Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 317 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2020 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Cofnodion: Roedd Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i
friffio'r panel ar adroddiad ac argymhellion SAC a sut mae Abertawe'n perfformio yn erbyn yr
argymhellion. Pwyntiau trafod: • Nid oes gan
SAC unrhyw bryderon trosgynnol ar gyfer
Abertawe. Mae Aelod y
Cabinet yn eithaf bodlon â'r adroddiad.
• Dewis Cymru - Mae'r
adroddiad yn tynnu sylw at y gwahaniaethau ledled Cymru ynghylch sut y defnyddir y system. Mae gan Abertawe oddeutu
500 o adnoddau wedi'u nodi ar y system ar hyn o bryd.
Mae gan yr uchaf 1200 o adnoddau wedi'u nodi. Mae Abertawe wedi mynd
ar drywydd yr ymagwedd aros
i weld. Mae angen cadarnhad cenedlaethol. • Mae gan y cyngor strategaeth
tymor hwy ar gyfer atal.
• Atodiad 1 - 3 cam gweithredu yn unig sydd
â dyddiadau targed yn y tabl. Hoffai'r
Panel ychwanegu'r rhain at
y blaenraglen waith Camau Gweithredu: • Ychwanegu'r camau gweithredu â dyddiadau targed at y blaenraglen waith. |
|
Adroddiad Blynyddol am Gwynion y Gwasanaethau i Oedolion 2018-19 PDF 475 KB Sarah Lackenby, Prif Swyddog Trawsnewid Cofnodion: Roedd Sarah Lackenby, Prif Swyddog Trawsnewid,
yn bresennol i roi'r diweddaraf
i'r Panel ar y mater hwn. Roedd y panel yn
falch o glywed y ganmoliaeth a dderbyniwyd. Mae'n dangos bod yr adran yn
gwneud gwahaniaeth a bod y
staff yn cael eu gwerthfawrogi. Gofynnodd y panel nifer o gwestiynau sy'n gofyn am ymateb
ysgrifenedig: • Tabl 1 - Pam mae
nifer y cwynion i'r Ombwdsmon wedi
dyblu? • Tabl 2 - Pam mae
Hwb y Gogledd wedi derbyn nifer
uchel o gwynion (28)? • Tabl 2 - Pam ydym wedi derbyn 18 o gwynion ar gyfer lleoliad 'anhysbys'? |
|
Sesiwn Friffio ar Salwch Staff yn y Gwasanaethau i Oedolion PDF 492 KB Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion Cofnodion: Gohiriodd y Panel yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf. |
|
Amserlen Rhaglen Waith 2019-20 PDF 249 KB Cofnodion: Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel. |
|
a) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Ionawr 2020) b) Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Chwefror 2020) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel. |
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Mawrth 2020) PDF 396 KB |
|
Llythyr At Aelod Y Cabinet (cyfarfod 17 Mawrth 2020) PDF 274 KB |