Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Datganodd Chris Holley gysylltiad personol. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 322 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2023
yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Diweddariad ar Raglen Trawsnewid a Gwella'r Gwasanaethau i Oedolion PDF 285 KB Gwahoddwyd: Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig Lucy Friday, Prif Swyddog Trawsnewid Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal a swyddogion
perthnasol yn bresennol er mwyn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y
tair prif thema dan y Rhaglen a'r ffocws arfaethedig ar gyfer 2024-25. Pwyntiau Trafod: · Holodd y panel a
oes nyrsys hyfforddedig neu ofalwyr hyfforddedig mewn cartrefi gofal, ac a oes
rhywfaint o hyfforddiant arbenigol. Dywedwyd bod cartrefi preswyl mewnol
yn gartrefi 'gofal' ac os asesir bod gan bobl anghenion nyrsio, byddent yn cael
eu cefnogi i fynd i ddarpariaeth nyrsio sydd â chymorth meddygol. Esboniwyd bod
timau ynghylch gofal preswyl yn ymdrin ag anghenion gofal cymhleth iawn ac
maent wedi'u hyfforddi mewn amrywiaeth eang o gymorth. · Gofynnodd y
panel sut y mae'r Adran yn annog pawb i gydweithio i gydlynu'r bobl y mae angen
cymorth cynnar arnynt. Esboniwyd o ran sianeli cyfathrebu, bu llawer o ailaddysgu staff mewnol a sicrhau bod partneriaid yn deall
beth arall sydd ar gael. · Trafododd y
Panel y Pwynt Mynediad Cyffredin (PMC). Bu gwelliant yn ystod y naw mis
diwethaf gyda 28% o ymholiadau i PMC yn cael eu cymeradwyo neu eu cau ar y
pwynt cyswllt. Mae'r panel yn falch o weld hyn. · Gofynnodd y
panel am eglurhad ynghylch yr hyn y mae 'Just Checking' yn ei olygu mewn perthynas â thechnoleg
gynorthwyol. Clywodd ei fod wedi bod ar waith ers peth amser ond ar raddfa
fach. Dros y 12 mis diwethaf mae wedi cael ei hyrwyddo fel
opsiwn. Mae'n gyfres o fonitorau sy'n gallu mynd i gartref person i fonitro
eu symudiadau a helpu i lywio asesiad. · Ar gyfer pobl
sy'n cael eu cynnal yn eu cartrefi eu hunain, gofynnodd y Panel sut y mae staff
gofal cartref mewnol yn cael eu helpu i ymdrin ag unigolion a allai fod angen
gofal ychwanegol arnynt neu a allai fod yn fwy heriol. Dywedwyd bod y
gwasanaeth yn cael ei ailffocysu o ganlyniad i adborth gan staff, felly mae mwy
o gefnogaeth gan y gymuned ehangach ac mae staff hefyd wedi derbyn hyfforddiant
a goruchwyliaeth reolaidd. Mae gan ddarparwyr a gomisiynwyd yn allanol
wiriadau a monitro o ran ansawdd a safonau ac maent i gyd wedi'u cofrestru drwy
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). · Holodd y panel a
oes rôl i feddygon teulu o fewn y broses Cymorth Cynnar ac Atal. Dywedwyd
bod yna rôl ond nad oeddent yn siŵr lle'r oedd y cysylltiad ac mae rhai
clystyrau meddygon teulu yn well ar hyn nag eraill. · Gofynnodd y
panel a oes dibyniaeth ar staff asiantaeth yn rôl y gofalwr. Esboniwyd nad
yw staff asiantaeth mewnol yn cael eu defnyddio ar gyfer gofal cartref. Yn
hytrach, mae yna ddibyniaeth ar staff i wneud goramser a chyflenwi
bylchau/salwch. · O ran y broses
ail-dendro ar gyfer gofal cartref a gomisiynwyd yn allanol, sicrhaodd y Panel
nad oes disgwyl i ddarparwyr allanol wneud mwy, mae'r Cyngor yn gorfod
