Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datganodd Chris Holley a Jeff Jones gysylltiad personol.
|
2. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 330 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2023 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Y diweddaraf am Raglen Drawsnewid Gorllewin Morgannwg PDF 2 MB
Kelly Gillings, Rheolwr y Rhaglen
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Kelly Gillings, Rheolwr Rhaglen yn
bresennol i roi'r diweddaraf i'r Panel ar gynnydd gan gynnwys y cefndir,
trefniadau llywodraethu, Cynllun Ardal Gorllewin Morgannwg 2023-27, ymgysylltu
a chyd-gynhyrchu.
Pwyntiau Trafod:
- Holodd y Panel ynghylch sut mae'r
Bartneriaeth yn bwriadu annog gwirfoddolwyr yn y gymuned. Clywyd bod staff o fewn sefydliadau
partner eisoes yn gweithio gydag unigolion sydd am wirfoddoli. Yn ogystal, mae Cyngor Gwasanaeth
Gwirfoddol Abertawe a Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port
Talbot yn datblygu fframwaith gyda phobl sydd eisoes yn wirfoddolwyr i
geisio annog rhagor o bobl i wneud hynny.
- Gofynnodd y Panel a oes modd rhagweld yr hyn
y mae'r newid o ofalu am bobl mewn ysbytai i ofalu am bobl gartref yn ei
olygu mewn gwirionedd o ran cost. Fe'u hysbyswyd, ar gyfer y mwyafrif o unigolion y mae
angen gofal 24 awr arnynt, y byddai'r cynnig yn debygol o fod yn lleoliad
mwy sefydliadol o hyd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd maent yn chwilio am fwy
o gyfleoedd i gefnogi mwy o bobl, a allai gael eu galluogi'n well gyda
gofal gartref.
- Gofynnodd y Panel am eglurhad am yr hyn a
olygir gan 'wardiau rhithwir'.
Clywyd mai datblygiad Bwrdd Iechyd ydyw ac nid wardiau ffisegol
mohonynt. Maent yn gam i gefnogi
pobl a chanddynt anghenion clinigol o hyd i ddod allan o'r ysbyty a
darparu gofal parhaus gartref.
- Mae'r adroddiad yn nodi bod mwy o adnoddau
wedi'u creu mewn gofal cartref gyda 1000 awr wedi'u credydu ond 600 awr
wedi'u cynnwys. Gofynnodd y panel
beth mae hyn yn ei olygu. Clywyd
bod cynlluniau ar waith i gynyddu adnoddau gofal cartref yn fewnol a chyda
darparwyr allanol. Fodd bynnag, ni
ellid defnyddio pob awr ychwanegol i gefnogi pecynnau gofal newydd gan fod
yn rhaid i rai darparwyr roi pecynnau gofal presennol yn ôl i'r cyngor,
oherwydd prinder staff, ac roedd yn rhaid eu darparu o hyd.
- Roedd y Panel yn poeni bod mwy a mwy o
gyfrifoldeb ar ofalwyr di-dâl sy'n gofalu am bobl yn eu cartref eu
hunain. Clywyd bod ymgyrch tuag at
gefnogi lefel fwy o annibyniaeth, ond mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn
ei chael hi'n anodd diwallu'r angen hwn mor gyflym ag yr hoffai ac, yn yr
amgylchiadau hynny, mae gofalwyr di-dâl yn aml yn camu i'r adwy ac yn
pontio'r bwlch.
- Nododd y Panel fod Cynllun Dementia i Gymru'n cael ei ddatblygu a gofynnwyd sut y gallai hyn
fod yn wahanol i'r trefniadau cyfredol. Clywyd bod Safonau Dementia yn
cael eu tynnu ynghyd gan lawer o
unigolion sy'n gofalu am bobl â dementia ac o'r hyn sydd wedi'i ddysgu yn
y gorffennol. Dylai'r gwersi o bob
cwr o Gymru lunio fframwaith i'w ddefnyddio i gefnogi unigolion yn fwy
effeithiol. Teimlai'r Panel y
byddai'n ddefnyddiol cael trafodaeth ar ddementia, gan gynnwys
astudiaethau achos mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Camau Gweithredu:
- Ychwanegu sesiwn friffio ar Ddementia at
raglen waith y dyfodol.
|
6. |
Monitro Perfformiad PDF 74 KB
Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig,
grynodeb i'r Panel o'r adroddiad perfformiad ar gyfer mis Ionawr 2023 a
rhoddodd ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol ym mis Mawrth 2023.
