Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd
Chris Holley fuddiant personol.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw
ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 318 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno
eu bod yn gofnod
cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2021 yn gofnod cywir
o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod fan bellaf.
Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Monitro Perfformiad PDF 179 KB
Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion
Helen St John, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol Integredig Dros Dro
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Briffiwyd y panel ar yr
adroddiad monitro perfformiad ar gyfer Chwefror 2021 gan Amy Hawkins, Pennaeth
Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion. Nododd fod y sefyllfa gyffredinol wedi
dechrau gwella'n gyffredinol ym mis Chwefror 2021 ac yn edrych hyd yn oed yn
well erbyn hyn.
Pwyntiau i'w trafod:
- Pwynt Mynediad
Cyffredin – derbyniwyd ychydig yn llai o ymholiadau gan fod atgyfeiriadau
diogelu'n mynd yn uniongyrchol i'r tîm diogelu. Mae achosion yn llawer mwy
cymhleth – tua 50 y mis yn fwy yn mynd i dimau gwaith cymdeithasol.
- Adolygiadau
ffurfiol - Aeth System WCCIS yn fyw yng nghanol mis Ebrill. Yn y misoedd i
ddod bydd yr wybodaeth yn yr adroddiad am adolygiadau'n edrych yn wahanol.
Mae gwybodaeth adolygu'n dda i'r Tîm Iechyd Meddwl. Mae mwy o waith i'w
wneud ar y Tîm Anableddau Dysgu; rhaid canolbwyntio ar hyn i sicrhau fod
yr wybodaeth yn gyfoes.
- Asesiadau Gofalwyr
– nid oes llawer o wahaniaeth i’w weld o ran ystadegau ond ceir mwy o
ffocws ar y maes hwn. Bydd gwaith yn datblygu yn y flwyddyn i ddod.
Teimlai'r panel nad yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu'r un
gwasanaeth ag yr oedd yn ei ddarparu flynyddoedd yn ôl; mae llawer mwy o
faich ar bobl sy'n byw'n annibynnol a mwy o bwysau ar ofalwyr. Mae
grŵp wrthi’n edrych ar gymorth i ofalwyr, mae cynllun gweithredu yn
cael ei roi ar waith a bydd yn mynd ati'n
rhagweithiol i nodi gofalwyr. Bydd y panel yn edrych yn fanylach ar
ofalwyr mewn cyfarfod yn y dyfodol.
- Mae data Cartrefi
Gofal wedi gwella'n fawr ac yn fwy sefydlog. Mae nifer o swyddi gwag ar
draws y ddarpariaeth yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd.
- Holodd y panel am
y ddarpariaeth bresennol ar gyfer gwasanaethau dydd a sut mae hyn yn
cymharu â'r ddarpariaeth ddwy flynedd yn ôl. Fe'i hysbyswyd fod y
gwasanaethau preswyl yn debyg iawn i weddill y farchnad; mae gan yr
awdurdod swyddi gwag fel pawb arall. Ar gyfer gwasanaethau dydd, mae
darpariaeth frys yn dal i gael ei chynnig ond mae'r niferoedd yn
gyfyngedig oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol; ar gapasiti o 30%. Yn gyffredinol, mae llai o bobl yn dod
i mewn i'r gwasanaeth nawr; mae rhywfaint o bryder ynglŷn â hyn. Mae
rhywfaint o'r gwaith ataliol wedi cynyddu'n fawr ac mae llawer mwy o
achosion cymhleth.
- Mae'r llwybr rhwng
yr ysbyty a Bôn-y-maen yn gweithio'n dda iawn. Ym mis Chwefror/Mawrth
roedd 14 o welyau ar gael; erbyn hyn mae 19 ohonynt.
- Cynnydd mawr ym
mis Chwefror o ran faint o oriau ailalluogi sy'n
cael eu cynnig o ran cefnogaeth gofal cartref. Mae'n cymryd chwe diwrnod
ar gyfartaledd i ddod o hyd i gymorth i bobl.
- Ailalluogi Preswyl –
Holodd y panel ynghylch mater yn yr adroddiad sy'n ymwneud â'r broses
meddyginiaethau mewnol, a fydd yn cael ei diwygio. Fe'i hysbyswyd ei fod
yn gysylltiedig â chymhlethdod yr angen y maent bellach yn ei weld o ran
gwelyau ailalluogi. Ei bwrpas yw sicrhau bod
prosesau cywir ar waith a bod popeth yn gysylltiedig.
- Ffigurau brocera
cyfredol – dim ond dau berson sy'n aros o heddiw. Mae hyn yn ardderchog.
