Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datgeliadau o gysylltiadau – Chris Holley.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Penodi/Cadarnhau Cynullydd y Panel a Chadarnhau Cyfetholedigion

Cofnodion:

Cadarnhawyd Peter Black fel Cynullydd y panel.

Cadarnhawyd Katrina Guntrip a Tony Beddow fel aelodau cyfetholedig y panel.

4.

Nodiadau cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 279 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Derbyniodd y panel gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2019 a chytunwyd eu bod yn gofnod cywir.

5.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnwyd un cwestiwn gan aelod o'r cyhoedd:

 

           Ydych chi'n ymwybodol o'r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch contract y cyngor â'r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB)?

 

 

Cytunwyd i fynd i'r afael â'r cwestiwn hwn dan eitem 9 yr agenda.

 

6.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Addasiadau Tai pdf eicon PDF 256 KB

Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni

Mark Wade, Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd

Darren Williams, Rheolwr Cynllunio a Chyflwyno Rhaglenni, Adnewyddu ac Addasu Tai

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, Marc Wade, Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd a Darren Williams, Rheolwr Cynllunio a Chyflwyno Rhaglenni, Adnewyddu ac Addasu Tai yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r panel ar Adolygiad SAC ynghylch Addasiadau Tai. Roedd hyn yn cynnwys y cefndir i'r adolygiad, argymhellion ar welliannau a'r cynnydd a wnaed yn genedlaethol ac yn lleol wrth roi'r argymhellion ar waith.

 

Pwyntiau trafod:

 

           Adroddiad negyddol iawn yn rhyngwladol gyda'r un pethau'n cael eu hargymell mewn tri adroddiad dros y 10 mlynedd diwethaf. Nid yw'r cyngor yn meddwl bod hyn yn berthnasol i Abertawe.

           Mae dangosydd y cyngor ar gyfer darparu Grantiau Cyfleusterau Anabl wedi gwella o 340 o ddiwrnodau yn 2015-16 i 235 o ddiwrnodau yn 2018-19. Y nod ar gyfer eleni yw 255 o ddiwrnodau. Mae hyn yn parhau i fod yn uwch na'r cyfartaledd amser aros cenedlaethol.

           Nid yw dangosyddion perfformiad yn fesur perffaith o berfformiad gan fod Awdurdodau'n ymchwilio iddo mewn ffyrdd gwahanol.

           Mae'r gwasanaeth therapi galwedigaethol wedi dod yn fewnol. Dylai bod asesiad unedig yn cael ei ddyblygu gyda Therapyddion Galwedigaethol o'r Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol.

           Mae'n anodd gwneud unrhyw beth ar y broses addasiadau unedig rhwng Cymdeithasau Tai a'r cyngor gan eu bod yn cael eu hariannu'n wahanol. Ar hyn o bryd mae problem gydag anghysondeb. Mae angen i Lywodraeth Cymru datrys hwn a gweithredu adolygiad cenedlaethol.

           Mae'r cyngor wedi adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ynghylch sicrhau bod yr holl waith Categoreiddio yng Nghymru'n cael ei wneud yn gywir.

           Yn rownd y gyllideb ddiwethaf penderfynodd y cyngor i beidio â thorri cyllideb addasiadau tai yn nhermau ei gadael ar y lefel bresennol, gan fod y galw wedi cynyddu. Bydd angen adolygu hyn fesul blwyddyn. Os bydd y galw'n fwy na'r gyllideb, bydd amserau aros yn cynyddu.

           Mae 'addasu' wedi bod yn llwyddiannus. Mae wedi helpu i beidio â gwastraffu arian cyfalaf trwy adael cyfarpar mewn eiddo ac uno tenantiaid newydd gyda chartrefi wedi'u haddasu.

           Hoffai'r panel weld lefel mwy cyfiawn o ddyddiau aros ar gyfer addasiadau rhwng eiddo preifat ac eiddo'r cyngor.

