Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Ethol Cadeirydd Dros Dro.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol Adam Hill fel Cadeirydd Dros Dro.

 

Adam Hill (Cadeirydd Dros Dro) fu'n llywyddu.

19.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 99 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod

blaenorol.

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Grŵp Partneriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

21.

Cyfarfod ar y cyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. (ar lafar)

Cofnodion:

Amlinellodd y Prif Uwch-arolygydd Martin Jones fanylion adroddiad ar y cyd gan y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol ar Gamddefnyddio Sylweddau a sefydlwyd gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe.  Nododd yr adroddiad y camau gweithredu i fynd i'r afael â marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn y rhanbarth ac ymdrin â County Lines, sy’n bla.

 

Gwnaethpwyd cryn dipyn o waith gan gynnwys newid gwasanaethau, rhaglenni allgymorth, mwy o glinigau a rhestrau aros.  Byddai'r grŵp yn cyfarfod eto ymhen chwe mis i ystyried y strwythur a ddatblygwyd o ganlyniad i'r adroddiad, ynghyd â chyfleoedd ar gyfer cryfhau'r hyn a gyflawnwyd eisoes. 

 

Wedi hynny, dywedodd y bydd trefniadau llywodraethu'r Bwrdd Cynllunio Ardal hefyd yn cael eu hystyried er mwyn symleiddio'r broses adrodd.

 

Gall cydweithwyr ddymuno cyfrannu at yr holiadur sydd ar gael mewn perthynas â'r adolygiad o wasanaethau camddefnyddio sylweddau ym Mae'r Gorllewin a gafodd ei gomisiynu gan Fwrdd Cynllunio Ardal PABM – byddai Siân Harrop-Griffiths yn cylchredeg y manylion.

 

Cytunwyd:

 

1)              Cylchredeg adroddiad y Grŵp Digwyddiadau Tyngedfennol i Grŵp Partneriaeth y BGC;

2)              Cylchredeg y ddolen i'r holiadur ar wasanaethau camddefnyddio sylweddau  ym Mae'r Gorllewin i Grŵp Partneriaeth y BGC.

 

Bu Andrew Davies (Cadeirydd) yn llywyddu

22.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

23.

Adolygiad llywodraethu bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Abertawe.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd y diweddaraf i'r grŵp am y sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r adolygiad llywodraethu parhaus.  Cychwynnwyd ar yr adolygiad er mwyn symleiddio'r broses a gwella strwythur y BGC i'w wneud yn fwy effeithiol drwy ganolbwyntio ar yr amcanion lles drwy gael system dryloyw, agored, atebol a chynhwysol.

 

Cyfarfu'r Grŵp Llywio Llywodraethu deirgwaith a datblygodd gylch gorchwyl drafft a Memorandwm/Datganiad Dealltwriaeth drafft.

 

Dilynwyd hyn gan drafodaeth gyffredinol lle codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·                 Mae un corff BGC yn unig yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n cynnwys tua 20 o aelodau, wedi'i gadeirio gan Arweinydd yr awdurdod lleol ar y cyd â'r 4 partner statudol, y trydydd sector a chynrychiolaeth gan y sector tai.  Nid oedd gan Gastell-nedd Port Talbot grwpiau craidd, cynllunio nac ymchwil;

·                 Roedd angen mesur i ddatblygu'r gwaith i'w wneud yn fwy effeithiol; 

·                 Yng Nghastell-nedd Port Talbot, darparodd pob arweinydd amcan adroddiad am y grŵp partneriaeth trosgynnol.  Roedd hyn yn caniatáu monitro cynnydd a chyflawnwyd canlyniadau. Gallai BGC Abertawe ddysgu o’r broses hon;

·                 Roedd Castell-nedd Port Talbot hefyd wrthi'n cynnal adolygiad o lywodraethu.

·                 Cwblhawyd adolygiad llywodraethu'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.  Gan fod peth o'r gwaith yn cyd-fynd ac yn gorgyffwrdd, y gobaith oedd y byddai'n osgoi dyblygu;

·                 Roedd angen dod â mentrau megis y comisiwn tlodi, hawliau dynol, dinasoedd iach ynghyd a'u symleiddio.

