Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr holl bobl a oedd yn bresennol i'r cyfarfod a gwahoddwyd cyflwyniadau gan bawb a oedd yn bresennol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am Mr Phil Roberts, Prif Weithredwr, a oedd yn gwella yn dilyn salwch byr. Adroddodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod Mr Roberts yn gwella'n dda, a'i fod yn gobeithio dychwelyd i'r gwaith tua diwedd y mis neu'n fuan ar ôl.

 

Roedd y Cadeirydd am roi dymuniadau gorau'r bwrdd i Mr Roberts.

30.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

31.

Cofnodion. pdf eicon PDF 107 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Grŵp Partneriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

32.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnodd Mr Nortridge Perrott y cwestiwn canlynol:

 

"Mae bwriad penodol i gynhyrchu Cynllun Gwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Abertawe a Strwythur Lywodraethu newydd ar gyfer y Grŵp Craidd, ac i gynnwys y 5 ffordd o weithio ym mhob cam gweithredu a phenderfyniad a wnaed gan y BGC gan ddefnyddio model newydd er mwyn i BGC Abertawe weithredu'n fwy syml ond gyda llawer mwy o atebolrwydd. Allwch chi esbonio'r strwythur a'r cynllun gwaith newydd ar gyfer BGC Abertawe a, chan ystyried y syniad awgrymedig o "rannu cyllidebau" er mwyn cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pa adrodd archwiliol ac ariannol a wneir ar hyn o bryd gan aelodau'r BGC a'r Grŵp Craidd?"

 

Ymatebodd y Cadeirydd fel a ganlyn:

 

·                 Manylwyd ar y strwythur newydd yn y papurau cyhoeddus a luniwyd yng nghyfarfod y Grŵp Partneriaeth ar y diwrnod hwnnw;

·                 Cytunwyd ar gynlluniau gwaith ac roeddent wrthi'n cael eu cyflwyno ar gyfer pob un o'r 4 ffrwd gwaith, ond nid oeddent wedi cael eu cymeradwyo'n swyddogol eto oherwydd amseru a rhesymau logisteg. Roedd y Grŵp Craidd wedi cytuno y byddai pob un o'r 4 ffrwd gwaith yn cael ei arwain gan un o'r 4 partneriaid statudol, a byddai hyn yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor BGC i'w gymeradwyo;

·                 Nid oedd unrhyw gyllidebau wedi'u rhannu felly nid oes gan y BGC gyllideb benodol, dim ond yr hyn a gyfrannwyd gan yr awdurdod lleol a'r Bwrdd Iechyd. Yr ymagwedd tuag at gyflwyno oedd y byddai pob sefydliad yn cyfrannu o ran personél, fodd bynnag, roedd y Grŵp Craidd wedi cytuno y byddai'n rhaid trafod rhannu cyllidebau os bwriedir i hyn fod yn "swydd arferol".

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Perrott am ei gwestiwn.

33.

Adolygiad llywodraethu. pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar gyfer strwythur lywodraethu well ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

 

Esboniodd fod y Grŵp Craidd wedi trafod yr opsiynau a chytuno arnynt yn ystod ei gyfarfod fis diwethaf. Yr egwyddorion allweddol a oedd yn arwain y BGC oedd tryloywder, cynhwysiad, atebolrwydd a sicrhau effeithiolrwydd y BGC; 

 

Roedd yr Adolygiad Llywodraethu'n cynnig y byddai cyd-bwyllgor yn bodloni gofynion statudol sylfaenol. Byddai hyn yn cynnwys aelodau statudol a chyfranogwyr gwadd, ac ystyried cynrychiolaeth o'r Adran Dai a'r DVLA.

 

Byddai'r nod o gyflawni amcanion lles lleol wedyn yn cael ei ysgogi gan grwpiau cyflwyno Tasg a Gorffen er mwyn cyflawni pob un o'r pedwar amcan lles lleol. Byddai'r grwpiau hyn i gyd yn cael eu gwasanaethu gan bartner statudol sy'n gyfrifol am adrodd nôl. Byddai aelodaeth yn cynnwys yr holl bartneriaid perthnasol, yn seiliedig ar arbenigedd.

 

Byddai fforwm partneriaeth ehangach yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn i annog cyfranogiad ehangach a mwy ystyrlon gan randdeiliaid. Byddai'r strwythur newydd yn unol â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill yng Nghymru.

 

Codwyd pryder y gallai gweithio seilo hefyd ddod i'r golwg pe bai pob un o'r 4 partner yn canolbwyntio ar un ffrwd waith yn unig. Eglurwyd y byddai cyfnodau lle byddai angen i ffrydiau gwaith gydweithio ar bynciau penodol. Hefyd byddai eitem agenda safonol ar gyfer y cyd-bwyllgor er mwyn i bob ffrwd waith adrodd yn ôl amdani, gan ddarparu proses fonitro i sicrhau bod y 5 ffordd o weithio'n cael eu cynnwys ym mhob un or ffrydiau gwaith.

 

Byddai'r adroddiad yn cael ei rannu â Phanel Craffu Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus cyn rhoi'r strwythur newydd ar waith.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad.

34.

Adroddiad Blynyddol 2018/19. (Cyflwyniad)

Cofnodion:

Darparodd Swyddog Polisi Cynaliadwy Cyngor Abertawe gyflwyniad ar Adroddiad Blynyddol 2018/19.

 

Amlinellodd y canlynol:

 

Statws y Cynllun Gweithredu 

                 Roedd gan bob un o'r Grwpiau Cyflawni Amcanion annibynnol gynlluniau gwaith unigol ac anffurfiol;

                 yn y rhan fwyaf o ardaloedd, roedd y cynlluniau gwaith eisoes wedi cael eu cyflwyno;

                 Roedd cynlluniau gweithredu pob grŵp yn amrywio'n sylweddol o ran cwmpas, manylion a fformat;

                 Nid oedd rhai grwpiau wedi cymeradwyo'u cynlluniau'n swyddogol eto;

                 Roedd sawl arweinydd wedi cael ei ailbenodi oherwydd trosiant staff/ad-drefnu.

 

Roedd yr Adroddiad Llywodraethu'n mynd i'r afael â materion allweddol cyn ei gymeradwyo:

                 Gwell cyfathrebu, adrodd ac atebolrwydd;

                 Egluro cwmpas a symleiddio;

                 Dylid cofio bod y cynllun gweithredu'n trafod 3 blynedd o weithgarwch tymor byr, ac ni ddechreuwyd ar y cyfan yn ystod y flwyddyn gyntaf;

                 Byddai cynllun gweithredu cydlynol sy'n cysylltu cyflwyniad yn cael ei gymeradwyo'n ffurfiol yn sgîl cytuno ar yr adolygiad llywodraethu.

 

Adrodd Blynyddol:

                 Mae gan y BGC gyfrifoldeb statudol i adrodd ar y flwyddyn 2018/19 erbyn 5 Gorffennaf 2019;

                 Roedd ambell ofyniad penodol am gynnwys neu fformat yr Adroddiad Blynyddol;

                 Fodd bynnag mae'n rhaid iddo nodi'r camau a gymerwyd i fodloni amcanion lles lleol;

                 Disgwylir i gynnydd gael ei fesur gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol ac unrhyw ddangosyddion perfformiad neu safonau a bennwyd gan fyrddau sy’n dangos pa mor dda roeddent wedi rhoi'r cynllun ar waith.

 

Disgwyliadau Adrodd - Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn pwysleisio:

                 Pellter a deithiwyd a hunanfyfyrio

                 Myfyrio ar y pum ffordd o weithio

                 Ystyried cyngor y comisiynydd

                 Ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau'r BGC

                 9 o ddisgwyliadau a nodwyd yn nogfen 'Llesiant yng Nghymru: y siwrnai hyd yn hyn'

 

Adrodd blaengar a hygyrch:

                 Anogwyd mynediad i'r cyhoedd fel y gynulleidfa allweddol.

                 Awgrymwyd ffilmiau, cyfweliadau, clipiau rhyngweithiol a gwe-dudalennau.

                 Roedd datblygu'r gallu hwn gyda'n partneriaid yn cael ei drafod fel rhan o'r cynllun gweithio rhanbarthol ar gyfer 2019/20 a chais am gyllid rhanbarthol.

