Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Ni ddatgelwyd unrhyw
fuddiannau.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y cyfarfod ar 30 Gorffennaff 2019 a 20 Awst 2019 PDF 321 KB
Derbyn cofnodion
y cyfarfodydd blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019 ac 20 Awst 2019 yn gofnod
cywir o'r cyfarfodydd .
|
4. |
Cwestiynau'r Cyhoedd
Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
Nid oedd
unrhyw aelodau'r cyhoedd yn bresennol
yn y cyfarfod.
|
5. |
Datblygiadau Byw â Chymorth ar gyfer y Gwasanaethau Anabledd Dysgu PDF 312 KB
Deborah Reed,
Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion
Cofnodion:
Roedd Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion, yn
bresennol i friffio'r Panel ar y mater hwn ac i ateb cwestiynau'r Panel.
Pwyntiau i'w trafod:
- Cynhaliodd aelodau'r
Panel ddau ddigwyddiad anffurfiol gyda rhieni oedolion ag anableddau
iechyd meddwl a rhieni oedolion ag anableddau dysgu cyn y cyfarfod i gael
eu hadborth am drefniadau byw â chymorth.
- Y pryder mwyaf ar
gyfer rhieni mewn perthynas ag aildendro'r
gwasanaeth oedd sut yr ymdrinnir â'r trawsnewid. Mae angen sicrhau
sefydlogrwydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Cadarnhaodd yr adran y bydd
ymdeimlad o ddilyniant i'r rhan fwyaf o'r defnyddwyr gwasanaeth.
- Trafodwyd
trefniadau tenantiaeth. Holodd y
Panel a ehangwyd ar ddisgfrifwyr 'annibyniaeth' yn y cytundebau
tenantiaeth. Rhoddwyd gwybod iddynt
nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cytundebau tenantiaeth am eu bod yn ymwneud
â chefnogaeth a byddent yn cael eu cynnwys mewn trefniadau cefnogaeth
gofal.
- Trafodwyd cyd-gynhyrchu
a rôl rhieni yn yr adolygiad comisiynu. Rhoddodd y rhieni'r argraff nad
oeddent yn cael dweud eu dweud am fywydau eu plant pan gânt eu symud i
leoliad byw â chymorth. Clywyd bod rhieni'n cael eu hannog i gymryd
rhan.
- Mewn digwyddiadau
anffurfiol, roedd aelodau'r panel yn cael yr argraff nad oedd gwasanaethau
eiriolaeth annibynnol ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth. Rhoddwyd gwybod
bod y gwasanaethau ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth ag anableddau dysgu a
phroblemau iechyd meddwl.
- Codwyd y mater o
restrau aros gan rieni mewn cyfarfodydd anffurfiol. Clywyd nad oes rhestr aros ffurfiol ar
gyfer y Gwasanaethau Anableddau Dysgu. Mae rhestr aros ffurfiol ar gyfer y
gwasanaethau iechyd meddwl ond mae llai na 20 o unigolion arni ar adeg
benodol. Efallai bod lleoedd byw â chymorth ar gael ond mae'n bosib nad
ydynt yn addas ar gyfer yr unigolion sydd ar y rhestr aros.
- Cadarnhaodd Aelod y
Cabinet fod diffyg llety gwely sengl i unigolion â phroblemau iechyd
meddwl i symud iddynt ac mae hyn yn broblem y bydd angen i'r awdurdod
lleol ei ystyried ymhellach.
- Mae gan yr awdurdod
gyswllt â'r darparwr gwasanaeth ac maent yn derbyn adborth rheolaidd
ganddynt. Mae'r awdurdod yn llunio
ei fframwaith sicrhau perfformiad ei hun ar hyn o bryd.
- Nid yw'r awdurdod
yn argymell bod darparwyr unigol yn cwrdd â rhieni'n rheolaidd ond byddai
disgwyl iddynt gwrdd er mwyn bodloni eu hamcanion.
- Roedd rhai rhieni
yn y cyfarfodydd anffurfiol yn teimlo nad oedd pwynt cyswllt amlwg i
gysylltu ag ef yn yr awdurdod os oeddent yn cael problemau gyda'r
darparwr. Rhoddwyd gwybod bod dau
newid wedi'i gyflwyno i wella'r cyswllt hwn.