·                 Mae'n rhaid i'r gofrestr risgiau ganolbwyntio ar gyflwyno'r amcanion, gan barhau i gydnabod risgiau posib eraill;

·                 Dylid sefydlu grwpiau tasg a gorffen gyda nifer bach o gynrychiolwyr allweddol a fyddai'n adrodd yn ôl i'r grŵp partneriaeth;

·                 Roedd Sir Gâr a Cheredigion wedi mabwysiadu ymagwedd sy'n canolbwyntio ar dasgau sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.  Roeddent hefyd yn gweithio ar sail ranbarthol;

·                 Roedd angen ymagwedd a fyddai'n nodi bylchau yn y broses o gyflwyno'r Cynllun Lles;

·                 Mae angen i ni herio'r ffordd rydym yn gweithio.  Dylid gwreiddio'r 5 ffordd o weithio ym mhob un o'n sefydliadau;

·                 Yr awdurdod lleol oedd yn gyfrifol am yr holl waith o weinyddu’r BGC.  A oedd cyfle i bartneriaid eraill ddarparu cymorth, ac nid cymorth ariannol yn unig, megis Adnoddau Dynol neu Bersonél?

·                 Roedd angen grŵp ymchwil o hyd er mwyn cynnal yr asesiadau lles;

·                 Byddai proses ar gyfer adrodd yn ôl am gynlluniau a sefydlir megis cynigion ar gyfer trawsnewid, Canolfan Iechyd Da Abertawe etc hefyd yn fuddiol.

 

Cytunwyd:

 

1)              Nodi'r diweddariad;

2)              Y cynhelir trafodaeth bellach yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Craidd ar 12 Ebrill 2019.

24.

Olrhain risg. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Darparodd Swyddog Polisi Cynaladwyedd Cyngor Abertawe ddiweddariad ynghylch Olrhain Risgiau.

 

Cafwyd trafodaeth gyffredinol ynghylch a oedd sefydliadau unigol wedi ymgymryd ag ymarfer mapio o'u hamcanion i lywio’r adroddiad blynyddol er mwyn nodi unrhyw fylchau.

 

Yn ychwanegol, holwyd a ddylid cynnal archwiliad i ddarganfod pa wahaniaeth a wnaed gan y Cynllun Lles ers iddo gael ei fabwysiadu. 

 

Cytunwyd y dylid cofnodi'r diweddariad.

25.

Dinas Hawliau Dynol. (ar lafar)

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd fod Dr Simon Hoffman, Athro Cyswllt, Prifysgol Abertawe, wedi ymgymryd â'r gwaith ar ran Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, yn enwedig sefydlu Grŵp Llywio a Chynllun Cyflwyno.

 

Roedd datganiad gweledigaeth dyheadol wrthi'n cael ei ystyried a byddai cynllun gweithredu'n cael ei lunio i gysylltu â'r Cynllun Lles.  Byddai rhai cynlluniau ar gyfer sefydliadau unigol a byddai rhai eraill yn gamau gweithredu a rennir.

 

Cytunwyd

 

1)              Nodi'r diweddariad.

2)              Cyflwyno diweddariad/adroddiad mewn cyfarfod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol.

26.

Mesur cynnydd ein cenedl (ymgymghoriad dros e-bost BETA). pdf eicon PDF 47 KB

Cofnodion:

Adroddodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda am yr ymgynghoriad ar gynigion i osod cerrig milltir cenedlaethol i Gymru mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Dywedodd y byddai'n ymateb yn bersonol i'r ymgynghoriad a byddai'n rhannu'i farn â'r bwrdd.

 

Nodwyd yr ymgynghoriad. 

27.

Asedau Llywodraeth Cymru - Gweithgor Asedau Cenedlaethol. pdf eicon PDF 268 KB

Cofnodion:

Nodwyd cynnwys y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid.  Awgrymwyd y dylai'r eitem gael ei thrafod yn fanylach mewn cyfarfod yn y dyfodol gan yr oedd cyfleoedd pellach y gellid eu cynnwys ynghylch yr amcanion lles, megis cynlluniau teithio llesol. 

 

Yn ychwanegol, roedd disgwyl i bapur ar Ganolfan Iechyd Da Abertawe gael ei gyflwyno gerbron BIPABM.  Awgrymwyd y dylid trafod y cynnwys/canlyniadau mewn cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol.

 

Cytunwyd y dylid:

 

1)              Trafod Bwrdd Ystadau Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol;

2)              Trafod diweddariad ynghylch Canolfan Iechyd Da Abertawe mewn cyfarfod o’r BGC yn y dyfodol.

28.

Adroddiad Carchar EM. pdf eicon PDF 592 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiad.