Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd yr holl bobl a oedd yn bresennol i'r cyfarfod a gwahoddwyd
cyflwyniadau gan bawb a oedd yn bresennol. Gofynnodd y
Cadeirydd am Mr Phil Roberts, Prif Weithredwr, a oedd yn gwella yn dilyn salwch
byr. Adroddodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod Mr Roberts yn gwella'n dda, a'i
fod yn gobeithio dychwelyd i'r gwaith tua diwedd y mis neu'n fuan ar ôl. Roedd y Cadeirydd am roi dymuniadau gorau'r bwrdd i Mr Roberts. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion
cyfarfod Grŵp Partneriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a
gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2019 fel cofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored
agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnodd Mr Nortridge Perrott y cwestiwn canlynol: "Mae bwriad penodol i gynhyrchu
Cynllun Gwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Abertawe a Strwythur
Lywodraethu newydd ar gyfer y Grŵp Craidd, ac i gynnwys y 5 ffordd o
weithio ym mhob cam gweithredu a phenderfyniad a wnaed gan y BGC gan ddefnyddio
model newydd er mwyn i BGC Abertawe weithredu'n fwy syml ond gyda llawer mwy o
atebolrwydd. Allwch chi esbonio'r strwythur a'r cynllun gwaith newydd ar gyfer
BGC Abertawe a, chan ystyried y syniad awgrymedig o "rannu
cyllidebau" er mwyn cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pa
adrodd archwiliol ac ariannol a wneir ar hyn o bryd gan aelodau'r BGC a'r
Grŵp Craidd?" Ymatebodd y
Cadeirydd fel a ganlyn: ·
Manylwyd
ar y strwythur newydd yn y papurau cyhoeddus a luniwyd yng nghyfarfod y
Grŵp Partneriaeth ar y diwrnod hwnnw; ·
Cytunwyd
ar gynlluniau gwaith ac roeddent wrthi'n cael eu cyflwyno ar gyfer pob un o'r 4
ffrwd gwaith, ond nid oeddent wedi cael eu cymeradwyo'n swyddogol eto oherwydd
amseru a rhesymau logisteg. Roedd y Grŵp Craidd wedi cytuno y byddai pob un
o'r 4 ffrwd gwaith yn cael ei arwain gan un o'r 4 partneriaid statudol, a
byddai hyn yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor BGC i'w gymeradwyo; ·
Nid
oedd unrhyw gyllidebau wedi'u rhannu felly nid oes gan y BGC gyllideb benodol,
dim ond yr hyn a gyfrannwyd gan yr awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd. Yr ymagwedd
tuag at gyflwyno oedd y byddai pob sefydliad yn cyfrannu o ran personél, fodd
bynnag, roedd y Grŵp Craidd wedi cytuno y byddai'n rhaid trafod rhannu
cyllidebau os bwriedir i hyn fod yn "swydd arferol". Diolchodd y Cadeirydd i Mr Perrott am ei gwestiwn. |
|
Adolygiad llywodraethu. PDF 100 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd adroddiad ar gyfer strwythur lywodraethu well ar gyfer Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Esboniodd fod y
Grŵp Craidd wedi trafod yr opsiynau a chytuno arnynt yn ystod ei gyfarfod
fis diwethaf. Yr egwyddorion allweddol a oedd yn arwain y BGC oedd tryloywder,
cynhwysiad, atebolrwydd a sicrhau effeithiolrwydd y BGC; Roedd yr
Adolygiad Llywodraethu'n cynnig y byddai cyd-bwyllgor
yn bodloni gofynion statudol sylfaenol. Byddai hyn yn cynnwys aelodau statudol
a chyfranogwyr gwadd, ac ystyried cynrychiolaeth o'r Adran Dai a'r DVLA. Byddai'r nod o
gyflawni amcanion lles lleol wedyn yn cael ei ysgogi gan grwpiau cyflwyno Tasg a
Gorffen er mwyn cyflawni pob un o'r pedwar amcan lles lleol. Byddai'r grwpiau
hyn i gyd yn cael eu gwasanaethu gan bartner statudol sy'n gyfrifol am adrodd
