Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Cadarnhau Cynullydd y Panel a'r Aelod Cyfetholedig
Cofnodion:
Cadarnhawyd y Cynghorydd Susan Jones fel Cynullydd y Panel ar gyfer
2023-24.
Cadarnhawyd Tony Beddow fel Aelod Cyfetholedig ar y Panel ar gyfer 2023-24.
|
2. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datganodd Chris Holley gysylltiad personol.
|
3. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.
|
4. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 329 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mai 2023 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
5. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
6. |
Monitro Perfformiad PDF 180 KB
Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi
Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Briffiodd Amy Hawkins, Pennaeth y
Gwasanaethau Oedolion a Threchu Tlodi, a Helen St John, Pennaeth Gwasanaethau
Cymunedol Integredig, y Panel ar yr Adroddiad Perfformiad ar gyfer Ebrill 2023
ac atebodd gwestiynau'r Panel.
Pwyntiau Trafod:
- Mae'r datganiad blynyddol i Lywodraeth Cymru
2022-23 yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd ac yn dangos y cyferbyniad o'r
flwyddyn flaenorol a chynnydd yn y galw am y gwasanaeth. Nid yw'n annisgwyl yn dilyn COVID a'r
pwysau ar draws y system gyfan, ac mae hyn wedi llifo i Ebrill 2023.
- Cyfeiriodd y panel at gyflogi gweithwyr
cymdeithasol, gan nodi bod yr Awdurdod yn cyflogi pobl ond hefyd yn colli
pobl. Nodwyd bod prinder
cenedlaethol o weithwyr cymdeithasol. Mae'r Awdurdod yn recriwtio ac yn
cadw i fyny gyda'r niferoedd sy'n cael eu colli ond nid yw wedi'i
sefydlu'n llawn ar hyn o bryd.
- Mae'r adroddiad yn nodi bod y gwasanaeth wedi
bod yn cefnogi ei ddarparwyr allanol.
Gofynnodd y panel am y sefyllfa ar hyn o bryd a nodwyd, o ran y
farchnad gofal cartref, mae'r tair blynedd diwethaf wedi bod yn ansicr ar
adegau. Mae 20 darparwr gofal cartref allanol y mae'r gwasanaeth yn eu
comisiynu ar hyn o bryd, dau yn fwy na'r llynedd. Mae tua 750 o staff yn y sector gofal
cartref allanol, felly maent yn gweld twf cyson. Mae'r gwasanaeth yn
darparu cymorth gofal cartref i 100 yn fwy o bobl na'r llynedd.
- Gofynnodd y panel am restr termau cyffredinol
oherwydd roedd llawer o acronymau yn yr adroddiad.
- Nododd y panel broblemau blaenorol wrth
ryddhau pobl o'r ysbyty a gofynnodd am y sefyllfa bresennol. Hysbyswyd y
panel, mewn perthynas â phobl sy'n cael eu rhyddhau ac y mae angen gofal
arnynt, mae'r niferoedd wedi gwella'n sylweddol.
- Holodd y panel sut y mae'r cynnydd yn nifer y
bobl sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty wedi effeithio ar y gwasanaeth o ran
y gyllideb. Mae'r galw yn fwy ar hyn o bryd felly mae'r costau'n cynyddu. Lle mae unigolion wedi cael eu hasesu ac
mae ganddynt angen am gymorth gofal cartref, mae hwnnw'n wasanaeth y
byddai angen ei ddarparu beth bynnag, p'un a oes angen cymorth arnynt yn
yr ysbyty neu yn y gymuned.
- O ran trefniadau Amddifadu o Ryddid (DoL) nododd y Panel y bu problemau yn y DU yn ogystal
â Chymru, a gofynnodd beth yw'r problemau. Clywodd fod y Gwasanaeth yn
gweithio tuag at ddeddfwriaeth newydd sy'n cael ei chyflwyno o'r enw
Trefniadau Amddiffyn Rhyddid, sydd wedi'i gohirio tan o leiaf 2025. Mae'r Gwasanaeth yn gweithio o dan y
ddeddfwriaeth bresennol, y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS). Nid oedd swyddogion yn teimlo bod problemau
gyda hyn, ond mae'n gymhleth ac mae galw mawr.
- Hysbyswyd y panel, o ran DoL,
ar wahân i gartrefi nyrsio a chartrefi preswyl, mae lleoliadau eraill lle
mae pobl yn herio'r hyn maent yn ei wneud i unigolion penodol yn cynnwys
gwelyau ysbyty, lleoliadau dros dro, a llety byw â chymorth o bosib.
- Cyfeiriodd y panel at adroddiad lle mae'n
nodi nad yw taliadau uniongyrchol yn cael eu 'hoptimeiddio' a gofynnodd a
oes rheswm penodol dros hynny.
Clywodd y panel fod hwn yn cyfeirio at ofalwyr di-dâl. Yn ystod y
18 mis diwethaf mae'r gwasanaeth wedi ceisio hyrwyddo'r cyfle i ofalwyr,
pan fyddant yn cael asesiad gofalwyr, i ddefnyddio taliadau uniongyrchol,
ac wedi'u hysbysu am yr hyn y gallant eu
defnyddio ar eu cyfer.
- Hysbyswyd y panel fod llai o ofalwyr yn
ymgymryd ag asesiadau ac mae angen eu hannog i'w derbyn oherwydd mae'r
cymorth yno i'w helpu. Mae'r gwasanaeth yn gwybod y gall wneud mwy o waith
wedi'i dargedu ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau'r Trydydd
Sector, y rhai y mae'n eu comisiynu ac yn uniongyrchol gyda gofalwyr.
- Mae'r panel yn credu o'r adroddiad bod y
'Grŵp Tai Rhanbarthol' yn sefydliad sy'n darparu amrywiaeth o lety
wedi'i deilwra i wahanol grwpiau o gleientiaid. Holodd y panel sut mae'n gweithio a phwy
y mae'n atebol iddo. Hysbyswyd ei fod yn rhan o Fwrdd Trawsnewid Gorllewin
Morgannwg. Dan y rhaglen o amgylch
Trawsnewid Gofal Cymhleth mae is-grŵp yn edrych ar lety i bobl ag
anghenion gofal cymhleth.
Camau Gweithredu:
·
Adroddiadau
Perfformiad yn y Dyfodol i gynnwys rhestr termau.
·
|
7. |
Cyfarfod briffio ar Adroddiadau Arolygu Cartrefi Gofal Diweddar Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) PDF 382 KB
Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Briffiodd Louise Gibbard, Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Gofal ac Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion
a Threchu Tlodi'r Panel ar y mater hwn, gan nodi bod arolygiadau heb eu trefnu
ar ddau Gartref Gofal, Rose Cross a Thŷ Waunarlwydd.
Hysbyswyd y panel fod adborth gan breswylwyr, teuluoedd, gweithwyr
proffesiynol a staff eu hunain yn gadarnhaol iawn gyda dim ond un argymhelliad
ar gyfer Tŷ Waunarlwydd sef cwblhau arfarniadau blynyddol yn amserol, sydd
eisoes yn cael ei ddilyn gan y tîm rheoli.
|
8. |
Cynllun Waith Drafft 2023-24 PDF 120 KB
Cofnodion:
Trafododd a chytunodd y panel ar ei gynllun gwaith ar gyfer 2023-24 gyda'r
ychwanegiad canlynol:
- Ychwanegu sesiwn friffio ar Diogelu rhag
Colli Rhyddid (DoLS).
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Mehefin 2023) PDF 118 KB
|