ail-dendro i sicrhau cydymffurfiaeth â phrosesau. Bydd yn rhaid i ni aros am
gasgliad y broses dendro i ddarganfod a yw'n ddrutach. · Trafododd y
Panel sut y mae'r Gwasanaeth am i bobl fyw'n annibynnol a gofalu am eu hunain
yn fwy a holwyd a oes unrhyw anfanteision i hyn. Esboniwyd ei fod yn ymagwedd
unigol iawn, mae rhai pobl am fod yn eu cartref eu hunain ac mae eraill yn
ffynnu mewn lleoliad mwy cymunedol mewn cartref preswyl. · Trafododd y
Panel ofal cartref mewn ardaloedd gwledig a gofynnwyd am gynnydd o ran sefydlu
micro-fentrau i ddarparu'r gwasanaeth hwn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac
i ddefnyddio taliadau uniongyrchol. Esboniwyd bod nifer y taliadau uniongyrchol
wedi cynyddu ac mae mwy o ficro-fentrau a mentrau cymdeithasol. Mae'r
Gwasanaeth yn hyrwyddo eu datblygiad drwy CGGA ac maent yn cadw
cyfeiriadur. |
|
Cyflwyniad - Y diweddaraf am Gydlynu Ardaloedd Lleol Gwahoddwyd: Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros
Cymuned Lee Cambule, Rheolwr Gwasanaeth Trechu Tlodi Jon Franklin, Rheolwr Cydlynu Ardaloedd Lleol Cofnodion: Roedd Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Gymorth Cymunedol a swyddogion
perthnasol yn bresennol i gyflwyno'r diweddaraf i'r Panel ac i rannu rhai
enghreifftiau o'r effaith y mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol wedi'i chael. Mae
adroddiad effaith llawn ar gyfer 2023-24 wedi'i ddrafftio a bydd y fersiwn
derfynol yn cael ei rhannu gyda chraffu yn ddiweddarach. Pwyntiau Trafod: · Mynegodd y panel
bryder am y posibilrwydd o golli swyddi CALl oherwydd
pwysau ariannol a gofynnwyd am ragor o wybodaeth. Esboniwyd bod y
gwasanaeth yn destun ymgynghoriad staff ar hyn o bryd oherwydd effaith
ariannu'r Tîm CALl. Esboniwyd bod costau wedi
cynyddu, ni fu toriad i gyllid y Cyngor ar gyfer 2024-25, ond mae'n wastad, a
bu gostyngiad mewn cyllid grant, sy'n ffurfio 60% o'r cyllid. Nododd y Panel
nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud hyd yn hyn ac mae nifer o bethau'n
cael eu hystyried, gan gynnwys meini prawf a daearyddiaeth. · Gofynnodd y
Panel am ddadansoddiad o'r costau, gan gynnwys sut y mae'r cyllid yn cael ei
ddosbarthu, o le daw'r cyllid ac effaith ganlyniadol CALl.
Mae'r Panel yn teimlo y byddai rhywfaint o'r dadansoddiad cost am
arbedion buddiol yn ddefnyddiol iawn wrth ddarparu tystiolaeth o fudd CALl. · Gofynnodd y
Panel am sicrwydd y bydd CALl yn gwasanaethu ardal
gyfan Cyngor Dinas Abertawe. Esboniwyd bod hyn yn rhan o'r hyn y mae'n rhaid ei
ystyried. · Mae'r panel yn
teimlo bod CALl wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol ac
wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Pwysleisiodd Aelodau'r Panel eu bod yn
erbyn colli unrhyw swyddi CALl. Camau Gweithredu: · Darparu
dadansoddiad o'r ffigurau ar gyfer Cydlynu Ardaloedd Lleol, fel y nodir uchod,
i'r Panel. |
|
Cynllun Waith 2023-24 PDF 218 KB Cofnodion: Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod
nesaf. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet LG (cyfarfod 30 Ionawr 2024) PDF 117 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet HG (cyfarfod 30 Ionawr 2024) PDF 118 KB |
|
Ymateb at Aelod y Cabinet HG (cyfarfod 30 Ionawr 2024) PDF 152 KB |