Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Datgeliadau o
gysylltiadau - Chris Holley ac Alyson
Pugh
|
2. |
Nodiadau cyfarfod 20 Mawrth 2018 PDF 114 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.
|
|
Cofnodion:
Cytunodd y panel
ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod
|
3. |
Cwestiynau'r Cyhoedd
|
Rhaid i
gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o
fewn cyfnod o 10 munud.
|
Cofnodion:
Cwestiynau a
ofynnwyd gan aelodau'r cyhoedd:
- Gofynnwyd pam bod cartrefi'n cau nawr pan fo
pobl yn cael eu sicrhau na fyddai unrhyw newidiadau i wasanaethau a reolir
tan y flwyddyn nesaf.
- Yn y gorffennol mae'r cyngor wedi ceisio cael
pobl i fynd i wasanaethau dydd, ond nawr bod y rheiny'n cau, maent yn cael
eu cadw yn eu cartrefi.
- Mae angen gofalwyr y gall pobl ddibynnu
arnynt. Mae gwahanol bobl drwy'r
amser ac nid ydynt yn aros yn ddigon hir i siarad â phobl. Rydych yn targedu'r bobl fwyaf
diamddiffyn.
Ymateb Aelod y
Cabinet:
Nid ydynt yn cau
cartrefi nawr - y cynnig a gyflwynir i'r Cabinet yw bod yr awdurdod yn cynnal
ymgynghoriad. Os penderfynir bod angen
cau cartref, nid ydynt yn rhagweld y byddai hyn yn digwydd tan y flwyddyn
nesaf.
Ar hyn o bryd mae
5 canolfan dydd â lleoedd gwag ar hyn o bryd. Mae angen i ni wella gofal
seibiant felly mae angen i ni wella'r ffordd rydym yn darparu Gwasanaethau i
Oedolion. Hoffem gynyddu gofal cartref
ond nid oes gennym yr adnoddau i wneud hyn ar hyn o bryd. Mae gwahaniaeth rhwng gofal a chael bywyd
da. Mae lleoedd eraill y gall pobl fynd
iddynt.
Rydym yn meddwl y
bydd y cynigion hyn yn gwella'r gwasanaethau rydym yn eu darparu ar hyn o bryd.
|
4. |
Canlyniad Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hyn PDF 59 KB
Mark Child, Aelod y
Cabinet dros Iechyd a Lles
Alex Williams, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Diolchodd y panel
i Aelod y Cabinet a'r swyddogion am ddarparu'r adroddiad ac am fod yn bresennol
yn y cyfarfod i drafod Canlyniadau Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal
Preswyl a Dydd i Bobl Hŷn.
Amlinellodd y
panel y materion canlynol:
- Pryder bod yr adolygiad comisiynu wedi cymryd
rhy hir i'w gwblhau a theimlwyd y dylai gofal preswyl a dydd fod wedi'u
gwahanu am eu bod yn drysu pobl.
- Roedd y panel yn teimlo bod yr ymgynghoriad
gwreiddiol yn 2016 yn rhy gymhleth ac nid oedd yn cyrraedd y bobl roedd i
fod i effeithio arnynt.
- Nid oedd unrhyw wybodaeth am y cynigion nac
unrhyw weledigaeth tymor hir o ran newidiadau dros amser i bobl sy'n symud
i leoliadau gofal gwahanol a newidiadau i anghenion tymor hir a'r hyn
mae'n ei olygu i'r cynigion.
- Pryder y byddai'r adolygiadau ar gyfer diffinio
unigolion fel rhai ag anghenion cymhleth yn cael eu cynnal yn fewnol yn y
model arfaethedig newydd. Mae'r panel yn teimlo'n gryf bod angen i'r Adran
Iechyd gael ei chynnwys am fod ardal lwyd rhwng gofal cymdeithasol a gofal
nyrsio ac nid yw staff y cyngor yn ddigon cymwys i ymgymryd â'r
adolygiadau ar eu pennau eu hunain. Roedd pryder mawr hefyd ynghylch holl
aelodau'r panel mewn perthynas â'r diffiniad o ofal cymhleth, a oedd yn
crwydro i faes gofal nyrsio a byddai'n cynnwys staff meddygol hyfforddedig
a chymwys er mwyn ei gyflwyno.
- Er yr hyder y gall staff ddatblygu eu sgiliau
er mwyn ymdrin ag anghenion cymhleth, mae'r panel yn ddrwgdybus a hoffent
gael sicrwydd ar lefel hyfforddi, dilysiad a goruchwyliaeth staff y mae
gofyn iddynt ddarparu gofal ar y lefel hon.
- Mae'r panel yn nodi mai gweledigaeth tymor
hir y cyngor yw dibynnu ar y sector preifat i gyflwyno gofal cyhoeddus
safonol ac mae'n bryderus na fydd y cyngor yn cynnig opsiwn ar gyfer y
sector cyhoeddus. Rydym yn teimlo bod angen i hyn gael ei gydnabod a chael
ei egluro i'r cleientiaid.
- Hoffai'r panel weld peth o'r ddarpariaeth ar
gyfer anghenion cymhleth yn cael ei rhannu â darparwyr eraill.
- Mewn perthynas â chau safle Parkway, teimlodd
y panel nad oedd unrhyw eglurder o ran yr hyn bydd yn digwydd os bydd y
safle'n cau. Nodwyd bod gwerth y safle wedi'i ystyried wrth asesu'r
penderfyniad i'w gau, ond nid oedd yn bosib i'r tystion ddarparu unrhyw
fanylion o ran yr hyn a oedd y prisiant yn seiliedig arno, ac a oedd yn
gyson â'r cynigion yn yr adroddiad i'w gadw ar gyfer gofal preswyl preifat
neu sut y byddai'r uchelgais hwnnw'n cael ei gyflawni.
- Roedd y panel yn teimlo y byddai posibilrwydd
o wrthwynebiad cryf i'r cynigion gan breswylwyr Parkway a hoffent wybod
sut bydd yr awdurdod yn symud ymlaen os yw preswylydd yn gwrthod gadael.
- Roedd y panel yn teimlo bod ffioedd
ychwanegol ar gyfer gofal preswyl yn fater y mae angen mynd i'r afael ag
ef. Roeddem yn teimlo y gallai fod yn ffactor i rai preswylwyr wrth iddynt
ddewis lle maent am gael eu hailgartrefu, ond nid oedd hyn wedi'i drin o
ddifrif yn yr ymatebion i gwestiynau ar y mater.
- Hoffai'r panel gael cadarnhad y bydd
adolygiad blynyddol o bob preswylydd mewn gofal preswyl gan bobl gymwys er
mwyn asesu eu hanghenion parhaus.
- Hoffai'r panel gael mwy o fanylion am
ddarpariaeth gofal dydd arall ar gyfer cleientiaid nad oes ganddynt
anghenion cymhleth na fyddai'n gallu parhau i gael mynediad i'r tair
ganolfan dydd sydd ar ôl ar gyfer pobl hŷn mwyach.
|
5. |
Trafodaeth a Chwestiynau
a) Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau
b) Barn y Panel i'r Cabinet
Cofnodion:
Bydd Cynullydd y
Panel yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet ar 19 Ebrill 2018 a bydd llythyr yn
dilyn ar gyfer Aelod y Cabinet sy'n amlinellu barn y panel.
|
6. |
Amserlen Rhaglen Waith PDF 78 KB
Cofnodion:
Derbyniwyd ac
ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.
|
7. |
Llythyrau PDF 68 KB
a) Ymateb gan
Aelod y Cabinet Mark Child (cyfarfod
13 Chwefror 2018)
b) Ymateb gan Aelod y Cabinet Rob Stewart (cyfarfod
13 Chwefror 2018)
c) Llythyr y Cynullydd
at Aelod y Cabinet (cyfarfod
20 Mawrth 2018)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Llythyrau a
dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet PDF 137 KB
|
|
Llythr o Aelod y Cabinet PDF 182 KB
|
|
Llythyr dilynol i Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Ebrill 2018) PDF 196 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet i'r llythyr dilynol (1) (cyfarfod 17 Ebrill 2018) PDF 332 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet i'r llythyr dilynol (2) (cyfarfod 17 Ebrill 2018) PDF 284 KB
|