Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datganodd Chris Holley fuddiant personol.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 320 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2023
yn gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Gyda'n gilydd fe allwn ni' - Cydnerthedd a Hunanddibyniaeth Cymunedau PDF 274 KB
Gwahoddwyd:
Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet – Cymuned
Alyson Pugh, Aelod y Cabinet – Lles
Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i
Oedolion a Threchu Tlodi
Lee Cambule, Rheolwr y Gwasanaeth Trechu
Tlodi
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Daeth Aelod y Cabinet dros Gefnogaeth Gymunedol, Aelod y Cabinet dros Les
a'r Rheolwr Gwasanaethau Trechu Tlodi i'r cyfarfod i friffio'r Panel.
Pwyntiau Trafod:
- Gofynnodd y panel sut mae tlodi'n cael ei
ddiffinio a'i fesur a holwyd sut y bydd yn gweithio o ran adnabod pobl i
ymgymryd â rhywfaint o'r gwaith a wnaed gan yr Awdurdod yn y
gorffennol. Daw'r diffiniad a
ddefnyddir ar hyn o bryd gan yr Awdurdod o Strategaeth Trechu Tlodi
2017. Mae'r strategaeth yn cael ei
hadnewyddu ar hyn o bryd i sicrhau bod y diffiniadau a'r mesurau cywir ar
waith.
- Gofynnodd y Panel pam y mae pwyllgor
archwilio yn ceisio ail-lunio'r ffordd y mae cymunedau'n gweithredu, ac a
oes unrhyw wyddonwyr cymdeithasol neu arbenigwyr mewn theori rhwydwaith yn
rhan o hyn. Fe'u hysbyswyd mai rôl y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yw sicrhau bod y sefydliad yn bwrw ymlaen ag
argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru a'i fod yn dilyn y protocolau
cywir. Nid yw'n asesu manylion yr
hyn y mae'r Awdurdod yn ei gynnig.
- Roedd y Panel yn bryderus ynghylch sut y bydd pobl sydd
â'r grym i ymgymryd â'r rolau hyn yn y gymuned yn cael eu rheoli a sut
bydd hunanddibyniaeth gymunedol yn cael ei ddatblygu. Fe'u
hysbyswyd ei fod yn ymwneud â manteisio arno yn hytrach na'i reoli.
- Gofynnodd y Panel pryd y bydd archwiliad o'r
hyn sydd eisoes yn digwydd ym mhob un o'r wardiau yn cael ei gynnal. Fe'u hysbyswyd y bydd y Strategaeth wedi'i hadnewyddu,
a hynny wedi'i wneud ar y cyd, yn rhoi'r blaenoriaethau a'r themâu i'w
datblygu.
- Gofynnodd y Panel sut y bydd 'cymuned' yn
cael ei ddiffinio a sut byddai swyddogion yn mynd ati i weithio gydag
arweinwyr y gymuned honno. Clywyd
bod hyn yn rhan o'r gwaith diffinio y mae angen ei wneud yn ofalus iawn ac
mewn ffordd gydlynus gyda chymunedau.
- Gofynnodd y panel pa mor hir y bydd yn ei
gymryd a chlywsant y bydd yn cyd-fynd â chyhoeddi'r Strategaeth Trechu
Tlodi ar ei newydd wedd. Yr
amserlen bresennol ar gyfer hyn yw y bydd fersiwn ddrafft ohoni'n destun ymgynghoriad cyhoeddus tua diwedd y
flwyddyn galendr hon.
|
6. |
Grantiau'r Gwasanaeth Trechu Tlodi 2022-23: Adroddiad Effaith PDF 391 KB
Gwahoddwyd:
Alyson Pugh, Aelod
y Cabinet – Lles
Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu
Tlodi
Lee Cambule, Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi
Anthony
Richards, Rheolwr Strategaeth a Datblygiad
Tlodi a'i Atal
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Aelod y Cabinet dros Les a Rheolwr Strategaeth a Datblygu Tlodi ac
Atal yn bresennol i roi trosolwg o effaith Grantiau'r Gwasanaeth Trechu Tlodi
yn 2022/23 ac ateb cwestiynau.
Pwyntiau Trafod:
- Mae'r Tîm Trechu Tlodi yn trin nifer o
grantiau'n flynyddol. Yn 2022-23
gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y grantiau a swm y cyllid grant (dros
£500,000) a roddwyd i fynd i'r afael â thlodi.
- Anogodd yr aelodau i ddarllen yr adroddiad
blynyddol i weld y gwahaniaeth a wnaed yng ngeiriau'r sefydliadau eu
hunain.
- Gofynnodd panel am yr hyn sy'n cyfateb i 'Men's Sheds' i fenywod a
chlywsant y gall menywod eu defnyddio hefyd a bod 'Women’s
Sheds' i'w cael erbyn hyn.
|
7. |
Gwybodaeth Ychwanegol am Daliadau Uniongyrchol PDF 306 KB
Amy Hawkins, Pennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi a
Richard Davies, Rheolwr Strategol y Tîm Taliadau Uniongyrchol yn bresennol i
ateb cwestiynau'r Panel am wybodaeth ychwanegol am daliadau uniongyrchol a
ddarparwyd ar ffurf astudiaethau achos.
Pwyntiau Trafod:
- Gofynnodd y panel am y gyllideb ar gyfer
taliadau uniongyrchol yn y flwyddyn ariannol bresennol. Fe'u hysbyswyd fod y gwariant ar hyn o bryd rhwng £5.8
a £6 miliwn y flwyddyn ac mae'r rhan fwyaf o hyn yn mynd tuag at
gynorthwywyr personol a darpariaeth arbenigol.
- Gofynnodd y Panel am ddadansoddiad o arian
sy'n dod yn ôl i'r Awdurdod drwy ei wasanaethau yn hytrach na mynd y tu
allan i'r Awdurdod. Dywedwyd wrthynt os oes rhywun yn defnyddio taliadau
uniongyrchol, bydd y cyfan ar gyfer gwasanaethau allanol. Mae'r gyllideb
gyffredinol ar gyfer Gwasanaethau i Oedolion dros £100 miliwn ac mae tua
£5.6 miliwn o hyn yn daliadau uniongyrchol.
- Gofynnodd y Panel sut mae'r Awdurdod yn
monitro neu'n atal taliadau uniongyrchol rhag cael eu defnyddio at y diben
anghywir. Clywsant o ran monitro, fod pob gwariant yn cael ei fonitro'n
agos, a bod naill ai ganddynt gyfrifon wedi'u rheoli neu gardiau talu,
felly mae goruchwyliaeth.
Gofynnodd y panel a all rhywun sy'n defnyddio gwasanaeth
dydd am ddeuddydd ac sydd am fynd am ddiwrnod ychwanegol ddefnyddio taliad
uniongyrchol ar ei gyfer. Dywedwyd ei fod yn dibynnu ar yr angen a aseswyd.
|
8. |
Cynllun Waith 2023-24 PDF 124 KB
Cofnodion:
Trafododd y Panel y cynllun gwaith ac ychwanegodd yr eitem ganlynol:
- Sesiwn friffio ar Llais i'w hychwanegu at y
cyfarfod a gynhelir ar 31 Hydref.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 7 Awst 2023) PDF 156 KB
|