- Trefniadau Diogelu
rhag Colli Rhyddid – Dechrau gweld gwelliannau yn yr ôl-groniad.
- Holodd y panel sut
mae'r sefyllfa bresennol yn cymharu â'r sefyllfa y llynedd a'r flwyddyn
flaenorol, o ran data yn yr adroddiad. Nodwyd y rhoddwyd ffigurau cymharol
ar gyfer y llynedd a'r flwyddyn flaenorol lle y bu'n bosibl. Ni ellir
cymharu peth o'r wybodaeth.
- Stoc tai cyngor,
yn enwedig tai lloches - mae'r panel yn credu bod cynlluniau cymorth gofal
yn cael eu llunio ar gyfer pob preswylydd sydd eisiau un, a gofynnwyd a
ydym yn gwybod faint o gynlluniau sydd eisoes ar waith, fel man cychwyn o
ran asesu anghenion. Bydd swyddogion yn darparu ymateb ynglŷn â
chynlluniau gofal y tu allan i'r cyfarfod.
- Cronfa Gofal
Integredig ac ansicrwydd ynghylch cyllid – roedd y panel am wybod pa
ffactorau fydd yn dylanwadu ar hyn a phryd. Fe'i hysbyswyd fod yr awdurdod
am gael gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru o ran pa gynllun neu drefniant
newydd y gellid ei roi ar waith i gefnogi gweithio rhanbarthol, cyn gynted
â phosib eleni, i gynllunio rhaglenni parhaus ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Ni ellir cynnwys y gwaith hwn o fewn cyllid craidd.
- Cododd y panel y
mater ynghylch tynnu staff y Byrddau Iechyd yn ôl o reoli Anableddau
Dysgu. Holwyd sut cafodd hyn ei gyfiawnhau, sut y cafodd ei reoli a phwy
o'r Bwrdd Iechyd wnaeth y penderfyniad hwn. Bydd swyddogion yn ymchwilio i
hyn ac yn rhoi ymateb llawnach.
Camau Gweithredu:
- Ychwanegu sesiwn
friffio ar ofalwyr at raglen waith y dyfodol
- Caiff gwybodaeth
am y cynlluniau cefnogi gofal sydd ar waith i breswylwyr stoc tai'r cyngor
ei darparu i'r panel
- Caiff rhagor o
wybodaeth am staff Byrddau Iechyd yn cael eu tynnu'n ôl o reoli Anableddau
Dysgu ei darparu i'r panel.
|
6. |
Y diweddaraf am sut mae ymrwymiadau polisi'r cyngor yn cael eu rhoi ar waith yn y Gwasanaethau i Oedolion PDF 482 KB
Clive Lloyd, Aelod Y Cabinet - Gwasanaethau
Gofal i Oedolionac
Iechyd Cymunedol
Dave Howes, Cyfarwyddwr
y Gwasanaethau Cymdeithasol
Cofnodion:
Roedd Clive Lloyd, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a
Gwasanaethau Iechyd Cymunedol yn bresennol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
panel ac i ateb cwestiynau. Dywedodd wrth y panel fod llunio'r adroddiad hwn
wedi’i atgoffa o sut mae'r ymrwymiadau polisi wedi'u gwreiddio ym mhopeth a
wnawn.
Pwyntiau i'w trafod:
- Y gweithlu’n
ganolog i bopeth sy’n cael ei wneud yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd
angen gwneud llawer o waith cynllunio i sicrhau bod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
weithlu cynaliadwy wrth symud ymlaen. Hoffai Aelod y Cabinet ddarparu
sesiwn friffio ar les yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.
- Dywedodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod ymrwymiadau'n parhau i lywio'r
gwaith o addasu ac adfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yn y dyfodol. Maent
wedi'u cynnwys mewn cynlluniau gwasanaeth fel penawdau i ganolbwyntio
arnynt. Mae'r Cyfarwyddwr yn falch iawn o'r broses y gallant
ei dangos.
- Holodd y panel sut
mae hyn yn cyd-fynd â'r adolygiad comisiynu a gynhaliwyd ychydig
flynyddoedd yn ôl a'r ymarfer caffael a wnaed yn ddiweddar. Cadarnhaodd
swyddogion fod y cyngor wedi cymeradwyo'r model gorau posib ar gyfer y
Gwasanaethau Cymdeithasol a'i fod yn gyson ag ymrwymiadau polisi. Dim
newid cyfeiriad. Mae rhagor o waith i'w wneud o hyd ond mae popeth yn dal
i ffitio ac yn llywio meddwl wrth symud ymlaen.
