Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd Chris Holley gysylltiad personol.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 308 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno
eu bod yn gofnod
cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod nodiadau cyfarfod Panel y Gwasanaethau Cymdeithasol ar
y cyd a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
Roedd un mater yn codi o'r cyfarfod blaenorol mewn perthynas â'r
gyllideb.
Gofynnodd y panel am wybodaeth am 'Gyllidebau Canlyniadau', y mathau o
ganlyniadau a ddaeth i'r amlwg y gallai'r Gwasanaethau Cymdeithasol fod yn eu
hystyried, yn enwedig o ran gofal integredig.
Dywedodd Aelod y Cabinet ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dyrannu
adnoddau yn y ffordd orau bosib er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posib. Gofynnwyd i uwch-swyddogion yn y Gwasanaethau
i Oedolion lunio syniad o sut olwg fydd ar rai o'r mentrau hyn wrth symud
ymlaen gan ddefnyddio'r adnodd ychwanegol sydd gan y Gyfarwyddiaeth eleni.
Roedd enghreifftiau eraill a roddwyd yn ymwneud â:
- Pwynt Mynediad
Cyffredin – wrth ymateb i breswylydd drwy Bwynt Mynediad Cyffredin, sut y
gallwn ymdrin â'u sefyllfa fel ei fod yn cael ei ddatrys ar eu cyfer, ac
nid ydynt yn dod yn ôl i'r cyngor o fewn cyfnod o 6 mis neu 12 mis. Mae'r mathau hyn o fesurau’n helpu'r
cyngor i ddeall a yw'r system Pwynt Mynediad Cyffredin yn diwallu
anghenion preswylwyr.
- Ailalluogi – mae'r
pwyslais yn dal i fod ar gadw pobl mor annibynnol â phosib, nid mewn
amgylchedd cartref gofal. Pan ddaw
pobl allan o'r ysbyty, er enghraifft, beth y gallwn ei ddarparu ar eu
cyfer?
- Adolygiad Cyson
o'r Ysbyty i'r Cartref – adolygu hyn ac edrych ar y ffordd orau o sicrhau
ei fod yn diwallu anghenion ein preswylwyr, fel bod adnoddau/cyllid yn
gweithio tuag at y canlyniadau gorau ar gyfer ein preswylwyr.
Camau Gweithredu:
- Cadarnhau, ar
gyfer y flwyddyn i ddod, os gallwn ddisgwyl gweld y gyllideb yn cael ei
bwrw naill ai'n gyfan gwbl, neu'n bennaf, o ran canlyniadau.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod fan bellaf.
Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau
ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Y diweddaraf am Raglen Trawsnewid Gorllewin Morgannwg PDF 762 KB
Gan gynnwys diweddariad ar y cynllun gweithredu yn dilyn Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) am y Gronfa Gofal Integredig
Kelly Gillings, Cyfarwyddwr Rhaglen
(Gwahoddwyd Aelodau’r Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer yr
eitem hon)
Cofnodion:
Roedd Kelly Gillings, Cyfarwyddwr y Rhaglen, yn
bresennol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am effaith y pandemig ar y rhaglen ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y
cynllun gweithredu yn dilyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Gronfa Gofal
Integredig.
Effaith y pandemig
Pwyntiau i'w trafod:
- Bwrdd Adfer –
Gofynnodd y Panel am drosolwg o'r camau sy'n cael eu cymryd ym mhob un o'r
pedair blaenoriaeth.
- Holodd y Panel a
oedd unrhyw wrthdaro rhwng y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), gan nad
ydynt wedi gweld cymaint o gydweithrediad ag yr hoffent ar lefel
graffu. Cadarnhaodd swyddogion fod
y BPRh a'r BGC wedi dechrau gweithio gyda'i
gilydd yn ystod pandemig ond nid yn agos am fod
y ddau yn bwrw ymlaen â’u gwaith.
Ddim yn ymwybodol o unrhyw wrthdaro.
- Cadarnhaodd aelod
o'r Cabinet (CM) mai'r sbardun ar gyfer dod â'r rhan fwyaf o hyn at ei
gilydd oedd BPRh ac nid BGC. Teimlai'r Panel mai un o'r ychydig
bethau cadarnhaol am y pandemig yw'r ffordd y
mae'r cyngor a'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda'i gilydd ar hyn, yn
enwedig drwy'r BPRh.
- Holodd y Panel pa
mor effeithiol y bu BPRh o ran dod o hyd i bob
gofalwr. Hysbyswyd bod y Bwrdd
Partneriaeth Gofalwyr wedi cynnal nifer o sesiynau ar sut i adnabod gofalwyr. Maent yn gweithio gyda gofalwyr i nodi
gofalwyr eraill.
- Holodd y Panel a
fyddai elfennau newydd yn cael eu cyflwyno iddo o ran ailfodelu
gwasanaethau gofal acíwt a gofal cymunedol.
- Rhoddodd Bennaeth
y Gwasanaeth rywfaint o sicrwydd o ran y gwaith y maent yn ei wneud o ran
cynnwys partneriaid statudol mewn rhai ymagweddau ailfodelu gofal. Bydd y Panel yn gweld y gwaith hwn yn
cael ei graffu yn ystod y flwyddyn nesaf.
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
Pwyntiau i'w trafod:
- Holodd y Panel, o
ran dynameg gofal integredig ar draws ffiniau proffesiynol a sefyllfaol, pa ymchwil ac mewnbwn academaidd sy’n cael
eu defnyddio i ddod o hyd i bethau sy'n ei helpu i weithio'n well.
- Grŵp Sicrwydd
Busnes – Gofynnodd y Panel am gael gweld dwy enghraifft o adroddiadau y
maent wedi'u gwneud, er mwyn cael syniad o'r gwaith y maent yn ei
wneud.
- Dywedodd AC wrth y
panel fod y BPRh wedi llwyddo i wneud darnau o
waith sylweddol yn ogystal ag ymdrin â phandemig
yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a mynegodd ei ddiolch.
- Cytunodd y Panel
ei fod wedi ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r cynllun gweithredu sy'n ymdrin â'r
argymhellion wedi'i gwblhau, ac nid oes angen iddo ddod yn ôl i'r Panel
eto.
Camau Gweithredu:
- Darparu trosolwg
i'r Panel o'r camau sy'n cael eu cymryd ym mhob un o'r pedair blaenoriaeth
gan y Bwrdd Adfer
- Darparu ymateb i'r
Panel o ran unrhyw gydrannau newydd a allai ddod i mewn i ailfodelu
gwasanaethau gofal acíwt a gofal cymunedol
- Rhannu rhai copïau
o gofnodion y Grŵp Sicrwydd Busnes gyda'r Panel.
|
6. |
Amserlen Rhaglen Waith 2020-21 PDF 247 KB
Cofnodion:
Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y Panel.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 9 Mawrth 2021) PDF 249 KB
|