Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 322 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2019 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i
faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod
o 10 munud.
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw aelodau'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.
|
5. |
Comisiynu Gofal Preswyl PDF 298 KB
Peter Field, Prif Swyddog Ataliaeth,
Lles a Chomisiynu
Cofnodion:
Daeth Peter Field, Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a
Chomisiynu, i friffio'r Panel ac i ateb ei gwestiynau.
Pwyntiau trafod:
- Mae'r awdurdod yn
bodloni'r gofyniad statudol o gynnig mwy nag un dewis o lety ar gyfer
gofal preswyl
- Mae defnyddwyr
gwasanaeth yn ei chael hi'n anodd yn gyson i fynegi pryderon. Mae'r adran
yn gofyn i ddarparwyr roi gwybodaeth ac arweiniad ac i gynnig sicrwydd. Mae'r adran hefyd yn darparu peth
hyfforddiant ar hwn ar gyfer darparwyr.
- Pwynt 5.15 yr
adroddiad - gofynnodd y panel pa 'bwysau' oedd yn atal cyflawni'r targed.
Rhoddwyd gwybod bod dau beth wedi cyfrannu at beidio â chyflawni
ymchwiliadau yn ôl yr amserlen. Efallai na fydd y broses yn gweithio fel
hyn yn y dyfodol.
- Pwynt 5.15 yr
adroddiad - gofynnodd y panel am sicrwydd fod yr adran yn casglu'r holl
wybodaeth am fonitro gan bartneriaid ac yna'n rhannu gwybodaeth â
phartneriaid am yr hyn y mae angen iddynt ei wybod. Rhoddwyd gwybod nad yw'r holl wybodaeth
a gesglir gan bartneriaid am fonitro'n cael ei rhannu â phawb; dim ond yr
hyn maent yn teimlo y mae angen ei rhannu.
- Pwynt 7.1 yr
adroddiad - gofynnod y panel i ba raddau y mae prisiau'n brif ffactor wrth
benderfynu ar bwy fydd yn darparu gwasanaethau cartref gofal i oedolion
iau. Rhoddwyd gwybod bod 60% o'r dewis fel arfer yn dibynnu ar safon a 40%
yn dibynnu ar y pris.
- Trafodwyd i ba
raddau y bydd Brexit yn effeithio ar gartrefi
gofal o ran staff o'r UE. Mae 6% o
staff gofal ar hyn o bryd yn dod o'r UE. Mae'r aelodau staff hyn wedi cael
gwybod am Gynllun Preswylio'r UE.
- Pwynt 8.7 yr
adroddiad - gofynnodd y panel i weld y Fframwaith Ansawdd a chytunodd y
swyddogion i ddarparu hyn.
Camau Gweithredu:
- Caiff Fframwaith
Ansawdd Rhanbarthol ar gyfer Cartrefi Gofal ei ddosbarthu i'r panel er
gwybodaeth.
|
6. |
Monitro Perfformiad PDF 221 KB
Deborah Reed, Pennaeth
Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Daeth Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion, i
friffio'r panel ar yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Awst/Medi
2019.
Pwyntiau trafod:
- Tudalen 16: Pwynt
Mynediad Cyffredin - mae'n ymddangos bod nifer yr ymholiadau a grëir yn
gostwng bob mis Rhagfyr. Mae'r adran yn credu bod hyn yn digwydd oherwydd
gwyliau'r Nadolig, pan mae teuluoedd yn treulio amser gyda'i gilydd, ac
yna mae ymholiadau'n cynyddu'n sydyn ym mis Ionawr.
- Tudalen 16:
Gofalwyr sydd wedi'u nodi ac a ydynt am gael asesiad gofalwr - tua 50% o
ofalwyr yn unig sydd am gael asesiad. Mae'r adran yn ceisio sicrhau bod
pawb yn deall yr hyn y mae'n ceisio ei wneud gyda'r asesiadau. Mae hefyd
yn bwysig nodi ar ba adeg y mae'r asesiad yn cael ei gynnig.
- Tudalen 22: Oedi
wrth drosglwyddo gofal - gwnaed cynnydd sylweddol. Ym mis Medi 2019, 20 o bobl yn unig oedd
yn aros am becyn gofal.
|
7. |
Y diweddaraf am Raglen Trawsnewid y Gwasanaethau i Oedolion PDF 468 KB
Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro
y Gwasanaethau i Oedolion
Cofnodion:
Roedd Deborah Reed wedi briffio Panel y Gwasanaethau i Oedolion ynghylch y
blaenoriaethau gwella ar gyfer 2019/20, gan roi diweddariadau ar raglenni
penodol ac ateb cwestiynau'r panel.
Pwyntiau trafod:
- Gofynnodd y panel
am ddadansoddiad o'r cynnydd a wnaed o ran arbedion gwerth £1,893,800
erbyn mis Awst 2019.
- Mae rhagolwg arbedion
ar gyfer blwyddyn 2019/20 oddeutu £640,000 yn llai na'r cyfanswm arbedion
ar y cyd, sef £4,078,000. Mae'r adran yn ceisio gwneud arbedion mewn
ffyrdd eraill.
Camau Gweithredu:
- Bydd y Swyddog
Craffu'n dosbarthu'r ddogfen a gynhwysir yn yr adroddiad diweddaru i'r
panel er mwyn dangos cynnwys y cynnydd o ran arbedion.
|
8. |
Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20 PDF 249 KB
Cofnodion:
Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.
- Caiff y papur
trafod 'Gwella Data Perfformiad' ei ychwanegu i'r Rhaglen Waith.
- Yn ystod y cyfarfod
panel ychwanegol ym mis Chwefror a fydd yn trafod y cynigion cyllidebol
drafft ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion, hoffai'r panel hefyd weld
adroddiad y llynedd i weld yr hyn a gyflawnwyd o ran cynigion cyllidebol y
llynedd.
|
9. |
Llythyrau PDF 325 KB
a)
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Awst 2019)
b)
Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 24 Medi 2019)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 175 KB
|