Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

28.

Derbyn Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

29.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

30.

Cofnodion. pdf eicon PDF 154 KB

To approve and sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.  

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod Grŵp Partneriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir.

 

31.

Y Diweddaraf am y Cynllun Lles. pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Sivers y diweddaraf am y Cynllun Lles. Amlygodd fod yr ymgynghoriad ffurfiol ar waith ar hyn o bryd, a'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion yw 13 Chwefror 2018. Gofynnwyd i'r holl bartneriaid anfon eu hymgynghoriadau eu hunain a dywedwyd y dylai'r holl ymatebion/wybodaeth a dderbynnir o'r ymgynghoriadau gael eu hanfon at Leanne Ahern. 

 

Penderfynwyd:

1.         nodi'r diweddariad;

2.         anfon yr ymatebion i'r ymgynghoriadau at Leanne Ahern.  

 

32.

Cytuno ar Amserlen y Cyfnod ôl-ymgynghori. pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Sivers adroddiad am amserlen y cyfnod ôl-ymgynghori. Tynnwyd sylw'n benodol at y dyddiadau allweddol a therfynau amser caeth. 

 

Penderfynwyd cytuno ar amserlen y cyfnod ôl-ymgynghori.

 

33.

Sicrhau Cydlyniant Cynllun Lles Abertawe â'r Nodau a'r Ffyrdd o Weithio. pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynhaliodd Penny Gruffydd a Suzy Richards weithdy ar yr amcanion a'r camau gweithredu drafft. Ymgymerodd y panel â thasg i ystyried sut roedd yr amcanion a'r camau gweithredu drafft yn cyd-fynd â'r Saith Nod Llesiant. Mapiwyd yr ymatebion i'r dasg yn unol â hynny.

 

34.

Er gwybodaeth. pdf eicon PDF 118 KB

·                  Cofnodion cyfarfod y Grŵp Craidd ar 14 Rhagfyr 2017;

·                  Y diweddaraf gan Swyddfa'r Comisiynydd mewn perthynas â'r BGC (llythyr dyddiedig 14 Rhagfyr 2017);

·                  Fersiwn derfynol o'r llythyr at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol;

·                  Y diweddaraf am gyllid Cyfoeth Naturiol Cymru 2018;

·                  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Adroddiad Llesiant Cymru 2016-17 yn ddiweddar sy'n rhoi'r diweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud yng Nghymru hyd yma o ran cyflawni'r nodau lles. Gellir dod o hyd i'r adroddiad a'r adnoddau cynorthwyol yma: http://gov.wales/statistics-and-research/well-being-wales/?skip=1&lang=cy

·                  Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cyhoeddi ei Adroddiad ar gyfer 2016-17 yn ddiweddar. Gellir dod o hyd i'r adroddiad, yn ogystal â gwybodaeth am Gynlluniau'r Comisiynydd ar gyfer y 12 mis nesaf, yma: https://futuregenerations.wales/cy/documents/adroddiad-blynyddol-2016-2017/

·                  Oherwydd bod y Cynllun Lles wedi cael ei gwblhau a chyda sgyrsiau am drefniadau gwaith rhanbarthol ar ddod, cafodd y Grŵp Craidd drafodaeth fer am fodelau llywodraethu posib eraill ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Cynllunnir proses i adolygu ac ystyried opsiynau eraill i wneud busnes y bwrdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr adroddiadau/y llythyrau er gwybodaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1.    cymeradwyo cofnodion cyfarfod Grŵp Craidd y BGC a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2018, yn amodol ar ddiwygiad i nodi bod Sandra Husbands yn cynrychioli ABM yn hytrach nag Iechyd Cyhoeddus Cymru; 

2.    nodi'r llythyrau a anfonwyd at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a'r llythyrau a dderbyniwyd oddi wrtho; a

3.    nodi'r diweddaraf am gyllid Cyfoeth Naturiol Cymru 2018.