Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datgeliadau o gysylltiadau - Chris Holley.

 

2.

Nodiadau cyfarfodydd blaenorol pdf eicon PDF 113 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfodydd blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Mawrth a 26 Mawrth yn gofnod cywir o'r cyfarfodydd.

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

4.

Y Diweddaraf am Gynllun Gwella'r Gwasanaethau i Oedolion pdf eicon PDF 247 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion

Cofnodion:

Rhoddodd Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion, y diweddaraf am Gynllun Gwella'r Gwasanaethau i Oedolion. 

 

Pwyntiau trafod:

·         Nid yw'r panel yn cytuno â'r fethodoleg arbedion sy'n cael ei defnyddio ac mae'n pryderu bod arbedion yn cael eu hystyried fel incwm yn hytrach na chostau gohiriedig.

·         Cyflwynwyd cais i gefnogi pum Cydlynydd Ardal Leol (CALl) a dirprwy arweinydd tîm.  Bydd tri'n cael eu penodi cyn gynted â phosib a dau arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn. 

·         Hoffai'r panel weld dangosyddion perfformiad sy'n dangos gwerth Cydlynwyr Ardaloedd Lleol a'r gwerth y maent yn ei ychwanegu.  Mae'r awdurdod am weld a all fewnforio 'teclyn Wiltshire' er mwyn ei alluogi i wneud hyn.  Cytunodd Aelod y Cabinet i ddarparu adroddiadau academaidd er mwyn profi bod CALl yn arbed ddwywaith eu cost.

 

Camau Gweithredu:

 

·         Bydd Aelod y Cabinet yn darparu adroddiadau academaidd am arbedion Cydlynwyr Ardaloedd Lleol.

 

5.

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru am Gomisiynu Gwasanaethau Llety i Bobl ag Anableddau Dysgu - y diweddaraf am gynnydd yr argymhellion pdf eicon PDF 223 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth Peter Field, Prif Swyddog - Ataliaeth, Lles a Chomisiynu, waith dilynol ar gynnydd gydag argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru ar gomisiynu gwasanaethau llety ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. 

 

Pwyntiau trafod:

·         Roedd y broses ail-dendro yn agored i'r holl ddarparwyr ond nid oedd unrhyw un newydd wedi cyflwyno cais. 

·         Roedd y panel yn teimlo bod angen map llwybr syml (diagram) ar y gwasanaethau amrywiol sydd ar gael i gefnogi pobl ag anableddau dysgu. 

·         Roedd yr awdurdod wedi ceisio cynnwys defnyddwyr gwasanaeth 'anodd eu cyrraedd' yn yr ymgynghoriad.  Cysylltwyd â'r holl ddefnyddwyr gwasanaeth a gwahoddwyd iddynt gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chafodd eiriolwyr annibynnol eu cynnwys. 

·         Hoffai'r panel wybod beth y mae'r awdurdod yn ei gomisiynu ar hyn o bryd a gofynnwyd am wybodaeth bellach am hyn.

·         Gofynnodd y panel am gynnwys gofalwyr.  Mae Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau ar waith ar hyn o bryd, ac fe'i hysbyswyd gan y Ganolfan Gofalwyr fod gofalwyr a rhieni'n pryderu am gynnwys gweithwyr cymdeithasol. Mae'r panel yn edrych ymlaen at weld yr adroddiad wedi'i gwblhau. 

 

Camau Gweithredu:

·         Bydd gwybodaeth bellach am yr hyn y mae'r awdurdod yn ei gomisiynu ar hyn o bryd yn cael ei chyflwyno i'r panel er gwybodaeth.

 

6.

Amserlen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y panel y rhaglen waith a'r eitemau a drefnwyd ar gyfer cyfarfod cyntaf y flwyddyn ddinesig newydd.

 

7.

Llythyrau pdf eicon PDF 355 KB

a)    Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 19 Chwefror 2019)

Cofnodion:

Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel.

 

Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Ebrill 2019) pdf eicon PDF 173 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Ebrill 2019) pdf eicon PDF 331 KB

Dogfennau ychwanegol: