Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datgeliadau o fuddiannau - Chris Holley.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod gyda'r diwygiadau cytunedig i'r ddau bwynt bwled cyntaf ar frig tudalen 2. 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

5.

Y diweddaraf am sut mae ymrwymiadau polisi'r cyngor yn cael eu rhoi ar waith yn y Gwasanaethau i Oedolion pdf eicon PDF 318 KB

Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cofnodion:

Daeth Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda i roi diweddariad i'r panel ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yn hyn wrth gyflwyno ymrwymiadau polisi'r cyngor mewn perthynas â'r Gwasanaethau i Oedolion.

 

Pwyntiau i'w trafod:

              Ymrwymiad 104 - gwnaed cynnydd ar hyn. Roedd yn ambr o'r blaen ond mae bellach yn wyrdd. Gofynnod aelod o'r panel am gopi o'r ddogfen gaffael ar gyfer ailgomisiynu gwasanaethau gofal cartref. 

              Ymrwymiad 57 - Penodwyd pum Cydlynydd Ardal Leol arall ac maent wedi dechrau gweithio. Mae CM yn hyderus y bydd gan bob ardal CALl erbyn 2022. Bydd Pennaeth y Gwasanaeth yn rhannu'r sefyllfa bresennol o ran CALl â'r panel pan fydd wedi derbyn yr wybodaeth. 

              Ymrwymiad 94 - codwyd pryder ynghylch y ffaith nad yw gwelyau ar gael ar bob adeg pan fydd gofalwyr am gael seibiant nyrsio, ac mae'n cymryd amser hir i dderbyn ymateb i geisiadau am seibiant yn y sector allanol. Hysbyswyd y cynghorwyr fod nifer y gwelyau seibiant sydd ar gael yn brin, ond bod ymgais yn cael ei wneud i gynnwys ymateb yn gyflym i ymholiadau am argaeledd seibiant mewn contractau.

              Ymrwymiad 83/97 - gofynnodd y panel a oedd pobl mewn tai lloches yn cael yr un mynediad at ofal â phobl sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain. Rhoddwyd gwybod nad yw pobl mewn tai lloches yn cael eu trin yn wahanol i bobl sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r cyngor yn darparu'r un lefel o ofal i bawb, ni waeth lle maent yn byw. Gofynnodd y panel hefyd a fydd y cyngor yn darparu unrhyw ddatblygiadau gofal ychwanegol neu a fyddai'n dibynnu ar y sector preifat.  Rhoddwyd gwybod nad oes gan y cyngor unrhyw gynlluniau i gynnal unrhyw ddarpariaeth gofal ychwanegol. 

              Ymrwymiad 83 - cadarnhawyd bod y Strategaeth Gomisiynu'n un ranbarthol, felly mae'n cynnwys CNPT.  Mae Cyngor Abertawe'n gweithio o fewn y strategaeth hon. 

              Ymrwymiad 102 - gofynnodd y panel ynghylch y dyddiad ar gyfer sefydlu'r siarter.  Nodwyd mai'r bwriad oedd sefydlu ffordd dda o weithio ac y gallai'r cyngor lwyddo i wneud hyn heb gael siarter. 

 

Camau Gweithredu:

              Pennaeth Gwasanaeth i e-bostio copi o'r ddogfen gaffael ar gyfer ailgomisiynu gwasanaethau gofal cartref i'r Cyng. Jardine. 

              Pennaeth Gwasanaeth i hysbysu aelodau'r panel am y sefyllfa bresennol o ran CALl pan fydd yr wybodaeth ar gael.

6.

Adoygiad Blynyddol y Cyfarwyddwr o Daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2019-20 pdf eicon PDF 114 KB

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Briffiwyd y panel ar yr adolygiad blynyddol o daliadau gan Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Pwyntiau i'w trafod:

              Gofynnod y panel ynghylch y broses i adennill dyledion. Cytunodd y Cyfarwyddwr y byddai'n darparu manylion pellach am y broses, yn enwedig gwybodaeth am y defnydd o feilïaid.

              Gofynnodd y panel a yw'r geirio ynghylch galwadau wedi'i newid ar gyfer galwadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Fe'i hysbyswyd y gwnaed cais i newid y geiriad ac yr eir ar drywydd hyn.

              Pwynt 4.5 - Gofynnodd y panel a yw'r cynnydd mewn taliadau/cyflwyno taliadau wedi cael effaith andwyol ar ddefnydd. Fe'i hysbyswyd nad yw'r cyngor wedi gweld lleihad sylweddol yn y defnydd o wasanaethau dydd (er y cyflwynwyd taliad) ond fe'u defnyddir yn wahanol. Rhoddwyd gwybod i'r panel bod angen gwneud rhagor o waith o ran categoreiddio gwasanaethau.