- O ran comisiynu
adolygiad, roedd y panel yn cofio am faterion ynghylch gofal cartref a
gwasanaethau dydd. Mae'r panel yn disgwyl adborth ar gyfraddau lefelau
gofal ac ymyriad, yn enwedig ar wasanaethau dydd. Hysbyswyd yr adwaenwyd hwn yn flaenorol fel y Pedwerydd Adolygiad
Comisiynu. Mae'n cael ei ddefnyddio a'i gynnal fel adolygiad a bydd yn
rhaid iddo ystyried popeth sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Edrychir ar lefelau gofal ac ymyriad.
- Teimlai'r panel
fod Cydlynwyr Ardaloedd Lleol (CALl) wedi newid
eu proffiliau swyddi'n sylweddol yn ystod y cyfyngiadau symud cychwynnol
ac roedd yr hyn a wnaethant yn rhagorol. Teimlai'r panel y dylid cydnabod
hyn rywbryd yn y dyfodol, yn ogystal â'r bobl a gamodd i mewn o
wasanaethau eraill i helpu; dylid dathlu hyn.
- Holodd y panel
ynghylch pa mor sicr y mae’r awdurdod ynghylch cyllid ar gyfer CALl oddi wrth gymdeithasau tai etc.; os oes unrhyw
ffordd y gellir eu cadw'n hirach; ac a oes unrhyw gyllid allanol arall y
gallwn ei gael i ariannu CALl. Cadarnhaodd
swyddogion y derbyniwyd cyllid o nifer o ffynonellau eleni. Byddant yn
edrych ar sut y gallant arallgyfeirio ffrydiau
ariannu. Gwneir gwerthusiad ar y cyd â Phrifysgol Abertawe i nodi effaith
ariannol a chymdeithasol cydlynu ardaloedd lleol. Bydd swyddogion yn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r panel am gyllid ar gyfer CALl.
- Cododd y panel dri
chwestiwn am Hyrwyddo Byw’n Annibynnol. Holwyd a yw'r gwasanaeth tai yn yr
awdurdod yr un mor ymrwymedig i'r rhaglen hon â'r Gwasanaethau
Cymdeithasol. Cadarnhaodd Aelod y Cabinet y byddent yn disgwyl hyn yn
sicr.
- Holodd y panel a
fyddai graddau’r byw annibynnol ychwanegol a gyflawnir yn rhywbeth y
byddai'r Adran yn ei gysylltu â chyllidebu ar gyfer canlyniadau.
Cadarnhaodd Aelod y Cabinet ei fod yn rhan o'r strategaeth canlyniadau
gychwynnol wrth bennu cyllideb ond nid oes methodoleg o'r Is-adran Cyllid
ar gyfer cyllidebu ar gyfer canlyniadau y mae cyllideb y Gwasanaethau
Cymdeithasol yn seiliedig arni. Teimlai'r panel y byddai'n rhaid iddynt
gael rhestr o ganlyniadau drafft y mae adnoddau ynghlwm wrthynt rywbryd.
- Holodd y panel
hefyd a yw byw annibynnol wedi'i gynnwys yng ngwerthusiad y Brifysgol o
effaith cydlynu ardaloedd lleol. Cadarnhaodd swyddogion fod llawer o waith
i'w wneud o hyd o ran mireinio'r hyn y bydd y gwerthusiad yn ei gwmpasu.
Fel un o'r amcanion, maent yn edrych ar heriau penodol y mae unigolion
wedi'u hwynebu ac y mae'r CALl yn canolbwyntio
arnynt a sut y mae cydlynu ardaloedd lleol wedi ymateb iddynt.
- Holodd y panel
ynghylch cynnydd o ran datblygiad y Strategaeth Technoleg Gynorthwyol ar
hyn o bryd. Cadarnhaodd swyddogion ei fod yn eitem ar agenda'r panel yn y
dyfodol; mae wedi'i hoedi ond nid yw wedi'i thynnu oddi ar yr agenda.
Camau Gweithredu:
·
Ychwanegu sesiwn friffio ar 'Les Gweithlu'r Gwasanaethau
Cymdeithasol' at gyfarfod yn y dyfodol.
|
7. |
Amserlen Rhaglen Waith 2020-21 PDF 108 KB
Cofnodion:
Ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.
|
8. |
Llythyrau PDF 249 KB
Cofnodion:
Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Ebrill 2021) PDF 275 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Ebrill 2021) PDF 421 KB
|