Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Datgeliadau o
gysylltiadau - Chris Holley
|
2. |
I gadarnhau cynullydd y Panel
Cofnodion:
Cadarnhawyd Peter
Black fel Cynullydd y panel.
|
3. |
Nodiadau cyfarfod 16 Mai 2018 PDF 114 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel
ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau'r Cyhoedd
|
Rhaid i
gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o
fewn cyfnod o 10 munud.
|
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw
aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.
|
5. |
Adroddiad Ymchwiliad a Chynllun Gwella'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (Abertawe Ganolog) PDF 190 KB
Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Alex
Williams, Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion, yr adroddiad. Roedd Mark Campisi a
Deborah Reed yn bresennol i ateb cwestiynau.
ar gyfer yr eitem
hon.
Pwyntiau trafod:
- Yn gyffredinol, roedd canlyniad yr arolygiad
yn dda ac yn gadarnhaol.
- Mae’r adroddiad i’w weld mwy fel awdit nag
arolygiad.
- Yn dilyn yr arolygiad, lluniodd Arolygiaeth Gofal Cymru gynllun
gwella.
- Mae’r AGC ac Arolygiaeth
Gofal Iechyd Cymru wedi
dychwelyd ers yr arolygiad.
- Nid yw’n glir yr hyn yr oedd AGC neu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ceisio ei gyflawni / beth oedd nod yr
arolygiad.
- Nododd y panel 3 gwelliant yr oedd eu hangen
yn dilyn yr arolygiad a chawsant ddiweddariad ar gynnydd gan y swyddogion
- cofnodi cynigion o eiriolaeth; mewnbwn y trydydd sector i gefnogi atal
ac adfer a chofnodi gwerthusiadau staff ac anghenion hyfforddi.
Camau Gweithredu:
- Sesiwn friffio gwreiddiol yr arolygiad i gael
ei anfon at aelodau’r panel er gwybodaeth.
|
6. |
Adolygiad o'r flwyddyn 2017/18 PDF 93 KB
Cofnodion:
Adolygodd
aelodau’r panel eu blwyddyn ar Banel Gwasanaethau i Oedolion ac atebwyd 4
cwestiwn.
1. Beth aeth yn
dda?
- Mae rôl y panel wedi gwella - mae’n fwy
ffocysedig ac ynghlwm
- Mae perthynas llawer mwy adeiladol rhwng y
swyddogion a’r panel.
- Mae craffu cyn-penderfynu wedi gweithio’n
dda. Mae wedi caniatáu'r panel i ofyn cwestiynau anodd.
- Mae gan
y panel ddealltwriaeth lawer
gwell o sut y llunnir y dyraniad cyllidebol a’r cyfyngiadau.
- Ystyried adolygiadau comisiynu. Mae hyn wedi bod yn llwyddiant gan ei
fod wedi cyflwyno argymelliadau i’r Cabinet.
2. Beth nad oedd
wedi gweithio cystal?
- Diweddariadau ar Gydlynu Ardaloedd Lleol -
Nid yw’r panel yn deall yr hyn sydd yn mynd yn ei flaen. Mae dangosyddion
perfformiad hyn yn parhau i fod yn waith ar y gweill ac mae hyn yn
broblem.
- Nid yw’r panel yn llwyr ddeall yr hyn y mae
Bae’r Gorllewin yn ei wneud a’r hyn mae’n ei gyflawni.
- Rôl cwestiynau gan y cyhoedd. Mae hyn yn
anodd i’r swyddogion ymdrin â hwy yn ystod y cyfarfod. Mae angen bod yn
glir am y disgwyliadau. Nid yw’r panel yn ystyried mai hyn yw’r ffordd
orau i gysylltu â’r cyhoedd. Mae angen i’r panel ystyried ffyrdd eraill i
gysylltu â’r cyhoedd.
3. A yw rhaglen
waith y panel wedi canolbwyntio ar y pethau iawn?
- Treuliwyd y llynedd yn canolbwyntio ar y
rhaglen wella. Eleni bydd yr agenda yn canolbwyntio ar faterion penodol.
Byddai’n werthfawr ychwanegu eitem ar y cynllun gwella i’r rhaglen waith
tuag at ddiwedd y flwyddyn hon.
- Teimlai’r panel nad oes digon o adnoddau ar
gael ar gyfer craffu.
4. Beth yw’r hyn
yr ydym wedi ei ddysgu a fydd yn ein helpu gyda chraffu ar Wasanaethau i
Oedolion yn y dyfodol?
- Mae’r panel wedi dysgu llawer o’r adolygiadau
comisiynu.
- Mae’r panel wedi dysgu i ba gyfeiriad y mae’r
gwasanaethau cymdeithasol yn symud o ran y broses gyllidebol.
|
7. |
Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 PDF 93 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y panel
y rhaglen waith.
Camau Gweithredu:
- Diweddariad i’r cynllun gwella i’w ychwanegu
at y rhaglen waith yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
- Gwahoddiad i’w anfon i gynghorwyr
anweithredol sydd â diddordeb mewn bod yn aelod o’r Panel Gwasanaethau i
Oedolion.
|
8. |
Llythyrau PDF 196 KB
a) Llythyr dilynol
i Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Ebrill 2018)
b) Ymateb gan Aelod y Cabinet i'r llythyr dilynol
(1) (cyfarfod 17 Ebrill
2018)
c) Ymateb gan Aelod y Cabinet i'r llythyr dilynol
(2) (cyfarfod 17 Ebrill
2018)
d) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod
16 Mai 208)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Llythyrau a
dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.
|
9. |
Ar gyfer eitem o wybodaeth PDF 56 KB
· Cylch gorchwyl Gwasanaethau I Oedolion
Cofnodion:
Nododd y panel y
cylch gorchwyl.
|