Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 118 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Grŵp Partneriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2018 fel cofnod cywir.

 

Materion yn codi - Cofnod 39, tudalen 3:

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd wedi cyhoeddi ers y cyfarfod diwethaf y byddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gadael Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg ac yn symud i Fwrdd Iechyd Cwm Taf.  Ailadroddodd sylwadau blaenorol fod yr holl bartneriaid yn cael problemau gyda nifer y cyfarfodydd roedd yn rhaid iddynt fod yn bresennol ynddynt. 

3.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Cofnodion:

Gofynnodd Mr Nortridge Perrott y cwestiwn canlynol:

 

Pa gynlluniau gweithredu a phrosesau sydd ar waith gan bartneriaid perthnasol y BGC mewn perthynas â'r galw ar y gwasanaeth tai i ddatblygu'r ddyletswydd datblygu cynaliadwy a manylu ar unrhyw adroddiadau gan y partneriaid hynny mewn perthynas â phroses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)?

 

Atebodd yr Is-gadeirydd gan ddweud y dylai cwestiynau gan y cyhoedd fod yn berthnasol i eitem benodol ar yr agenda. Nid yw'r cwestiwn yn uniongyrchol berthnasol i gydweithredu gan y BGC gan mai dogfen sydd wedi'i pharatoi gan Gyngor Abertawe yw'r CDLl.  Mae tai, fodd bynnag, yn destun y sonnir amdano'n gyson yn y Cynllun Lles Lleol.  O ganlyniad i hyn, mae camau cydweithredu i fodloni'n nodau lles lleol yn ystyried hyn.

 

Byddai'r Swyddog Datblygu Cynaliadwy'n rhoi ymateb i Mr Perrott drwy amlinellu'r wybodaeth yn niagramau ysgogi'r Cynllun Lles Lleol a'r camau yn yr amcanion a'r cam cynllunio gweithredu sy'n ystyried tai.

 

Diolchodd yr Is-gadeirydd i Mr Perrott am ei gwestiwn.

4.

Isadeiledd Gwyrdd (Cyfoeth Naturiol Cymru). pdf eicon PDF 165 KB

Peter Jordan

Cofnodion:

Rhoddodd Max Stokes, gyda chefnogaeth Hamish Osborn, Cyfoeth Naturiol Cymru, gyflwyniad Powerpoint mewn perthynas ag Isadeiledd Gwyrdd.

 

Roedd Isadeiledd Gwyrdd yn thema amlwg yn yr ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o'r ffrwd waith Gweithio gyda Natur.

 

Adroddodd am yr amcanion, y camau y gweithir arnynt a amlinellwyd yn y Cynllun Lles Lleol ac amlinellodd brosiect cyflwyno aml-raddfa a oedd yn cynnwys ardaloedd BGC Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot.

 

Roedd trafodaeth a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

·                 Mae ansawdd aer yn amrywio'n sylweddol ar draws ardal yr awdurdod lleol ac mae perthynas glir rhwng ansawdd aer gwael ac iechyd gwael;

·                 Gall coed a phlanhigion wella'r amgylchedd ac iechyd pobl ynghyd â chynorthwyo gyda dŵr wyneb;

·                 Sut y byddai'r wardiau'n cael eu dewis ar gyfer y peilot;

·                 Mae angen meddwl sy'n fwy cysylltiedig mewn perthynas â'r rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus, tiroedd comin trefol a choridorau gwyrdd er mwyn osgoi diffyg perchnogaeth gymunedol;

·                 Sut y gall cymunedau ddefnyddio mwy o leoedd agored megis Mynydd Cilfái/Twyni Crymlyn, Parc Sgeti gyda Gerddi Clun a Blaen-y-maes gyda Choed Penllergaer;

·                 Roedd Bwrdd Iechyd PABM yn awyddus i gymryd rhan – adroddwyd mai Ysbyty Glan-rhyd oedd yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i ennill gwobr y faner werdd;

·                 Roedd hwn yn un o sawl prosiect a allai gysylltu â phrosiectau eraill;

·                 Roedd llawer o grwpiau/gwirfoddolwyr a grwpiau 'Cyfeillion' a allai gynorthwyo gyda'r prosiect;

·                 Gwirfoddolodd y gwasanaeth tân i rannu data ansoddol a meintiol mewn perthynas â digwyddiadau llifogydd, glaswelltir a choedwigaeth;

·                 Sut y gallai'r BGC (a phartneriaid unigol) fabwysiadu Isadeiledd Gwyrdd yn barhaus ym mhopeth rydym yn ei wneud?

 

Diolchodd yr Is-gadeirydd i Max Stokes a Hamish Osborn am y cyflwyniad addysgiadol.

5.

Rhaglen Gydweithredol y 1000 Diwrnod Cyntaf. pdf eicon PDF 82 KB

Amy McNaughton

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Amy McNaughton, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus dros Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyflwyniad Powerpoint mewn perthynas â Rhaglen Gydweithredol y 1000 Diwrnod Cyntaf.

 

Symudiad o sefydliadau uchel eu cymhelliad sy'n ymrwymedig i feddwl a gweithio'n wahanol i greu Cymru rydym i gyd eisiau byw ynddi heddiw ac yn y dyfodol yw Cymru Well Wales.

 

Gan ddefnyddio gweithgareddau ac adnoddau, mae partneriaid Cymru Well Wales yn blaenoriaethu camau gweithredu ar y materion sy'n cyfrannu fwyaf at iechyd gwael yng Nghymru.

 

Mae Rhaglen Gydweithredol y 1000 Diwrnod Cyntaf yn flaenoriaeth i Cymru Well Wales oherwydd bydd rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yn helpu i leihau anghydraddoldebau ac i wella iechyd a lles gydol oes.

 

Mae Rhaglen Gydweithredol y 1000 Diwrnod Cyntaf yn gweithio i gyflawni tri chanlyniad;

 

·       Y canlyniad gorau ar gyfer pob beichiogrwydd o ran y fam a'r plentyn;

·       Plant i gyflawni eu cerrig milltir datblygu erbyn iddynt gyrraedd dwy flwydd oed;

·       Ni fydd plant yn agored i brofiadau niweidiol lluosog yn ystod plentyndod yn ystod 1000 diwrnod cyntaf eu bywydau.

 

Mae ymuno â'r Rhaglen Gydweithredol yn cynnwys y cyfleoedd a'r manteision canlynol:

 

·       Cynorthwyo gyda hyrwyddo pwysigrwydd y 1000 diwrnod cyntaf gyda phartneriaid allweddol a dylanwadau allanol;

·       Cefnogaeth wrth ddechrau, gan gynnwys cynnal Digwyddiad Cynnwys Systemau ar y cyd, ac arweiniad ar gyfer sefydlu Grŵp Cydweithredol Lleol;

·       Mynediad at rwydwaith cydweithredol cenedlaethol i rannu dysgu a nodi blaenoriaethau cydweithredol ar gyfer dylanwadu ar bolisïau ac arfer;

·       Mynediad at bach o arian grant i gynnal profion ar weithgarwch gwella lleol;

·       Cyfrannu at ddatblygu a phrofi gwybodaeth gyhoeddus sy'n cael ei llunio'n genedlaethol a dylanwadu arni;

·       Mynediad blaenoriaeth at ddigwyddiadau dysgu a chyfleoedd hyfforddi cenedlaethol Rhaglen y 1000 Diwrnod Cyntaf;

·       Arweiniad a chefnogaeth ar gyfer gwerthuso a mesur effaith;

·       Cyfrannu at nodi blaenoriaethau ymchwil a chymryd rhan wrth ddatblygu a lledaenu'r sail dystiolaeth o fewn y 1000 diwrnod cyntaf;

·       Bod yn rhan o lais cydweithredol ar gyfer dylanwadu ar system y 1000 diwrnod cyntaf yn genedlaethol.

 

Byddai'n rhaid i BGC Abertawe ymrwymo i egwyddorion Cymru Well Wales:

 

·       Gweithredu heddiw er mwyn atal iechyd gwael yfory;

·       Gwella lles gan ddefnyddio gweithgareddau ac adnoddau i fwyhau ein heffaith gydweithredol;

·       Meddwl a gweithio'n wahanol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd;

·       Grymuso'n cymunedau ym mhopeth rydym yn ei wneud;

·       Dysgu gan bobl eraill i ddylunio camau gweithredu blaengar ar gyfer y dyfodol.

 

Fel aelod o Raglen Gydweithredol y 1000 Diwrnod Cyntaf, byddai'n rhaid i BGC Abertawe ymrwymo i'r canlynol:

 

·       Adeiladu clymblaid leol o bartneriaid aml-asiantaeth sy'n cynrychioli system y 1000 diwrnod cyntaf yn ardal Abertawe;

·       Adeiladu dealltwriaeth ar y cyd o system gyfredol y 1000 diwrnod cyntaf;

·       Nodi, profi a gwerthuso gwelliant mewn safon gwasanaethau a newidiadau i'r system;

·       Rhannu dysgu o Abertawe â thîm rhaglen ganolog y 1000 Diwrnod Cyntaf ag aelodau eraill y rhaglen gydweithredol.

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd fod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe eisoes wedi cytuno i ymuno â Rhaglen Gydweithredol y 1000 Diwrnod Cyntaf.

 

Cafodd y grŵp drafodaeth hir ar y materion allweddol y mae pob un o'r partneriaid yn eu hwynebu, yn benodol o ran profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a sut y gallai'r BGC ddatblygu'r eitem hon.

 

Cytunwyd y bydd y BGC yn derbyn adroddiad gan Dîm y Blynyddoedd Cynnar ar sut y gall y BGC roi Rhaglen Gydweithredol y 1000 Diwrnod Cyntaf ar waith.

 

Diolchodd yr Is-gadeirydd i Amy McNaughton am ei chyflwyniad.

6.

Y Diweddaraf ar Gynllunio gweithredu. pdf eicon PDF 151 KB

Suzy Richards

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Suzy Richards, Swyddog Datblygu Cynaliadwy adroddiad i roi'r diweddaraf i bartneriaid am y cynnydd diweddaraf a'r risgiau posib wrth ddatblygu cynlluniau gweithredu.

 

Roedd hi wedi diweddaru templed yr adroddiad fel ei fod bellach yn cynnwys dolen i'r Amcan Lles perthnasol.

 

Amlinellodd y cynnydd hyd yma mewn perthynas â phob un o'r ffrydiau gwaith:

 

·       Blynyddoedd Cynnar – Nina Williams (Sandra Husband a Siân Bingham), Swyddogion Arweiniol;

·       Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda – Polly Gordon, Swyddog Arweiniol;

·       Gweithio gyda Natur – Max Stokes a Phil McDonnel, Swyddogion Arweiniol;

·       Cymunedau Cryf – Amanda Carr, Swyddog Arweiniol;

·       Rhannu ar gyfer Abertawe – y Swyddog Arweiniol fydd y Dirprwy Brif Weithredwr ar gyfer Cyngor Abertawe.

 

Nodwyd pob un o'r 20 o gamau a'u statws gan y bwrdd ar 3 Gorffennaf 2018.  Dylid nodi bod Gweithio gyda Natur wedi cynnal cyfarfod ar 2 Gorffennaf 2018 felly nid oedd unrhyw wybodaeth wedi cael ei chynnwys. 

 

Cytunwyd:

 

1)              Bydd y Swyddog Datblygu Cynaliadwy yn dosbarthu'r ffurflen i'r Swyddogion Arweiniol a nodwyd yn y ffrydiau gwaith uchod;

2)              Bydd y Swyddogion Arweiniol yn cwblhau'r ffurflen a'i dychwelyd erbyn diwedd mis Awst 2018.

7.

Arfer Da ar gyfer BCC. pdf eicon PDF 93 KB

Phil Roberts

Cofnodion:

Cyflwynodd Phil Roberts, Prif Weithredwr Cyngor Abertawe, adroddiad a oedd yn amlinellu arweiniad gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch defnyddio'r cyfleuster Copi Carbon Dall “bcc” mewn e-byst i sicrhau na fydd derbynwyr yn cael eu hadnabod.

 

Oherwydd bod gohebiaeth reolaidd yn cael ei dosbarthu i'r holl bartneriaid, mae'n arfer da i ddefnyddio'r cyfleuster “bcc” pan fyddwch yn dosbarthu e-byst i unigolion/sefydliadau amrywiol.

 

Teimlwyd, fel cyrff cyhoeddus, y dylid defnyddio'r cyfleuster “cc” yn hytrach na'r opsiwn “bcc”.

 

Cytunwyd defnyddio'r cyfleuster “cc” mewn e-byst wrth ddosbarthu gohebiaeth rhwng partneriaid y BGC, fodd bynnag, dylid ystyried a ddylid defnyddio "ymateb i bawb" neu "ymateb" wrth ymateb i e-byst.

8.

Gohebiaeth. pdf eicon PDF 21 KB

·                 Y Gymraeg (Menter Iaith);

·                 Comisiynydd Pobl Hŷn;

·                 Llythyr Cefnogi - Academi Wales;

·                 Cynghorau Tref a Chymuned;

·                 Prifysgol Abertawe;

·                 Ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y dogfennau gohebiaeth.

9.

Er Gwybodaeth: pdf eicon PDF 123 KB

·                 Cofnodion cyfarfodydd Grŵp Craidd y BGC a gynhaliwyd ar 10 Mai a 25 Mehefin 2018;

·                 Asesiad Abertawe o Lesiant Lleol: 2018 Diweddariad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr adroddiadau "Er Gwybodaeth".