                 Byddai fersiwn hawdd ei darllen yn cael ei chynhyrchu er mwyn rhoi hyfforddiant cydweithredol rhanbarthol ar waith. Chwiliwyd am grŵp prawf.

 

Fformat yr Adroddiad Blynyddol Drafft:

1.              Neges gan BGC Abertawe

2.              Ein Gweledigaeth a'n Hamcanion Lles Lleol

3.              Sut Rydym yn Gweithio

4.              Lles Lleol Abertawe

5.              Cynnydd tuag at ein Hamcanion Lles

6.              Ein Ffyrdd o Weithio

7.              Ein Camau Nesaf (gan gynnwys SWOT)

8.              Sut gallwch chi gymryd rhan?

Roedd y naws yn fyfyriol gyda ffocws ar ddysgu ac achosion busnes

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Datblygu Cynaliadwy am y cyflwyniad a'r gwaith a wnaed hyd yn hyn.

 

Cytunwyd y byddai partneriaid yn rhoi'r canlynol i'r Swyddog Datblygu Cynaliadwy:

                 Lluniau, sylwadau etc. y gellid eu defnyddio yn yr adroddiad i'w gyhoeddi;

                 Manylion cyswllt unrhyw sefydliadau/gwmnïau a allai helpu i brofi'r fersiwn "hawdd ei darllen".

                 Cyhoeddi'r adroddiad erbyn 5 Gorffennaf 2019.

 

35.

Cynllun gwaith Atal Hunanleiddiaid a Hunan-niweidio (Adroddiad a Chyflwyniad). pdf eicon PDF 810 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Jennifer Davies, Tîm Iechyd Cyhoeddus Bae Abertawe, y diweddaraf am adroddiad diweddaraf Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Castell-nedd Port Talbot - Ebrill 2019.

 

Amlinellodd y cefndir gan esbonio pam mae angen gweithredu er mwyn mynd i'r afael â'r broblem. Darparodd fanylion am weithdy a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, wedi'i gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi'i gadeirio gan Andrew Davies, ac i ddilyn hyn cafwyd cyfres o weithdai a oedd yn canolbwyntio ar y 6 amcan strategol a nodwyd yn strategaeth Siarad â Fi 2.

 

Bydd rhaid aros am fwy o adborth a chyfraniadau a byddai'r rhain yn cael eu casglu fel rhan o'r adroddiad terfynol. Byddai angen datblygu cynllun gweithredu/strategaeth integredig erbyn mis Hydref 2019 i helpu i lywio a chyfeirio camau gweithredu cyfunol ar draws ardal Bae Abertawe. 

 

Fel rhan o'r broses lywodraethu ac adrodd ar gyfer y gwaith hwn, gofynnodd a oedd BGC Abertawe'n dymuno cymryd rhan a derbyn y newyddion diweddaraf a'r cynllun gweithredu/strategaeth. Roedd BGC Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi cytuno.

 

Cytunodd y Cadeirydd y dylai BGC gymryd rhan, fodd bynnag roedd am drafod gyda BGC Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru ynghylch y broses adrodd gywir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Jennifer Davies am y newyddion diweddaraf.

 

Nodwyd y newyddion diweddaraf.

36.

Llythyr gan y Panel Craffu Perfformiad - Y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus dyddiedig 24 Ebrill 2019. pdf eicon PDF 511 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd y byddai'n ymateb i'r cwestiynau a'r sylwadau a nodwyd yn y llythyr gan y Cynghorydd Mary Jones, Cynullydd Panel Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, yr wythnos nesaf.

 

Nodwyd y llythyr.

37.

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd Craffu a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ynghylch cyllidebau a rennir. pdf eicon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y llythyrau

38.

Diolchwyd y Cadeirydd.

Cofnodion:

Yn dilyn y newyddion bod Mr Andrew Davies, Cadeirydd BGC Abertawe a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (a adwaenir gynt fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg) wedi cyhoeddi ei ymddeoliad, roedd y Cynghorydd Mark Child, ar ran y Bwrdd, am ddiolch i'r Cadeirydd am ei waith dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig wrth wneud cynnydd ar yr adolygiad llywodraethu, dymunodd y gorau iddo ar gyfer y dyfodol.