              Nid yw'r panel yn sicr am sut mae incwm yn cael ei greu o Daliadau Uniongyrchol. Yn dilyn trafodaeth, cadarnhawyd nad incwm ydyw mewn gwirionedd ond gostyngiad. Ni ddefnyddir taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau'r cyngor ond fe'u defnyddir i brynu gwasanaethau allanol. 

              Nid yw nifer yr asesiadau ariannol wedi arwain at y cynnydd mewn incwm.  Cyflwyno'r ffioedd dros y 2 i 3 blynedd diwethaf sydd wedi arwain at y cynnydd mewn incwm, felly mae wedi cyflawni'r nod a fwriadwyd. Yn 2019/20 cafwyd y cynnydd oherwydd chwyddiant, felly nid oes angen ymgynghoriad cyhoeddus.   

              Nid oes bwriad i gyflwyno unrhyw ffioedd newydd o ran gofal personol. Fodd bynnag, bydd yr is-adran yn ystyried a oes unrhyw wasanaethau ychwanegol nad ydynt yn rhan o'r trefniadau presennol fel mater o drefn.  

              Mae'r ffrydiau incwm ychwanegol y mae'r is-adran yn chwilio amdanynt y tu allan i'r cyngor, er enghraifft, Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Iechyd, arian yn lle cyllid Ewropeaidd.

 

Camau Gweithredu:

              Darperir manylion pellach y broses i adennill dyledion, gan gynnwys defnyddio beilïaid, i'r panel.

              Gweld a yw'r newidiadau i'r geiriad ar gyfer gofynion y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi'u rhoi ar waith.

7.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 117 KB

Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Briffiodd Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, y panel am yr adroddiad monitro perfformiad ar gyfer mis Hydref/Tachwedd 2019.

 

Pwyntiau i'w trafod:

              Nid yw'r cyngor yn cyflawni'r targed corfforaethol ar gyfer nifer y gofalwyr a nodir ar hyn o bryd.

              Hoffai'r panel gynnwys ffordd o nodi'r rhesymau pam y mae asesiadau'n cael eu gwrthod yn y System Wybodaeth Gofal Cymunedol. Bydd y Pennaeth Gwasanaeth yn gofyn a yw hyn yn bosib.

              Holodd y panel ynghylch faint o amser sy'n mynd heibio rhwng yr adeg y mae unigolyn yn gofyn am asesiad ac yn cael yr asesiad hwnnw. 

              Gofynnodd y panel pam y mae gwahaniaeth rhwng nifer y bobl sydd am gael asesiad a'r nifer sy'n derbyn asesiad. 

              O 1 Chwefror, mae'r cyngor yn gyfrifol am benderfynu ar y trothwy ynghylch ymholiadau diogelu ar gyfer y Bwrdd Iechyd drwy'r Pwynt Mynediad Cyffredin.  Bydd hyn yn heriol. Bydd angen i'r panel gadw llygad ar hyn.

              Gofynnodd y panel am y sefyllfa ynghylch y newid cyfreithiol o ran y Ddeddf Galluedd Meddyliol ac effaith hynny. Bydd y Pennaeth Gwasanaeth yn darparu nodyn briffio pan fydd gwybodaeth ar gael.

 

Camau Gweithredu:

              Bydd y Pennaeth Gwasanaeth yn gofyn a oes ffordd o nodi'r rhesymau pam y mae asesiadau'n cael eu gwrthod yn y System Wybodaeth Gofal Cymunedol.

              Bydd y Pennaeth Gwasanaeth yn ymateb i ymholiadau ynghylch y rheini sydd am gael asesiad a'r rheini sy'n derbyn asesiad.

              Bydd y panel yn derbyn nodyn briffio ar y sefyllfa ynghylch y newid cyfreithiol mewn perthynas â'r Ddeddf Galluedd Meddwl a'r effaith ar hyn, pan fydd yr wybodaeth ar gael.

8.

Amserlen Rhaglen Waith 2019-20 pdf eicon PDF 249 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

 

9.

Llythyrau pdf eicon PDF 183 KB

a)    Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Rhagfyr 2019)

Cofnodion:

Ystyriwyd y llythyrau gan y panel.  Disgwylir ymateb erbyn 3 Chwefror 2020.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 351 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 495 KB