y gymuned ehangach ac mae staff hefyd wedi derbyn hyfforddiant a goruchwyliaeth reolaidd. Mae gan ddarparwyr a gomisiynwyd yn allanol wiriadau a monitro o ran ansawdd a safonau ac maent i gyd wedi'u cofrestru drwy Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). 

·       Holodd y panel a oes rôl i feddygon teulu o fewn y broses Cymorth Cynnar ac Atal. Dywedwyd bod yna rôl ond nad oeddent yn siŵr lle'r oedd y cysylltiad ac mae rhai clystyrau meddygon teulu yn well ar hyn nag eraill. 

·       Gofynnodd y panel a oes dibyniaeth ar staff asiantaeth yn rôl y gofalwr. Esboniwyd nad yw staff asiantaeth mewnol yn cael eu defnyddio ar gyfer gofal cartref. Yn hytrach, mae yna ddibyniaeth ar staff i wneud goramser a chyflenwi bylchau/salwch.

·       O ran y broses ail-dendro ar gyfer gofal cartref a gomisiynwyd yn allanol, sicrhaodd y Panel nad oes disgwyl i ddarparwyr allanol wneud mwy, mae'r Cyngor yn gorfod ail-dendro i sicrhau cydymffurfiaeth â phrosesau. Bydd yn rhaid i ni aros am gasgliad y broses dendro i ddarganfod a yw'n ddrutach.

·       Trafododd y Panel sut y mae'r Gwasanaeth am i bobl fyw'n annibynnol a gofalu am eu hunain yn fwy a holwyd a oes unrhyw anfanteision i hyn. Esboniwyd ei fod yn ymagwedd unigol iawn, mae rhai pobl am fod yn eu cartref eu hunain ac mae eraill yn ffynnu mewn lleoliad mwy cymunedol mewn cartref preswyl. 

·       Trafododd y Panel ofal cartref mewn ardaloedd gwledig a gofynnwyd am gynnydd o ran sefydlu micro-fentrau i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac i ddefnyddio taliadau uniongyrchol. Esboniwyd bod nifer y taliadau uniongyrchol wedi cynyddu ac mae mwy o ficro-fentrau a mentrau cymdeithasol. Mae'r Gwasanaeth yn hyrwyddo eu datblygiad drwy CGGA ac maent yn cadw cyfeiriadur. 

  

 

6.

Cyflwyniad - Y diweddaraf am Gydlynu Ardaloedd Lleol

Gwahoddwyd:

Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Cymuned

Lee Cambule, Rheolwr Gwasanaeth Trechu Tlodi

Jon Franklin, Rheolwr Cydlynu Ardaloedd Lleol

 

Cofnodion:

Roedd Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Gymorth Cymunedol a swyddogion perthnasol yn bresennol i gyflwyno'r diweddaraf i'r Panel ac i rannu rhai enghreifftiau o'r effaith y mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol wedi'i chael. Mae adroddiad effaith llawn ar gyfer 2023-24 wedi'i ddrafftio a bydd y fersiwn derfynol yn cael ei rhannu gyda chraffu yn ddiweddarach.

 

Pwyntiau Trafod:

·       Mynegodd y panel bryder am y posibilrwydd o golli swyddi CALl oherwydd pwysau ariannol a gofynnwyd am ragor o wybodaeth. Esboniwyd bod y gwasanaeth yn destun ymgynghoriad staff ar hyn o bryd oherwydd effaith ariannu'r Tîm CALl. Esboniwyd bod costau wedi cynyddu, ni fu toriad i gyllid y Cyngor ar gyfer 2024-25, ond mae'n wastad, a bu gostyngiad mewn cyllid grant, sy'n ffurfio 60% o'r cyllid. Nododd y Panel nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud hyd yn hyn ac mae nifer o bethau'n cael eu hystyried, gan gynnwys meini prawf a daearyddiaeth.

·       Gofynnodd y Panel am ddadansoddiad o'r costau, gan gynnwys sut y mae'r cyllid yn cael ei ddosbarthu, o le daw'r cyllid ac effaith ganlyniadol CALl.  Mae'r Panel yn teimlo y byddai rhywfaint o'r dadansoddiad cost am arbedion buddiol yn ddefnyddiol iawn wrth ddarparu tystiolaeth o fudd CALl.

·       Gofynnodd y Panel am sicrwydd y bydd CALl yn gwasanaethu ardal gyfan Cyngor Dinas Abertawe. Esboniwyd bod hyn yn rhan o'r hyn y mae'n rhaid ei ystyried.

·       Mae'r panel yn teimlo bod CALl wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Pwysleisiodd Aelodau'r Panel eu bod yn erbyn colli unrhyw swyddi CALl

 

Camau Gweithredu:

·       Darparu dadansoddiad o'r ffigurau ar gyfer Cydlynu Ardaloedd Lleol, fel y nodir uchod, i'r Panel.

 

7.

Cynllun Waith 2023-24 pdf eicon PDF 218 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet LG (cyfarfod 30 Ionawr 2024) pdf eicon PDF 117 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet HG (cyfarfod 30 Ionawr 2024) pdf eicon PDF 118 KB

Ymateb at Aelod y Cabinet HG (cyfarfod 30 Ionawr 2024) pdf eicon PDF 152 KB