nôl. Byddai aelodaeth yn cynnwys yr holl bartneriaid perthnasol, yn seiliedig
ar arbenigedd. Byddai fforwm partneriaeth ehangach yn
cwrdd ddwywaith y flwyddyn i annog cyfranogiad ehangach a mwy ystyrlon gan randdeiliaid. Byddai'r strwythur newydd yn unol â Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus eraill yng Nghymru. Codwyd pryder y gallai gweithio seilo hefyd ddod i'r golwg pe bai pob un o'r 4 partner yn
canolbwyntio ar un ffrwd waith yn unig. Eglurwyd y byddai cyfnodau lle byddai
angen i ffrydiau gwaith gydweithio ar bynciau penodol. Hefyd byddai eitem
agenda safonol ar gyfer y cyd-bwyllgor er mwyn i bob
ffrwd waith adrodd yn ôl amdani, gan ddarparu proses fonitro i sicrhau bod y 5
ffordd o weithio'n cael eu cynnwys ym mhob un or ffrydiau gwaith. Byddai'r adroddiad yn cael ei rannu â
Phanel Craffu Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus cyn rhoi'r strwythur
newydd ar waith. Penderfynwyd nodi'r
adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol 2018/19. (Cyflwyniad) Cofnodion: Darparodd Swyddog
Polisi Cynaliadwy Cyngor Abertawe gyflwyniad ar Adroddiad Blynyddol 2018/19. Amlinellodd y
canlynol: Statws y Cynllun
Gweithredu •
Roedd
gan bob un o'r Grwpiau Cyflawni Amcanion annibynnol gynlluniau gwaith unigol ac
anffurfiol; •
yn y
rhan fwyaf o ardaloedd, roedd y cynlluniau gwaith eisoes wedi cael eu cyflwyno;
•
Roedd
cynlluniau gweithredu pob grŵp yn amrywio'n sylweddol o ran cwmpas,
manylion a fformat; •
Nid
oedd rhai grwpiau wedi cymeradwyo'u cynlluniau'n swyddogol eto; •
Roedd
sawl arweinydd wedi cael ei ailbenodi oherwydd trosiant staff/ad-drefnu. Roedd yr
Adroddiad Llywodraethu'n mynd i'r afael â materion allweddol cyn ei gymeradwyo: •
Gwell
cyfathrebu, adrodd ac atebolrwydd; •
Egluro
cwmpas a symleiddio; •
Dylid
cofio bod y cynllun gweithredu'n trafod 3 blynedd o weithgarwch tymor byr, ac
ni ddechreuwyd ar y cyfan yn ystod y flwyddyn gyntaf; •
Byddai
cynllun gweithredu cydlynol sy'n cysylltu cyflwyniad yn cael ei gymeradwyo'n ffurfiol
yn sgîl cytuno ar yr adolygiad llywodraethu. Adrodd Blynyddol: •
Mae
gan y BGC gyfrifoldeb statudol i adrodd ar y flwyddyn 2018/19 erbyn 5
Gorffennaf 2019; •
Roedd ambell ofyniad penodol am gynnwys neu fformat yr
Adroddiad Blynyddol; •
Fodd
bynnag mae'n rhaid iddo nodi'r camau a gymerwyd i fodloni amcanion lles lleol; •
Disgwylir i gynnydd gael ei fesur gan gyfeirio at y
dangosyddion cenedlaethol ac unrhyw ddangosyddion perfformiad neu safonau a
bennwyd gan fyrddau sy’n dangos pa mor dda roeddent
wedi rhoi'r cynllun ar waith. Disgwyliadau
Adrodd - Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn pwysleisio: •
Pellter
a deithiwyd a hunanfyfyrio •
Myfyrio
ar y pum ffordd o weithio •
Ystyried
cyngor y comisiynydd •
Ymwybyddiaeth
o gryfderau a gwendidau'r BGC •
9 o
ddisgwyliadau a nodwyd yn nogfen 'Llesiant yng Nghymru: y siwrnai hyd yn hyn' Adrodd blaengar a
hygyrch: •
Anogwyd
mynediad i'r cyhoedd fel y gynulleidfa allweddol. •
Awgrymwyd
ffilmiau, cyfweliadau, clipiau rhyngweithiol a gwe-dudalennau. •
Roedd
datblygu'r gallu hwn gyda'n partneriaid yn cael ei drafod fel rhan o'r cynllun
gweithio rhanbarthol ar gyfer 2019/20 a chais am gyllid rhanbarthol. •
Byddai
fersiwn hawdd ei darllen yn cael ei chynhyrchu er mwyn rhoi hyfforddiant
cydweithredol rhanbarthol ar waith. Chwiliwyd am grŵp prawf. Fformat yr
Adroddiad Blynyddol Drafft: 1.
