Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Ni ddatgelwyd
unrhyw fuddiannau.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd
unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Nodiadau cyfarfod blaenorol PDF 508 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel
fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Mehefin yn gofnod cywir o'r
cyfarfod.
Pwyntiau i'w
trafod:
- Tudalen 4 - Eitem 7 - Camau Gweithredu -
trefnwyd dau ddigwyddiad bwrdd crwn yn y Ganolfan Ofalwyr - 3 Medi a 4
Medi.
- Tudalen 5 - Eitem 8 - materion yn cael eu
trafod â'r RNIB o hyd. Estynnwyd y cytundeb tan 31 Mawrth.
Camau Gweithredu:
- Anfon gwahoddiad i Aelod y Cabinet a
swyddogion ar gyfer digwyddiadau'r bwrdd crwn.
- Cadw'r diweddaraf am yr RNIB ar yr agenda
nesaf er mwyn i Aelod y Cabinet rhoi'r diweddaraf.
|
4. |
Cwestiynau'r Cyhoedd
Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i
faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod
o 10 munud.
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw
aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.
|
5. |
Y diweddaraf am drefniadau Rhaglen Drawsnewid Gorllewin Morgannwg yn dilyn adolygiad PDF 250 KB
Nicola Trotman, Cyfarwyddwr Dros Dro
Cofnodion:
Roedd Nicola Trotman,
Cyfarwyddwr Dros Dro'r Rhaglen yn bresennol er mwyn briffio'r Panel am y
trefniadau yn dilyn yr adolygiad. Roedd hyn yn cynnwys trosolwg o Bartneriaeth
Gorllewin Morgannwg ar ei newydd wedd, gan gynnwys Gweledigaeth, Nodau ac
Egwyddorion, llywodraethu a ffrydiau gwaith allweddol dan y tri bwrdd
trawsnewidiol.
Pwyntiau i'w
trafod:
- Mae'r strwythur newydd yn canolbwyntio ar
faterion trawsnewidiol.
- Tudalen 13 - yr 'arwyddair' - Holodd y panel
sut y mesurir cyfoeth cynyddol o les, iechyd a gofal. Hysbyswyd mai un o'r
blaenoriaethau allweddol eleni yw gwella perfformiad a datblygu mesurau
tymor byr a thymor hir. Hoffai'r panel weld sut y mae'r gwaith yn datblygu
a'r fethodoleg.
- Tudalen 32 - strwythur llywodraethu - mae'r
panel yn hapus ei fod wedi'i symleiddio.
- Gofynnodd y panel a oedd problem gyda chraffu
ar bartneriaethau rhanbarthol. Mae Aelod y Cabinet yn teimlo na fydd gan
swyddogion Abertawe broblem â hyn a byddai'n annog aelodau bwrdd
Partneriaeth Gorllewin Morgannwg i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd
craffu os gofynnir iddynt.
- Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn
enghraifft dda o wneud pethau'n rhanbarthol pan rydych chi'n elwa o'u
gwneud yn rhanbarthol neu wneud pethau'n lleol os yw'n well eu gwneud yn
lleol. Dylai hyn fod yr egwyddor.
- Mae Cyngor Abertawe'n
disgwyl gosod CCISC ar waith ym mis Mawrth/Ebrill y flwyddyn nesaf. O ran
y rhan ranbarthol, nid ydym yn sicr pan gaiff hyn ei rhoi ar waith.
Dylai'r bwrdd iechyd lofnodi'r gorchymyn lleoli tua mis Rhagfyr 2019.
Cytunodd CNPT i wneud hyn ond rydym yn ansicr o'r amserlen. Mae targedau
integredig ac rydym yn gobeithio y bydd CCISC yn helpu i fonitro'r rhain.
- Cyfanswm yr adnoddau ar gyfer Partneriaeth
Gorllewin Morgannwg yw £15m a £15.5m ar gyfer dwy raglen.
- Roedd y panel am wybod o ble y daw aelodau ar
gyfer Panel y Dinasyddion. Hysbyswyd y panel fod hwn yn grŵp
strwythuredig h.y. rhanddeiliaid â diddordeb,
ond mae'r aelodaeth yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Bydd y panel yn dod
yn ôl at y cwestiwn hwn yn y dyfodol.
- Gwneir mwy o ymdrech i gynnwys dinasyddion
wrth wneud penderfyniadau yn y bartneriaeth hon. Mae aelod enwebedig o'r
fforymau'n eistedd ar y byrddau. Mae'r panel yn teimlo os ydym yn ceisio
cynnwys rhanddeiliaid, dylem hefyd fod yn
ystyried cynnwys cynghorwyr gweithredol wrth gydgynhyrchu.