Pwyntiau Trafod:
- Gofynnodd y panel a
yw canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar ofal nyrsio'n dechrau gwneud
unrhyw wahaniaeth i'r ffordd y caiff adnoddau eu dwyn ynghyd os yw un am
ddim ar y GIG a'r llall yn ofal y mae'n rhaid talu amdano. Clywyd, fod
trefniadau ar y cyd rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol yn gweithio'n
dda ar gyfer y gwasanaethau cymunedol integredig, ac yn sefydlu'r
gefnogaeth a'r gofal mwyaf priodol gan sicrhau nad yw'r dadleuon ariannol
yn peri rhwystr. Nid yw'r
Cyfarwyddwr yn credu y bydd y canllawiau diweddaredig
yn gwella trefniadau'n fawr ac mae'n credu mai'r trefniant cronfa a rennir
yw'r ateb go iawn.
|
7. |
Y diweddaraf am Gydlynu Ardaloedd Lleol PDF 74 KB
Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros Cymuned
Lee Cambule, Rheolwr Gwasanaeth Trechu Tlodi
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Hayley Gwilliam, Aelod y Cabinet dros
Gymunedau a swyddogion perthnasol yn bresennol i ddiweddaru'r panel ar y mater
hwn, gan dynnu sylw at berfformiad o'r ymagwedd hon yn 2022.
Pwyntiau Trafod:
- Roedd y Panel yn falch o glywed bod gan bob
ardal yn Abertawe gydlynwyr ardaloedd lleol (CALlau)
a bod y tîm CALlau canolog yn gweithio'n galed i
ddarparu cadernid os oes unrhyw swyddi gwag.
- Gofynnodd y panel sut mae CALlau
yn nodi pobl sy'n ynysig. Clywyd bod CALlau yn
treulio amser mewn lleoliadau cymunedol yn annog pobl i siarad â nhw am
unigolion y gallant fod yn bryderus amdanynt,
pobl ar eu pennau eu hunain sy'n ynysig ac yn agored i niwed. Yna maent yn gallu creu cysylltiadau a
darparu cefnogaeth.
- Lluniwyd ''Arweiniad ar Gydlynu Ardaloedd
Lleol yn Abertawe' er mwyn codi proffil ac ymwybyddiaeth o CALl. Holodd y
panel ynghylch y gynulleidfa darged ac a oes taflen y gellir ei phostio
drwy ddrysau pobl. Clywyd mai'r
brif gynulleidfa ar gyfer yr Arweiniad yw aelodau etholedig. Mae taflen sy'n cael ei defnyddio gan
bob CALl i gyflwyno'u hunain i bobl yn eu
hardaloedd ond meithrin perthnasoedd ag unigolion a gwneud cysylltiadau
yw'r rhan hanfodol.
|
8. |
Papur briffio ar yr Adolygiad Blynyddol o Daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2022/23 PDF 164 KB
David
Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Briffiwyd y Panel am hyn gan
David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a dywedodd wrth y Panel
fod y cynigion wedi'u cymeradwyo gan y
Cabinet. Nid oedd yr adroddiad yn cynnig
y dylai'r cyngor rhoi unrhyw daliadau newydd ar waith ond roedd yn argymell y
dylai gynnal ychwanegiad chwyddiannol o oddeutu 10% yn gyffredinol.
|
9. |
Rhaglen Waith 2022-23 PDF 150 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod
nesaf.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 21 Mawrth 2023) PDF 120 KB
|