Neges
gan BGC Abertawe 2.
Ein
Gweledigaeth a'n Hamcanion Lles Lleol 3.
Sut
Rydym yn Gweithio 4.
Lles
Lleol Abertawe 5.
Cynnydd
tuag at ein Hamcanion Lles 6.
Ein
Ffyrdd o Weithio 7.
Ein Camau
Nesaf (gan gynnwys SWOT) 8.
Sut
gallwch chi gymryd rhan? Roedd y naws
yn fyfyriol gyda ffocws ar ddysgu ac achosion busnes Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Datblygu Cynaliadwy am y cyflwyniad
a'r gwaith a wnaed hyd yn hyn. Cytunwyd y byddai partneriaid yn rhoi'r canlynol i'r
Swyddog Datblygu Cynaliadwy: •
Lluniau,
sylwadau etc. y gellid eu defnyddio yn yr adroddiad i'w gyhoeddi; •
Manylion
cyswllt unrhyw sefydliadau/gwmnïau a allai helpu i brofi'r fersiwn "hawdd
ei darllen". •
Cyhoeddi'r
adroddiad erbyn 5 Gorffennaf 2019. |
|
Cynllun gwaith Atal Hunanleiddiaid a Hunan-niweidio (Adroddiad a Chyflwyniad). PDF 810 KB Cofnodion: Rhoddodd Jennifer
Davies, Tîm Iechyd Cyhoeddus Bae Abertawe, y diweddaraf am adroddiad diweddaraf
Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Castell-nedd Port Talbot - Ebrill 2019. Amlinellodd y
cefndir gan esbonio pam mae angen gweithredu er mwyn mynd i'r afael â'r
broblem. Darparodd fanylion am weithdy a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, wedi'i gynnal
gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi'i gadeirio gan Andrew Davies, ac i ddilyn
hyn cafwyd cyfres o weithdai a oedd yn canolbwyntio ar y 6 amcan strategol a
nodwyd yn strategaeth Siarad â Fi 2. Bydd rhaid aros
am fwy o adborth a chyfraniadau a byddai'r rhain yn cael eu casglu fel rhan o'r
adroddiad terfynol. Byddai angen datblygu cynllun gweithredu/strategaeth
integredig erbyn mis Hydref 2019 i helpu i lywio a chyfeirio camau gweithredu
cyfunol ar draws ardal Bae Abertawe. Fel rhan o'r
broses lywodraethu ac adrodd ar gyfer y gwaith hwn, gofynnodd a oedd BGC Abertawe'n dymuno cymryd rhan a derbyn y newyddion
diweddaraf a'r cynllun gweithredu/strategaeth. Roedd BGC Castell-nedd Port
Talbot eisoes wedi cytuno. Cytunodd y
Cadeirydd y dylai BGC gymryd rhan, fodd bynnag roedd am drafod gyda BGC
Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru ynghylch y broses adrodd gywir. Diolchodd y Cadeirydd
i Jennifer Davies am y newyddion diweddaraf. Nodwyd y newyddion diweddaraf. |
|
Cofnodion: Adroddodd y
Cadeirydd y byddai'n ymateb i'r cwestiynau a'r sylwadau a nodwyd yn y llythyr
gan y Cynghorydd Mary Jones, Cynullydd Panel Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus,
yr wythnos nesaf. Nodwyd y llythyr. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y llythyrau |
|
Diolchwyd y Cadeirydd. Cofnodion: Yn dilyn y
newyddion bod Mr Andrew Davies, Cadeirydd BGC Abertawe a Chadeirydd Bwrdd
Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (a adwaenir gynt fel Bwrdd Iechyd Prifysgol
Abertawe Bro Morgannwg) wedi cyhoeddi ei ymddeoliad, roedd y Cynghorydd Mark
Child, ar ran y Bwrdd, am ddiolch i'r Cadeirydd am ei waith dros y flwyddyn
ddiwethaf, yn enwedig wrth wneud cynnydd ar yr adolygiad llywodraethu, dymunodd
y gorau iddo ar gyfer y dyfodol. |