           Mae'r panel yn bryderus ynghylch a yw'r cyngor yn gwneud y peth iawn trwy addasu eiddo penodol sy'n anodd neu'n ddrud i'w addasu ac ymholwyd a fyddai'n fwy cost effeithiol i'r cyngor symud tenantiaid i eiddo sy'n haws ei addasu. Hysbyswyd bod proses i benderfynu werthuso a fydd yr addasiad gwerth yr arian.

           £36,000 yw'r uchafswm y gellir ei dderbyn ar gyfer Grant Cyfleusterau i'r Anabl. Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn ychwanegu at hyn os oes angen, ond efallai bydd angen ystyried hyn yn y dyfodol.

           Gall unrhyw un wneud cais am addasiadau tai - unigolion ac arbenigwyr ar ran unigolyn.

           Mae'r cyngor yn rheoli Fframwaith Contractwyr. Os caiff contractwr ei gyflogi o fewn y fframwaith, mae dyletswydd ar y cyngor i ddatrys unrhyw broblemau perfformiad. Os bydd pobl yn cyflogi contractwyr eu hunain mae cosbau cyfyngedig y gall y cyngor eu rhoi os bydd unrhyw faterion yn codi.

           Mae asesiad gwerthuso perfformiad ar gyfer pob cynllun addasu a gwblhawyd gan ddefnyddio Fframwaith Contractwyr y Cyngor, a chânt eu sgorio dan nifer o benawdau perfformiad amrywiol.

 

Camau Gweithredu:

           Anfon llythyr at Andrea Lewis gan gynullydd y panel.

           Andrea Lewis i ddarparu cynigion i'r panel er mwyn cyflawni amserau anfon gwell ar gyfer tenantiaid y cyngor.

7.

Adolygiad Panel y Flwyddyn 2018/19 a Rhaglen Waith Ddrafft 2019/20 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd aelodau'r panel eu blwyddyn ar y Panel Gwasanaethau i Oedolion gan gwblhau 4 cwestiwn:

 

1. Beth aeth yn dda?

 

           Mae lefel y safon ddadl wedi bod yn dda

           Mae lefel gefnogaeth gan staff wedi bod yn dda

           Mae'r cyngor a'r Bwrdd Iechyd wedi herio Aelodau’r Cabinet a swyddogion yn fawr

           Gwnaed ychydig o gynnydd ynghylch newid barn ar gyllideb

           Roedd y diweddaraf ar eitem ymrwymiadau'r polisi yn dda

           Comisiynu adolygiadau a sut rydym yn asesu contractau. Lefel ymrwymiad a dadl - da iawn.

           Data perfformiad - ennill dealltwriaeth gwell o hyn, mwy o ffocws ac yn fanylach

           Craffu ar y Bwrdd Iechyd. Roedd cael nhw o'n blaenau yn ein galluogi i ddatrys rhai o'r problemau.

 

2. Beth nad oedd wedi gweithio cystal?

 

           Ymweliadau - heb weithio cystal hyd yn hyn gan fod dau berson yn unig wedi dod i'r ymweliad cyntaf. Nid yw hyn yn rhoi argraff dda.

           Craffu ar y gyllideb - Ddim yn hapus gyda'r amser sydd gan y panel i wneud hyn. Mae angen i'r panel ddefnyddio'r broses hon i ddeall yr hyn y mae'r cyngor yn ceisio ei wneud gyda'r arian. Mae angen i bapurau fod ar gael yn gynt fel bod ganddynt amser i fynd drwyddynt yn drylwyr cyn y cyfarfod craffu. Hefyd nid oes gan y swyddogion ar y rheng flaen gysylltiad â 'r gyllideb.

           Nid oedd craffu ar Fae'r Gorllewin yn llwyddiannus. Angen ailystyried sut rydym yn rhyngweithio â nhw.

 

3. Ydy rhaglen waith y panel wedi canolbwyntio ar y pethau iawn?

 

           Efallai y bydd yn help i ystyried morâl staff yn lleol, yn enwedig salwch staff yn y Gwasanaethau i Oedolion

           Ddim yn siarad â defnyddwyr y gwasanaeth digon. Gwahodd defnyddwyr i siarad am eu profiadau. Gall sefydliad o'r Trydydd Sector drefnu digwyddiad bwrdd crwn ar gyfer rhai o'r grwpiau defnyddwyr yn eu hardal nhw, er mwyn derbyn eu barn ar bwnc penodol (Canolfan Ofalwyr, fforymau defnyddwyr gwasanaeth).

