Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 109 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Grŵp Partneriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir.

12.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

13.

Y Diweddaraf am Benodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod newidiadau wedi bod i'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ar gyfer 2018/2019, sydd wedi'u cytuno yng nghyfarfod Grŵp Craidd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe - ar 18 Hydref 2018. Penderfynwyd ethol Andrew Davies yn Gadeirydd ar gyfer 2018/2019 ac etholwyd y Cynghorydd Rob Stewart yn Is-gadeirydd ar gyfer 2018/2019.

14.

Asedau Ffisegol - Bwrdd Eiddo Lleol (Rhannu ar gyfer Abertawe - Cam).

Cofnodion:

Rhoddodd Geoff Bacon y diweddaraf ar waith y Bwrdd Eiddo Lleol. Amlygodd yn benodol fod y bwrdd yn edrych am gyfleoedd i gydweithio. Y ddau gyfle posibl a nodwyd oedd cynllunio teithio a lleoliadau swyddfa cefn. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn annog cydweithio o ran asedau.

 

Dilynwyd hyn gan drafodaeth ar sicrhau bod y Bwrdd Eiddo Lleol yn ystyried Isadeiledd Gwyrdd ynghyd ag adrodd ac atebolrwydd y Bwrdd Eiddo lleol.

 

Cytunwyd y dylid edrych ar adrodd uniongyrchol ac atebolrwydd y Bwrdd Eiddo Lleol fel rhan o Adolygiad Llywodraethu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

15.

Y Gronfa Loteri Fawr.

Cofnodion:

Gwnaed cyflwyniad ar y Gronfa Loteri Fawr gan Alexander Davies a Tomos Davies. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys: -

 

·                Rôl y Gronfa Loteri Fawr

·                Achosion da

·                Pa brosiectau sydd wedi'u hariannu yng Nghymru

·                Y prif raglenni grant sydd ar gael

·                Y tri phrif beth y maen nhw'n chwilio amdanyn nhw mewn prosiectau - bod pobl yn eu harwain, bod ganddynt gysylltiadau da a’u bod yn seiliedig ar gryfderau.

 

Dilynodd trafodaeth, a oedd yn canolbwyntio ar: -

 

·                Y gyllideb flynyddol

·                Cymunedau o ddiddordeb

·                Gweithdrefnau ceisiadau a meini prawf cymhwyster

·                Materion sy'n ymwneud â dyletswydd statudol

 

Diolchodd y bwrdd Alexander Davies a Tomos Davies am eu cyflwyniad.

16.

Y Diweddaraf am Weithgorau'r Amcanion Lles.

Cofnodion:

Rhoddodd Suzy Richards y diweddaraf am Weithgorau’r Amcanion Lles:-

 

Blynyddoedd Cynnar - cytunwyd ar gynllun gweithredu drafft ac amserlenni.

 

Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda - cytunwyd ar gynllun gweithredu drafft ac amserlenni. Roedd manylion yn sail i'r rhan fwyaf o feysydd.

 

Gweithio gyda Natur - penderfynwyd ar rai arweinwyr ar gyfer camau gweithredu penodol.

 

Cymunedau Cryfach - mae'r grŵp yn dal i ddatblygu ac ar y camau cynnar. Roedd bylchau sylweddol o ran camau gweithredu.

 

Rhannu dros Abertawe - penodwyd arweinydd amcan newydd a byddai'n symud y grŵp yn ei flaen.

 

Mae'r Cynllun Lles Lleol wedi ymrwymo i adolygiad llywodraethu ar ôl cwblhau'r Cynllun Lles Lleol. Sefydlir gweithgor i symud hyn yn ei flaen.

 

Rhoddodd Martyn Evans y diweddaraf am y Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd, a’r gobaith yw y bydd ar gael ym mis Ebrill 2019. 

 

Rhoddodd Philip McDonnell y diweddaraf ar waith a wnaed ar yr ymagwedd strategol drosgynnol i sicrhau bod holl elfennau a grwpiau’r amcanion yn dod ynghyd i fwydo'r cynllun lles.

17.

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd drosolwg ar Adolygiad Llywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Roedd cyfle i adolygu'r ffordd y mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd yn unol â newidiadau i gwmpas Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Roedd gorgyffyrddiadau arwyddocaol ac angen i symleiddio trefniadau.

 

Sefydlir gweithgor bach i symud yr adolygiad llywodraethu yn ei flaen.