Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 316 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Sesiwn Friffio ar Asesiadau Gofalwyr PDF 636 KB Alex Williams, Pennaeth
y Gwasanaethau i Oedolion Peter Field, Prif Swyddog
Ataliaeth, Lles a Chomisiynu Cofnodion: Briffiwyd y panel ar asesiadau gofalwyr, gan gynnwys ymatebion i bryderon a godwyd gan ofalwyr mewn fforymau amrywiol, gan Peter Field, Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu. Atebodd yntau gwestiynau'r panel ynghyd ag Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion. Pwyntiau i'w trafod: • Gofynnodd y panel a oes terfyn ar nifer y diwrnodau seibiant sydd ar gael i ofalwyr. Hysbysebwyd er mwyn sicrhau cyfiawnder a thegwch i deuluoedd fod dyraniad uchafswm enwol o 42 o ddiwrnodau fel arfer yn berthnasol, sydd fel arfer yn ddigon i ddiwallu'r rhan fwyaf o'r anghenion asesedig. Fodd bynnag, mae pob dyraniad yn seiliedig ar angen asesedig ac mewn nifer bach o achosion, yr angen asesedig fydd yn pennu bod angen dyraniad uwch, a chaiff hyn ei gytuno fesul achos. • Gofynnodd y panel a oes digon o ddarpariaeth i bobl fynychu gwasanaethau dydd. Dywedwyd bod digon o allu i ddiwallu anghenion fod pobl am ddefnyddio llai o'r gwasanaethau dydd traddodiadol. Mae'r adran yn edrych ar hyn y mae'n ei ddarparu fel rhan o'r adolygiad. Yn y gwasanaethau pobl hŷn, nid yw pobl yn tueddu mynd i'r gwasanaeth dydd fwy na 3 gwaith yr wythnos oherwydd byddai'r angen am fwy na hynny'n tueddu i ddangos bod angen lefel uwch o gefnogaeth. Fodd bynnag, ystyrir dyraniadau fesul achos ac ar sail anghenion asesedig. • O'r 12,400 o asesiadau gofal a gynhaliwyd, nid yw'r adran yn gallu pennu sawl unigolyn fyddai hyn am fod y data'n gyfyngedig and nid yw'n sicr a yw'n gywir ar system PARIS. Maent yn symud draw i system WCCIS newydd felly dylai'r ffordd o gofnodi pethau wella. • Nid oes gan yr adran linell ar wahân yn y gyllideb ar gyfer seibiant. Mae'n seiliedig ar angen ac nid yw'n gyfyngedig i gyllideb. Byddai'n well gan yr adran fod mewn sefyllfa lle dyrennir cyllideb ar wahân ar gyfer seibiant. • Mae gan yr awdurdod ddyletswydd gyfreithiol i gynnal asesiadau ar gyfer gofalwyr. Ni ddylai'r asesiadau hyn fod yn seiliedig ar farn. Mae'r adran am gyrraedd y safle safonol sef gofyn a yw gofalwr yn rhan o'r broses, fel nad yw'n seiliedig ar farn. • Gofynnodd y panel pa mor effeithiol yw Cynllun Gwerthfawrogi Gofalwyr Bae'r Gorllewin a pha ganlyniadau sy'n deillio ohono. Mae'r grŵp yn fodlon ar y cynnydd hyd yn hyn ym mhob maes. Camau Gweithredu. • Darperir diweddariad ysgrifenedig ar Gynllun Gwerthfawrogi Gofalwyr Bae'r Gorllewin i'r Panel er gwybodaeth. |
|
Y diweddaraf am Gydlynu Ardaloedd Lleol PDF 569 KB Alex Williams, Pennaeth
y Gwasanaethau i Oedolion Jon Franklin, Rheolwr
Gweithredu Cydlynu Ardaloedd Lleol Cofnodion: Roedd Jon Franklin, Rheolwr Gweithredu Cydlynu Ardaloedd Lleol yn bresennol
i roi'r diweddaraf
am y sefyllfa bresennol gyda'r tîm CALl
a dangosodd ddau fideo i'r panel, sef 'Pete's Story' a 'Hub on the Hill' i
ddangos yr effaith a wneir. Pwyntiau i'w
trafod: •
Cynhaliwyd gwerthusiad yn 2016 gan Brifysgol Abertawe.
Cynigiwyd gwerthusiad pellach ac mae Prifysgol Southampton yn bwriadu cynnal gwerthusiad aml-safle i astudio effaith
CAL mewn tri gwahanol leoliad gan gynnwys
Abertawe. Rydym yn aros
am ragor o newyddion am gyllid ar gyfer
yr ymchwil a'r cwmpas ond
bydd yn canolbwyntio’n
rhannol ar fesur effaith yr
ymyriadau ataliol. Bydd angen rhoi'r
newyddion diweddaraf i'r panel. •
Yn ôl
adrannau, y ffordd o nodi effaith o ganlyniad i CALl
yw drwy gasglu
ystadegau, defnyddio offer mesur cynnydd a straeon/naratif - sef y rhan bwysicaf,
yn eu barn nhw. Mae gan yr
adran ryw syniad am sut i
osgoi costau a byddai'n bosib rhoi cynnig ar
hyn ar gyfer
rhai straeon ond nid oes
modd mesur yr effaith yn
hawdd na'n fanwl am ei bod yn un ddynol ar
sawl lefel. Ceir mwy o ddiddordeb
mewn sut i fesur yr
effaith mewn gwahanol ffyrdd yn hytrach na'r
costau. •
Nid oes gan bob ardal
Gydlynwyr Ardaloedd Lleol. Mae'n mynd
i gymryd amser hir i'w
sefydlu ym mhob ardal ond
mae ymagwedd gynyddol yn ddefnyddiol
ar gyfer dysgu. •
Mae'n ymddangos bod buddion i ehangu CALl
i ardaloedd cyfagos ond ar
hyn o bryd mae'n dibynnu ar
gyllid, sy'n eithaf cyfyngol. •
Ni wyddys o hyd sut bydd
Cydlynu Ardaloedd Lleol yn gweithio
mewn ardaloedd gwledig etc. •
Ni wyddwn a os oes unrhyw
fuddion o arbedion yn y gyllideb am ei fod yn
anodd gwneud cyswllt uniongyrchol. Camau Gweithredu: • Caiff y panel dderbyn y newyddion diweddaraf am gynnydd mewn perthynas â'r gwerthusiad arfaethedig. |
|
Amserlen Rhaglen Waith 2019/20 PDF 249 KB Cofnodion: Derbyniwyd
ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel. Bydd y cynigion cyllidebol ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion yn cael eu hystyried fel eitem yng nghyfarfod y panel ym mis Chwefror. |
|
a) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 19 Tachwedd 2019) Cofnodion: Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel. |
|