Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau

2.

Cyflwyniad a Sesiwn Holi ac Ateb gyda Chadeirydd a Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd Lleol

Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Tracy Myhill, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd, Andrew Davies a'r Prif Weithredwr, Tracy Myhill o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn bresennol gyda'u cydweithwyr Jason Crawl, Sian Harrop-Griffiths a David Roberts er mwyn rhoi cyflwyniad i'r panel ac ateb cwestiynau.

 

Hysbysodd Andrew Davies y panel eu bod yn ymddangos ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ond yr oeddent mewn gwirionedd yn cynrychioli'r bartneriaeth ehangach sy'n cynnwys y 3 awdurdod lleol a'r trydydd sector. Mae'n bartneriaeth gref ac effeithiol ac mae'r perthynas wedi gwella'n sylweddol dros y 5 i 6 blynedd diwethaf. Oedran cyfartalog cleifion yw 85 ac yn aml mae ganddynt fwy nag un broblem gymhleth. Blaenoriaethau'r Bwrdd Iechyd yw darparu'r gofal orau a gwella iechyd y boblogaeth

 

Pwyntiau trafod:

·         O 1 Ebrill ymlaen ni fydd Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o Fwrdd Iechyd PABM bellach a bydd y Bwrdd Iechyd yn newid ei enw i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Dylai'r cynnig hwn fod yn niwtral o ran cost i'r Bwrdd Iechyd a ni ddylai gael unrhyw effaith niweidiol ar y boblogaeth.

·         Mae'r Bwrdd Iechyd am leihau ei ddiffyg ariannol mewn ffordd reoledig.  Mae'n ceisio newid mewn ffordd strategol.

·         Mae'r Bwrdd Iechyd yn teimlo mai cyllid oedd y prif reswm dros yr ymyriad penodol yn 2016, yn bennaf yn nhermau costau darparu.

·         Yr unig ffordd o fynd i'r afael ag ataliaeth a lles yw trwy gydweithio. Dyma ffocws y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd. Bydd angen symud y system gyfan o drin iechyd i ataliaeth.

·         Polisi'r Bwrdd Iechyd yw ceisio cadw pobl yn eu cartrefi am gyhyd ag y bo modd

·         Mae anghydfodau'n digwydd rhwng yr awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd ynghylch pecynnau gofal. Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol wrth ymdrin â hyn. Caiff ei ddatrys fesul achos. Nid oes amserlenni ar waith er mwyn datrys anghydfodau rhwng yr awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd.

·         Mae'r Bwrdd Iechyd a'r awdurdodau lleol yn gweithio'n fwy tuag at gyfuno cyllidebau ar gyfer pecynnau gofal. Gallai hyn o bosib arwain at gytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer hyn yn y dyfodol.

·         Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i newid modelau o ofal.

·         Mae'r Bwrdd Iechyd yn defnyddio'i strategaeth 10 mlynedd er mwyn darparu fframwaith ar gyfer cynlluniau tymor byr

·         Nid oes unrhyw system hygyrch ar waith ar hyn o bryd ar gyfer y Bwrdd Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n hygyrch i bawb. Rydym yn gobeithio y bydd un ar waith yn y tair blynedd nesaf.

·         Mae'r panel wedi gofyn am fwy o wybodaeth gan y Bwrdd Iechyd ar ddangosyddion marwoldeb, morbidrwydd a lles. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ddarparu hyn.

 

Camau gweithredu:

 

·         Bydd y Bwrdd Iechyd yn darparu data ar ddangosyddion marwoldeb, morbidrwydd a lles.

 

 

 

3.

Adolygiad o'r flwyddyn 2018/19 pdf eicon PDF 109 KB

Cofnodion:

Bu'r panel yn ystyried y rhaglen waith.