- Yn nhermau tryloywder, dylai cofnodion
byrddau trawsnewidiol fod ar gael ar wefan y bartneriaeth. Hysbyswyd nad
oeddent ar y wefan ar hyn o bryd ond mae cofnodion y Bwrdd Gweithredol ar
gael. Mae'r wefan yn cael ei hailddylunio fel y
gallent gael eu cynnwys yn y dyfodol.
- Mae gan y Panel ddiddordeb mewn gweld
astudiaethau achos lle mae'r bartneriaeth yn llwyddo a heb fod yn gwneud
cystal.
- Mae'r panel yn teimlo bod angen iddynt wneud
darn o waith ar graffu ar rai o'r prosiectau rhanbarthol.
Camau Gweithredu:
- Bydd y panel yn cael ei friffio ar sut mae'r
gwaith i fesur cyfoeth cynyddol o les, iechyd a gofal yn datblygu, ynghyd
â'r fethodoleg.
- Caiff eitem ei threfnu ar gyfer y Panel mewn
6 mis ar 'Bartneriaeth Gorllewin Morgannwg - 3 astudiaeth achos sy'n
dangos lle mae'r bartneriaeth yn llwyddo a heb fod yn gwneud cystal'.
|
6. |
Monitro Perfformiad PDF 73 KB
Dave Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Dave Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r
panel ynghylch yr adroddiadau monitro perfformiad ar gyfer Mai/Mehefin
2019.
Pwyntiau i'w
trafod:
- Tudalen 37 - Gofalwyr sydd wedi'u nodi ac a
ydynt am gael asesiad gofalwr - Peth tystiolaeth bod cynnydd mewn cynnig
asesiad gofalwyr i ofalwyr. Roedd y panel yn teimlo os ydym yn nodi
gofalwyr yn seiliedig ar gefnogaeth gofalwyr, ni chaiff yr holl ofalwyr eu
nodi.
- Tudalen 38 - Gofal Cartref Tymor Hir - Mae'r
ffigyrau'n aros tua'r un peth. Gallwch ddisgwyl gweld gwahaniaeth y
flwyddyn nesaf o ganlyniad i'r newidiadau a wnaed. Mae'r Panel wedi gofyn
o'r blaen am weld tueddiadau yn hytrach na ffigurau'r 2 fis diwethaf.
Byddant yn mynd yn ôl ac yn gofyn a ellir cynnwys hyn yn adroddiadau'r
dyfodol.
- Holodd y Panel ynghylch sut y blaenoriaethir
Gofal Cartref Tymor Hir. Fe'u hysbyswyd bod
cyfres o ddangosyddion. Bydd mater diogelu yn y cartref yn derbyn
blaenoriaeth dros rywun yn yr ysbyty, ond byddai hyn yn derbyn
blaenoriaeth dros rywun sydd allan yn y gymuned (os nad oes mater
diogelu).
- Tudalen 50 - Oedi wrth drosglwyddo gofal -
mae problem sylweddol. Lefelau uchaf o oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis
Mehefin 2019 am 24 o fisoedd.
Camau Gweithredu:
- Darparu tueddiadau ar gyfer Gofal Cartref
Tymor Hir yn adroddiadau'r dyfodol.
|
7. |
Adolygiad o Alldro Terfynol y Gyllideb PDF 74 KB
Dave Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Dave Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi briffio'r Panel am Alldro Terfynol
Cyllideb y Gwasanaethau i Oedolion ar gyfer 2018/19 ac atebodd gwestiynau'r
panel.
|
8. |
Adolygiad o Berfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru'r Awdurdod Lleol PDF 104 KB
Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Dave Howes
wedi briffio'r panel ar yr eitem hon gan gynnwys roi trosolwg o'r adolygiad perfformiad blynyddol
a gynhelir gan AGC a'r llythyr at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n
crynhoi gwerthusiad perfformiad y gwasanaethau cymdeithasol yn ystod 2018/19.
Mae trefniadau newydd yng nghynllun adolygiad perfformiad blynyddol AGC ar
gyfer 2019/20.
Yn y Gwasanaethau
i Oedolion, bydd AGC yn edrych ar drefniadau'r awdurdod sy'n cyd-fynd â'r
arolygiadau thematig i bobl sy'n derbyn gwasanaethau gofal a chefnogaeth.
|
9. |
Amserlen Rhaglen Waith 2019/20 PDF 86 KB
Cofnodion:
Derbyniwyd ac
ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.
|
10. |
Llythyrau PDF 198 KB
a)
Llythyr at Aelod y Cabinet Mark Child (cyfarfod
20 Mehefin 2019)
b)
Llythyr at Aelod y Cabinet Andrea Lewis
(cyfarfod 20 Mehefin 2019)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd llythyrau
eu derbyn a'u hystyried gan y panel.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 193 KB
|