Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 316 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod. 

 

5.

Sesiwn Friffio ar Asesiadau Gofalwyr pdf eicon PDF 636 KB

Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

Peter Field, Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu

Cofnodion:

Briffiwyd y panel ar asesiadau gofalwyr, gan gynnwys ymatebion i bryderon a godwyd gan ofalwyr mewn fforymau amrywiol, gan Peter Field, Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu. Atebodd yntau gwestiynau'r panel ynghyd ag Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

              Gofynnodd y panel a oes terfyn ar nifer y diwrnodau seibiant sydd ar gael i ofalwyr.  Hysbysebwyd er mwyn sicrhau cyfiawnder a thegwch i deuluoedd fod dyraniad uchafswm enwol o 42 o ddiwrnodau fel arfer yn berthnasol, sydd fel arfer yn ddigon i ddiwallu'r rhan fwyaf o'r anghenion asesedig. Fodd bynnag, mae pob dyraniad yn seiliedig ar angen asesedig ac mewn nifer bach o achosion, yr angen asesedig fydd yn pennu bod angen dyraniad uwch, a chaiff hyn ei gytuno fesul achos.

              Gofynnodd y panel a oes digon o ddarpariaeth i bobl fynychu gwasanaethau dydd. Dywedwyd bod digon o allu i ddiwallu anghenion fod pobl am ddefnyddio llai o'r gwasanaethau dydd traddodiadol. Mae'r adran yn edrych ar hyn y mae'n ei ddarparu fel rhan o'r adolygiad.  Yn y gwasanaethau pobl hŷn, nid yw pobl yn tueddu mynd i'r gwasanaeth dydd fwy na 3 gwaith yr wythnos oherwydd byddai'r angen am fwy na hynny'n tueddu i ddangos bod angen lefel uwch o gefnogaeth. Fodd bynnag, ystyrir dyraniadau fesul achos ac ar sail anghenion asesedig.

              O'r 12,400 o asesiadau gofal a gynhaliwyd, nid yw'r adran yn gallu pennu sawl unigolyn fyddai hyn am fod y data'n gyfyngedig and nid yw'n sicr a yw'n gywir ar system PARIS. Maent yn symud draw i system WCCIS newydd felly dylai'r ffordd o gofnodi pethau wella.

              Nid oes gan yr adran linell ar wahân yn y gyllideb ar gyfer seibiant.  Mae'n seiliedig ar angen ac nid yw'n gyfyngedig i gyllideb. Byddai'n well gan yr adran fod mewn sefyllfa lle dyrennir cyllideb ar wahân ar gyfer seibiant.

              Mae gan yr awdurdod ddyletswydd gyfreithiol i gynnal asesiadau ar gyfer gofalwyr. Ni ddylai'r asesiadau hyn fod yn seiliedig ar farn.  Mae'r adran am gyrraedd y safle safonol sef gofyn a yw gofalwr yn rhan o'r broses, fel nad yw'n seiliedig ar farn. 

              Gofynnodd y panel pa mor effeithiol yw Cynllun Gwerthfawrogi Gofalwyr Bae'r Gorllewin a pha ganlyniadau sy'n deillio ohono. Mae'r grŵp yn fodlon ar y cynnydd hyd yn hyn ym mhob maes.

 

Camau Gweithredu.

              Darperir diweddariad ysgrifenedig ar Gynllun Gwerthfawrogi Gofalwyr Bae'r Gorllewin i'r Panel er gwybodaeth.

6.

Y diweddaraf am Gydlynu Ardaloedd Lleol pdf eicon PDF 569 KB

Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

Jon Franklin, Rheolwr Gweithredu Cydlynu Ardaloedd Lleol

Cofnodion:

Roedd Jon Franklin, Rheolwr Gweithredu Cydlynu Ardaloedd Lleol yn bresennol i roi'r diweddaraf am y sefyllfa bresennol gyda'r tîm CALl a dangosodd ddau fideo i'r panel, sef 'Pete's Story' a 'Hub on the Hill' i ddangos yr effaith a wneir.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

              Cynhaliwyd gwerthusiad yn 2016 gan Brifysgol Abertawe. Cynigiwyd gwerthusiad pellach ac mae Prifysgol Southampton yn bwriadu cynnal gwerthusiad aml-safle i astudio effaith CAL mewn tri gwahanol leoliad gan gynnwys Abertawe.  Rydym yn aros am ragor o newyddion am gyllid ar gyfer yr ymchwil a'r cwmpas ond bydd yn canolbwyntio’n rhannol ar fesur effaith yr ymyriadau ataliol. Bydd angen rhoi'r newyddion diweddaraf i'r panel.

              Yn ôl adrannau, y ffordd o nodi effaith o ganlyniad i CALl yw drwy gasglu ystadegau, defnyddio offer mesur cynnydd a straeon/naratif - sef y rhan bwysicaf, yn eu barn nhw. Mae gan yr adran ryw syniad am sut i osgoi costau a byddai'n bosib rhoi cynnig ar hyn ar gyfer rhai straeon ond nid oes modd mesur yr effaith yn hawdd na'n fanwl am ei bod yn un ddynol ar sawl lefel. Ceir mwy o ddiddordeb mewn sut i fesur yr effaith mewn gwahanol ffyrdd yn hytrach na'r costau.

              Nid oes gan bob ardal Gydlynwyr Ardaloedd Lleol. Mae'n mynd i gymryd amser hir i'w sefydlu ym mhob ardal ond mae ymagwedd gynyddol yn ddefnyddiol ar gyfer dysgu. 

              Mae'n ymddangos bod buddion i ehangu CALl i ardaloedd cyfagos ond ar hyn o bryd mae'n dibynnu ar gyllid, sy'n eithaf cyfyngol.

              Ni wyddys o hyd sut bydd Cydlynu Ardaloedd Lleol yn gweithio mewn ardaloedd gwledig etc.

              Ni wyddwn a os oes unrhyw fuddion o arbedion yn y gyllideb am ei fod yn anodd gwneud cyswllt uniongyrchol.

 

Camau Gweithredu:

              Caiff y panel dderbyn y newyddion diweddaraf am gynnydd mewn perthynas â'r gwerthusiad arfaethedig.

7.

Amserlen Rhaglen Waith 2019/20 pdf eicon PDF 249 KB

Cofnodion:

 Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel. 

 

Bydd y cynigion cyllidebol ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion yn cael eu hystyried fel eitem yng nghyfarfod y panel ym mis Chwefror. 

8.

Llythyrau pdf eicon PDF 341 KB

a)    Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 19 Tachwedd  2019)

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 183 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 393 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Atodiad pdf eicon PDF 2 MB