Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan, Scrutiny 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganiadau o gysylltiadau - Chris Holley, Jeff Jones a Mark Child.

 

2.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 20 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau yn y cyfarfod.

 

3.

Canlyniad Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hyn pdf eicon PDF 60 KB

Y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda

Dave Howes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y panel i Aelod y Cabinet a'r swyddogion am ddarparu'r adroddiad ac am fod yn bresennol yn y cyfarfod i drafod Canlyniadau Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hŷn.

 

Amlinellodd y panel y materion canlynol:

 

Gofal Preswyl

 

1.     Mae'r panel yn fodlon bod y broses ymgynghori a ddilynwyd yn un drylwyr.

2.     Rydym yn pryderu a yw'r Bwrdd Iechyd wedi llwyr ymrwymo i'r model a'r ffigurau rhagolygol wrth symud ymlaen gyda gofal cymhleth.

3.     Mae gennym bryderon ynglŷn â'r diffiniad a ddefnyddir ar gyfer anghenion cymhleth.  Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd bydd rhagweld nifer y gwelyau yn pennu capasiti wrth symud ymlaen.

4.     Mae'r panel yn falch bod yr ymgynghoriad yn cynnwys nifer helaeth o unigolion a grwpiau ond yn siomedig gyda chyn lleied o ymatebion.

5.     Teimlai'r panel y byddai wedi bod yn ddefnyddiol i nodi ffynhonnell yr ymatebion - yn unigolyn neu yn gorff/sefydliad. 

6.     Hoffai'r panel eich sicrwydd pe bai'r awgrymiadau yn cael eu derbyn a bod Parkways yn cau, y bydd lles y preswylwyr yn flaenoriaeth a bydd amser digonol yn cael ei roi i gysylltu â nhw, ac i asesu'r holl breswylwyr a'u teuluoedd er mwyn eu symud i lety amgen.   

7.     Teimlwn y dylai Strategaeth Comisiynu Bae'r Gorllewin fod wedi ei chynnwys yn yr adolygiad hwn ac rydym yn dymuno cael sicrwydd y bydd unrhyw awgrymiadau pellach yn cael eu hystyried ochr yn ochr â'r awgrymiadau hyn.

8.     Mae'r panel yn siomedig ni chafwyd ymateb ffurfiol gan yr undebau llafur i'r ymgynghoriad hwn o ystyried yr effaith ar staff y cyngor.

 

Gwasanaethau Dydd

 

9.     Ychydig iawn o wybodaeth a gafwyd yn y cynigion am rôl a model Cydlynwyr Ardaloedd Lleol a darpariaeth gymunedol yn y dyfodol.  Hoffai'r panel gael cadarnhad bod cynnig i ehangu cyfleusterau cymunedol os yw'r cynnig i gau dwy ganolfan yn mynd rhagddo.

10. Eto, mae'r panel yn siomedig gan gyn lleied o ymateb a gafwyd i'r ymgynghoriad ac ni fu ymateb ffurfiol gan yr undebau llafar i'r cynnig i gau dwy ganolfan chwaith.

 

4.

Trafodaeth a Chwestiynau

a) Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

b) Barn y Panel i'r Cabinet

 

 

Cofnodion:

Bydd Cynullydd y panel yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet ar 20 Medi 2018 a bydd llythyr yn cael ei anfon at Aelod y Cabinet sy'n amlinellu barn y panel.

 

Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Medi 2018) pdf eicon PDF 466 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Medi 2018) pdf eicon PDF 325 KB