 

4. Beth rydyn ni wedi'i ddysgu a fydd yn ein helpu ni i graffu ar y Gwasanaethau i Oedolion yn y dyfodol?

 

           Mae'r panel wedi dyfal barhau ac wedi amlygu pethau.

 

 

Cytunodd aelodau'r panel ar raglen waith 2019/20.

 

Camau Gweithredu:

           Ychwanegu 'Salwch staff yn y Gwasanaethau i Oedolion' at y rhaglen waith.

           Bydd aelodau'r panel yn rhoi gwybod i'r swyddog craffu os bydd pwnc yn codi mewn rhaglen waith a fyddai'n ddefnyddiol cynnal digwyddiad bwrdd crwn gyda defnyddwyr gwasanaeth ar ei gyfer. Gellir siarad â nhw cyn siarad gyda'r swyddogion yng nghyfarfod y panel.

           Bydd y Swyddog Craffu'n ymchwilio i'r posibilrwydd o gynnal digwyddiad bwrdd crwn gyda defnyddwyr gwasanaeth ar gyfer yr eitem 'Datblygiadau Byw â Chymorth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu' a gynlluniwyd ar gyfer cyfarfod y panel ar 24 Medi.  

8.

Derbyniwyd gohebiaeth gan Gynullydd y Panel pdf eicon PDF 404 KB

Cofnodion:

Roedd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, a Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol er mwyn rhoi'r diweddaraf i'r panel ar y mater hwn.

Derbyniwyd gohebiaeth gan Gynullydd y Panel ynghylch dod â chontract y cyngor ag RNIB i ben.  

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

           Mae swyddogion a hysbysir gan y panel yn adolygu'r holl gontractwyr â darparwyr. Mae'r polisi cyngor hwn yn seiliedig ar gyllideb.

           Ynghylch contract y cyngor gydag RNIB -  Mae barn y cyngor a barn RNIB ynghylch ystyr y 'contract' yn wahanol. Mae'r cyngor wedi penderfynu gohirio'r rhybudd i derfynu'r cytundeb hwn am y tro tan y bydd yn cael ei adolygu, gan gynnwys siarad gyda'r RNIB. Yna bydd yn rhoi adborth. 

           Nid oedd gan y cyngor ddarpariaeth amgen i'w rhoi ar waith pan ddaeth i'r penderfyniad i derfynu'r cytundeb gyda RNIB gan nad oedd unrhyw fwriad i osod gwasanaeth arall yn ei le. Roeddent am gomisiynu rhywbeth gwahanol a oedd yn cael ei ddarparu rhywle arall.

 

Camau Gweithredu: 

           Bydd aelodau'r cabinet yn rhoi'r diweddaraf yn ystod y cyfarfod nesaf.

           Bydd y panel yn derbyn rhestr o grantiau a dyfarnwyd sydd bellach wedi dod i ben. 

9.

Lythyrau pdf eicon PDF 173 KB

a)    Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Ebrill 2019)

b)    Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Ebrill 2019)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.

 

Camau Gweithredu:

           Bydd y cynullydd yn ymateb i Aelod y Cabinet am Gydlynu Ardaloedd Lleol - mae'r panel eisoes wedi gweld yr adroddiad a ddarparwyd gydag ymateb gan Aelod y Cabinet. Hoffai'r panel weld mwy am ddata perfformiad a bydd yn aros tan y bydd hyn ar gael i'w ddychwelyd i'r panel. Mae'r panel yn edrych am gynnydd tuag at ddangosyddion perfformiad.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet - Cartrefi ac Ynni pdf eicon PDF 183 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Gofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda pdf eicon PDF 197 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet Mark Child (cyfarfod 20 Mehefin 2019) pdf eicon PDF 428 KB

Dogfennau ychwanegol:

Ymateb gan Aelod y Cabinet Andrea Lewis (cyfarfod 20 Mehefin 2019) pdf eicon PDF 250 KB