- Ymholodd y Panel am
ddealltwriaeth yr adran o effeithlonrwydd a rhoddwyd gwybod ei fod yn
ostyngiad yn yr oriau comisiynu (arbedion costau).
- Mae'r adran yn
dibynnu ar reolwyr gofal (gweithwyr cymdeithasol) i sicrhau bod cynlluniau
gofal a chefnogaeth yn cael eu cyflwyno.
- Mewn perthynas â
llety byw â chymorth, roedd gan rieni bryderon ynghylch hyfforddiant,
profiad, oedran staff a'r defnydd o weithwyr asiantaeth. Nid yw'r Panel yn siŵr os gall yr
awdurdod wneud unrhyw beth ynghylch hyn.
Rhoddwyd gwybod yr asesir trosiant staff y darparwyr yn flynyddol a
dylent ddarparu data ar gyfer hyn.
Hefyd, gall staff a gyflogir gan ddarparwyr gael mynediad at
hyfforddiant y gwasanaethau cymdeithasol a chael mynediad at rai cyrsiau
hyfforddi annibynnol.
Camau Gweithredu:
- Aelod y Cabinet a'r
swyddogion i ddarparu sylwadau ar y nodyn briffio a luniwyd yn dilyn dau
ddigwyddiad anffurfiol gyda'r rhieni.
- Panel i weld copi
gwag o ddwy ddogfen - cytundeb tenantiaeth a chytundeb cefnogaeth gofal ac
esboniad o'r 'annibyniaeth' a ddefnyddiwyd.
- Cylchredeg y
cyflwyniad a roddwyd yn y digwyddiad gyda'r rheini i'r Panel er
gwybodaeth.
- Y Panel i dderbyn
rhagor o wybodaeth am y sefyllfa o ran rhestrau aros ar gyfer llety byw â
chymorth.
|
6. |
Arfer a Sicrwydd Caffael mewn Gofal Cymdeithasol PDF 383 KB
Peter Field, Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu
Cofnodion:
Roedd Peter Field, Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a
Chomisiynu yn bresennol i friffio'r Panel ac i ateb cwestiynau.
Pwyntiau i'w trafod:
- Ymholodd y Panel
ynghylch pa mor dda mae adborth defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei fwydo i'r
broses sicrwydd a rhoddwyd gwybod iddynt nad yw mor dda ag y gallai fod
ond bydd trefniadau'n gwella wrth i amser fynd yn ei flaen.
- Bu cyfleoedd
rheolaidd i ddefnyddwyr gwasanaeth roi adborth am wasanaethau presennol y
Gwasanaethau Anabledd drwy gwblhau arolwg wyneb yn wyneb. Clywyd gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl
fod hyn wedi'i gynnal gan y Gwasanaethau Byw â Chymorth ond nid yw
swyddogion yn sicr pa mor aml y gwnaed hyn.
- Mae tybiaeth bod
darparwyr yn darparu gwybodaeth/pecynnau croeso i ddefnyddwyr gwasanaeth
wrth iddynt fynd i lety byw â chymorth.
- Nid yw'r broses
gaffael yn parhau hyd at y broses archwilio mewnol.
- Mae ymgynghori â
gofalwyr yn faes y mae angen i'r adran ei wella a bydd yn edrych ar hyn
(cynlluniau gofalwyr) dros y 12-18 mis nesaf.
|
7. |
Amserlen Rhaglen Waith 2019/20 PDF 248 KB
Cofnodion:
Derbyniwyd ac ystyriwyd
y rhaglen waith gan y panel.
|
8. |
Llythyrau PDF 193 KB
a)
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 30
Gorffennaff 2019)
b)
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Awst
2019)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd llythyrau
eu derbyn a'u hystyried gan
y panel.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 181 KB
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet Dilynol PDF 234 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet PDF 408 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Atodiad 1 PDF 211 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Atodiad 2 PDF 803 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Atodiad 3 PDF 349 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Atodiad 4 PDF 541 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet i’r llythyr dilynol PDF 335 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet i’r llythyr dilynol - Atodiad 1 PDF 920 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet i’r llythyr dilynol - Atodiad 2 PDF 580 KB
|
|
Ymateb Aelod y Cabinet i’r llythyr dilynol - Atodiad 3 PDF 653 KB
|