Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

 

2.

Nodiadau cyfarfod 19 Chwefror 2019 pdf eicon PDF 120 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

 

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

4.

Y diweddaraf am yr Adolygiad Comisiynu - Gofal Cartref a Chaffael pdf eicon PDF 270 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau i Oedolion

Cofnodion:

Rhoddodd Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion, y diweddaraf i'r panel am ailgaffael y gwasanaeth gofal cartref a seibiant yn y cartref yn Abertawe.

 

Pwyntiau a drafodwyd:

 

  • Mae'r awdurdod am adennill 50% o'r 27% y mae'n amcangyfrif y mae'r darparwyr yn ei thangyflawni.
  • Mae'r awdurdod yn disgwyl y bydd y system newydd yn mynd i’r afael â’r diffygion presennol yn well oherwydd nad yw darparwyr am weithio mewn ardaloedd gwledig ar hyn o bryd. Trwy gynnig premiwm gwledig, gobeithir y bydd hyn yn cynyddu nifer y pecynnau gofal yn yr ardaloedd hyn.
  • Mae ansawdd yn cael ei gynnwys yn y broses gan fod parthau wedi cael eu creu'n effeithlon er mwyn helpu darparwyr i gyflwyno cynigion sy'n fwy effeithlon iddyn nhw.  Bydd hyn yn ein helpu i gomisiynu gwasanaeth o safon.  Hefyd, bydd rhaid i ddarparwyr dalu treuliau ar gyfer teithio, cynnal arfarniadau priodol etc.
  • Gofynnodd y panel i weld cwestiynau am ansawdd yn cael eu cynnwys yn y gofynion tendro.
  • Bydd y panel yn ailedrych ar yr eitem hon ar ddiwedd yr haf/ddechrau'r hydref er mwyn edrych ar ganlyniadau'r broses hon.

 

Camau gweithredu:

  • Cylchredeg i'r panel gwestiynau am ansawdd sydd wedi'u cynnwys mewn gofynion tendro.
  • Ychwanegu 'Canlyniadau'r Broses Ailgaffael - Gofal Cartref a Seibiant yn y Cartref' at y rhaglen waith.

 

5.

Y diweddaraf am Ddiogelu Oedolion - cyflwyniad pdf eicon PDF 821 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau i Oedolion

Cofnodion:

Derbyniodd y panel gyflwyniad yn rhoi'r diweddaraf am Ddiogelu Oedolion yn Abertawe.

 

6.

Diogelu: Caethwasiaeth Fodern/Masnachu Pobl - cyflwyniad pdf eicon PDF 449 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau i Oedolion

Cofnodion:

Daeth Stephen Chapman, Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth Llywodraeth Cymru, i'r cyfarfod a rhoddodd gyflwyniad byr am ei rôl.  Mae'r Asiantaeth Troseddu newydd gyhoeddi dogfen a bydd yn ei hanfon i'r panel er gwybodaeth.  Rhoddwyd gwybod i'r panel ein bod mewn sefyllfa lawer gwell erbyn hyn gan ein bod yn ymwybodol o'r mater. Mae llawer yn cael ei wneud, ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd.  

 

Rhoddodd Deborah Reed y diweddaraf i'r panel am y mater hwn yn Abertawe. 

 

Pwyntiau a drafodwyd:

  • Mae llawer o ffyrdd o nodi'r bobl gysylltiedig. 
  • Ni yw'r unig wlad sy'n defnyddio MARAC (Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg) i helpu gyda'r mater hwn.  Yn Abertawe mae MARAC yn cwrdd yn ôl y galw.
  • Nid ydym yn gwybod gwir nifer y bobl sydd mewn caethwasiaeth.  Rydym yn credu bod y ffigur yn y miloedd yng Nghymru.
  • Mae llinell gymorth ar gyfer caethwasiaeth fodern y gall pobl ei defnyddio i adrodd am y mater.  Mae'r llinell gymorth hon yn dechrau cael ei defnyddio’n fwy.

 

Camau gweithredu:

  • Dogfen yr Asiantaeth Troseddu i gael ei chylchredeg i'r panel er gwybodaeth.

 

7.

Adroddiad Arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru ar y Gwasanaethau Cefnogaeth yn y Cartref pdf eicon PDF 125 KB

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, gyflwyniad bras i'r panel am ganlyniadau'r arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru am Wasanaethau Cefnogi yn y Cartref Cyngor Abertawe.

 

Pwyntiau a drafodwyd:

 

  • Roedd yr adborth ar lafar gan yr arolygwyr yn ardderchog. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn am staff a rheolwyr sy'n arwain y gwasanaeth.
  • Mae rhai materion y mae angen ymdrin â hwy o hyd ond mae'r rhain ar y gweill.
  • Roedd yr holl adborth am gyflwyno gwasanaethau yn gadarnhaol, yn enwedig yr adborth ar lafar.
  • Caiff adroddiadau arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru am ddarparwyr eu defnyddio fel rhan o'r broses ar gyfer penderfynu ar dendrau. Caiff y rhain eu defnyddio fel busnes fel arfer.  Mae'n rhan o sut mae contract y gwasanaeth yn rheoli ar hyn o bryd.
  • Cytunwyd mai'r agweddau ar y gwasanaeth mewnol a ganmolwyd gan yr arolygwyr yw'r hyn y dylai'r adran chwilio amdano yn y gwasanaethau mae'n eu ceisio.  Bydd y panel yn disgwyl gweld llawer o hyn yn yr wybodaeth sy'n cael ei darparu i'r panel dan eitem 4 ar gwestiynau am ansawdd sydd wedi'u cynnwys mewn gofynion tendro.
  • Bydd arolygwyr lleol yn disgwyl gweld y Cynllun Gweithredu a byddant yn monitro'r broses o’i roi ar waith.
  • Mae'r panel yn teimlo y dylai cynlluniau personol adlewyrchu anghenion unigol yn fwy.  Mae hyn mewn perthynas â pheth o'r gwaith ailalluogi. Bydd y gwasanaeth yn gwneud rhywbeth am hyn.

 

8.

Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

Bu'r panel yn ystyried y rhaglen waith.

9.

Lythyrau pdf eicon PDF 268 KB

a)    Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 19 Chwefror 2019)

Cofnodion:

Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel.