Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 131 KB

To approve and sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.  

Cofnodion:

Cytunwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Grŵp Partneriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 19 Medi 2017 fel cofnod cywir.

21.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

22.

Y diweddaraf am gynnydd y cynllun lles a blaenoriaethau blaenorol y BGC 2016/17.

·         Cam-drin Domestig

·         Canol y Ddinas/Datblygu Economaidd

·         Annibyniaeth Pobl Hŷn

·         Dechrau Da mewn Bywyd

 

Cofnodion:

Adroddodd Chris Sivers fod y Cynllun Lles drafft wedi'i gwblhau, ei gyfieithu a'i ddosbarthu ar gyfer ymgynghoriad, a ddechreuodd ar 21 Tachwedd a byddai'n rhedeg tan 13 Chwefror 2018. Gofynnwyd i'r aelodau ymgynghori â'u rhwydweithiau, sefydliadau a rhanddeiliaid perthnasol eraill. Yn ystod y cyfnod hwn byddai'r gwaith yn parhau gyda'r Grŵp Cynllunio a'r Grŵp Craidd i ffurfio'r camau gweithredu mewn mwy o fanylder. Yna, byddent yn profi'r cynllun yn erbyn y nodau a’r ffyrdd o weithio yng nghyfarfod nesaf y bartneriaeth ym mis Ionawr 2018. Yna byddai’r cynllun drafft yn cael ei gwblhau a chytuno arno ym mis Mawrth gyda'r sefydliadau unigol yn ei gymeradwyo ym mis Ebrill a'i gyhoeddi ym mis Mai 2018.

 

Oherwydd cyfyngiadau amser yn y cyfarfod, byddai'r tasgau canlynol nawr yn cael eu hystyried gan Grŵp Cynllunio'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus:

 

-                  Asesiad Lles;

-                  Diagramau ysgogi yn y cynllun drafft;

-                  Canlyniadau'r blaenoriaethau presennol;

-                  Camau drafft presennol;

-                  Cyfraniad posib pob sefydliad;

-                  Nodi camau gweithredu perthnasol mewn dogfen fatrics.

 

Cytunwyd bod y partneriaid yn cyflwyno unrhyw syniadau/sylwadau ar  y Cynllun Lles drafft i Chris Sivers.

 

Roedd y noddwyr wedi rhoi'r diweddaraf ar lafar ar Brosiectau Blaenoriaethau'r BGC:

 

Canol y Ddinas/Datblygu Economaidd

 

Adroddodd Phil Roberts a Rob Stewart am:

 

Ganol y ddinas - Cynnydd ar safle'r arena'n mynd yn dda.  Byddai'r cais cynllunio'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ym mis Rhagfyr. Cynnydd â Ffordd y Brenin - mae cylchfan dros dro wedi ei ail gyflwyno ger y YMCA. Yn dilyn y Nadolig byddai mwy o newidiadau sylfaenol yn dechrau gan gynnwys dychwelyd traffig dwyffordd ar hyd Stryd Mansel/Stryd Walter. Byddai'r newidiadau hyn yn arwain at 3 llwybr mynediad ar wahân i ganol y ddinas. Roedd gwaith yn parhau ar y model busnes 5 achos.

 

Dinas Diwylliant – cynhaliwyd ymweliad y panel yn ddiweddar. Diolch i'r holl gydweithwyr/partneriaid sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith am eu holl waith caled.  Aethant i dderbyniad yn Nhŷ'r Cyffredin a gynhaliwyd gan Aelodau Seneddol a byddai tîm o 3 chynrychiolydd o Abertawe yn mynd i Hull ar 6/7 Rhagfyr. Byddai'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 8 Rhagfyr 2017 - byddai'n uchelgais go iawn i ddinas Abertawe.

 

Morlyn Llanw - mae cerdyn post enfawr wedi'i arwyddo wedi'i anfon at Swyddfa Cymru ar ei ffordd i Stryd Downing lle cyflwynwyd y ddeiseb er mwyn cefnogi'r Morlyn Llanw. Trefnwyd i bapur chwalu mythau gael ei anfon at yr holl Aelodau Seneddol yn amlinellu bod y morlyn llanw'n rhatach na niwclear a ffermydd gwynt alldraeth. Nododd Huwel Manley fod yna gyfyngiadau eraill a oedd angen eu hystyried o hyd, gan gynnwys adeiladu, trwyddedu'r broses adeiladu a bod angen profi'r wyddoniaeth derfynol o hyd.

 

Y Fargen Ddinesig - yn y broses o gadarnhau'r cytundeb cyfreithiol.  Gweithio ar fodel busnes 5 achos yn unol â Llywodraeth y DU. Gwaith ymchwilio i'r safle yn dal i fynd rhagddo. 

 

Canolfan Lles Canol y Ddinas - Darparodd Sharon Miller, Pennaeth Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd PABM, gyflwyniad ar y Ganolfan Lles arfaethedig. Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi noddi'r datblygiad o astudiaeth dichonoldeb, a oedd wedi'i chynnal gan Grŵp IBI dan y flaenoriaeth adfywio.

 

Amlinellodd y rhesymau pam bod angen y ganolfan:

 

-                  Nifer isel o bobl yn byw ac yn gweithio yn yr ardal ganolog:

Ø    Dirywiad yn nifer yr ymwelwyr (26%);

Ø    Anghydraddoldebau iechyd arwyddocaol;

Ø    Baich clefyd uchel;

Ø    Twf cynlluniedig mewn poblogaeth - myfyrwyr, Cynllun Datblygu Lleol, ceiswyr lloches;

Ø    Materion cynaladwyedd y gweithlu gofal iechyd;

Ø    Anheddau anaddas wedi dyddio.

 

I ddechrau, nodwyd 7 safle sydd wedi'i gyfyngu i 3, fodd bynnag nododd Grŵp IBI safle'r glannau fel safle posib ar gyfer y ganolfan newydd. Roedd ganddo'r potensial i osod adeilad 10,000 metr sgwâr, sy'n arwain at:

 

·                 Gyfleuster iechyd a lles hygyrch modern o'r radd flaenaf;

·                 Cydleoli ystod eang iawn o wasanaethau iechyd cymunedol, meddygfeydd teuluol lluosog - pediatreg, gwasanaethau deintyddol, lleferydd ac iaith, gwasanaethau iechyd rhyw, monitro INR, timau gofal iechyd a chymdeithasol integredig;

·                 Gwasanaethau lles - cydleoli gyda'r llyfrgell, y gwasanaethau lles meddwl, lle amlddefnydd, hwb arloesi 3ydd sector;

·                 Gwerth ychwanegol - sgiliau byw'n annibynnol (ymchwil ac arloesedd meddygol), cronfa ddoniau, academi hyfforddi meddyg;

·                 Cymunedau Digidol Cymru;

·                 A llawer o opsiynau eraill.

 

Nodir manteision y ganolfan fel:

 

·                 Swyddi gwybodaeth economaidd sy'n talu'n dda;

·                 Swyddi trefol;

·                 Mynd i'r afael â chynaladwyedd - helpu gyda recriwtio a chadw;

·                 Cynnydd yn yr amrywiaeth o wasanaethau cymunedol - gofal yn agosach at gartref;

·                 Cyfleusterau modern hygyrch - mynd i'r afael â'r gyfraith gofal fewnol;

·                 Lleihau anghydraddoldebau iechyd;

·                 Cyflymu camau gweithredu ar gyfer penderfynyddion cymdeithasol, e.e. cynhwysiad digidol;

·                 Integreiddio gwasanaethau ac agendau iechyd a lles yn well.

 

Penderfyniad y partneriaid oedd hi nawr i benderfynu ar lefel eu hymrwymiad, gydag un partner arweiniol yn gorfod bwrw ymlaen â'r 10/12 rhanddeiliaid allweddol.

 

Trafodwyd y meini prawf sgorio a ddefnyddir ar gyfer penderfynu ar leoliad y ganolfan ar y cyd â'r ffaith bod lleoliad mwy canolog yn cael ei ffafrio o ran hygyrchedd y defnyddwyr a chysylltiadau trafnidiaeth agosach. 

 

Cam-drin Domestig

 

Amlinellodd Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a'i Atal, Cyngor Abertawe, nodau'r llif gwaith, sef:

 

·                 Cydnabod ac ymateb i anghenion cymhleth unigolion oherwydd ffyrdd anhrefnus o fyw - canolbwyntio ar hyrwyddo ymgysylltu;

·                 Pobl â phroblemau Key 3 i gael mynediad i gefnogaeth addas/amserol;

·                 Lleihau nifer yr ailgyfeiriadau;

·                 Ymateb amlasiantaeth i ymyriadau, gofal a chefnogaeth integredig;

·                 Rhannu gwybodaeth yn effeithiol/hyrwyddo gweithio amlasiantaeth;

·                 Osgoi dyblygu

 

Mae'r canlyniadau hyd yn hyn wedi arwain at sefydlu Grŵp Llywio amlasiantaeth Key 3 er mwyn hyrwyddo a llywio ymateb cydlynol. Cytunwyd ar Brotocol Rhannu Gwybodaeth ac ymgysylltwyd â hwy gyda 30 o unigolion sy'n wynebu problemau Key 3 er mwyn cael profiad ac adborth. Mae llwybr atgyfeirio ar gyfer y broses ddarpariaeth wedi'i gyflwyno a chytuno arno. Mae sesiwn hyfforddiant amlasiantaeth/cynyddu ymwybyddiaeth ar gyfer 134 aelod o'r staff a sesiynau galw heibio amlasiantaeth wedi'u sefydlu fel ffordd effeithiol o annog unigolion sy'n anodd eu cyrraedd.

 

Byddai camau pellach yn parhau gyda phrosiect Key 3 er mwyn:

 

·                 Mewnosod gwaith partneriaeth amlasiantaeth;

·                 Cyflwyno pecyn hyfforddi ochr yn ochr â 'Hyfforddiant Gofyn a Gweithredu' mewn partneriaeth â PABM;

·                 Gweithredu'r llwybr i ddarpariaeth ar draws amlasiantaethau er mwyn osgoi dyblygu;

·                 Ehangu gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau'r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir drwy'r asiantaeth fwyaf addas;

·                 Ehangu cwmpas i weithio gyda'r sawl sy'n cyflawni trosedd a'r dioddefwyr;

·                 Cynyddu'r sylfaen dystiolaeth o'r angen i lywio trefniadau comisiynu yn y dyfodol.

 

Cytunwyd y byddai'r Protocol Rhannu Gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu ymhlith yr aelodau.

 

Annibyniaeth Pobl Hŷn

 

Heneiddio'n Dda - Darparodd Rachel Moxey ddiweddariad o ran nodau gweithio tuag at Gymuned sy'n Deall Dementia drwy ddatblygu Canol y ddinas sy'n gyfeillgar i oed gan ddefnyddio 'Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif' ar draws y prif bartneriaid, ehangu PDG sy'n cefnogi pobl ddiamddiffyn ac ymwybyddiaeth o waith Atal Cwympiadau presennol.

 

Hyd yma cydnabuwyd bod pob aelod craidd yn Ystyriol o Ddementia. Mae 7,500 o staff y sector cyhoeddus wedi'u hyfforddi i fod yn Ystyriol o Ddementia. Mae 'Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif' wedi'i gytuno yn barod i'w weithredu. Byddai gweithio gydag OPERAT yn bwydo i ddatblygiad canol y ddinas.  Bydd ehangiad o ran Cydlynwyr Ardaloedd Lleol gyda'r gobaith o ehangu ymwybyddiaeth o atal cwympiadau - thema allweddol 'Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif', a dilynir hyn gan fwy o ymgysylltu a chynnwys.

 

Mae'r camau gweithredu ychwanegol fel a ganlyn:

 

·                 Mapio sut rydym yn cynnwys dinasyddion a chytuno ar safonau cyfranogiad ar draws y sector cyhoeddus;

·                 Ymagweddau cydweithredol at iechyd a lles gweithlu'r sector cyhoeddus;

·                 Helpu cymunedau i gynyddu menter gwirfoddoli a mentora;

·                 Negeseuon ar y cyd, clir a chyson am fyw a heneiddio'n dda;

·                 Cyflwyno 'Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif' ar draws y BGC;

·                 Cynyddu'r gefnogaeth gydlynol ar gyfer cyflogaeth a dysgu ar gyfer pob cyfnod ym mywydau pobl.

 

Trafodwyd sut y byddai'r 5 ffordd o weithio'n adlewyrchu'r camau gweithredu a amlinellwyd uchod a modelau arfer da. Cadarnhawyd y byddent yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Comisiynu. 

 

Dechrau da mewn bywyd

 

Rhoddodd Sian Bingham, Rheolwr Cefnogi’r Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd, Cyngor Abertawe ddiweddariad ar 'Dechrau Gorau Abertawe'. 

 

Amlinellodd yr egwyddorion, yr ymagwedd gyffredinol drwy'r brif negeseuon, yr ymgyrch farchnata a chyhoeddusrwydd er mwyn cyflawni cyfranogiad, newid agwedd, mynediad i wybodaeth am ei fod yn fusnes i bawb.

 

Amlygwyd y cynnydd hyd yn hyn a oedd yn cynnwys ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol, cyflwynwyd 29 o sesiynau ymwybyddiaeth o'r gweithlu i asiantaethau gwahanol, cymerodd 630 aelod o staff o sefydliadau amrywiol ran, gan gynnwys Awdurdod Lleol, Iechyd, y trydydd sector a'r Gwasanaeth Tân.

 

Cafwyd dau brif brosiect:

 

1.               Jig-so – tîm amlddisgyblaeth ac amlasiantaeth integredig o fydwragedd, NNEBs ac ymarferwyr Datblygiad Iaith a Magu Plant ar gyfer cefnogi rhieni am y tro cyntaf dan 25 oed drwy gynnig cefnogaeth iddynt i'w galluogi i fodloni anghenion eu plentyn yn well a magu'r ffactorau gwydnwch sydd eu hangen er mwyn ffynnu fel teulu.

2.               Prosiect Gofal Sylfaenol Blynyddoedd Cynnar Penderi - prosiect peilot 12 mis wedi'i ariannu gan Rwydwaith Meddygon Teulu Penderi i gyflwyno sgiliau magu plant ac ymyriadau ar gyfer rhieni ifanc a'u rhieni drwy rwydwaith y meddygon teulu.

 

23.

Ymateb i lythyr Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. pdf eicon PDF 809 KB

Chris Sivers

Cofnodion:

Yn dilyn cais gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o ran sut y gallant gymryd camau i fodloni'r amcanion lles drafft, darparodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru lythyr cyngor 15 tudalen, a oedd hefyd yn cynnwys nifer o gamau gweithredu a argymhellir y gall y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eu hystyried.

 

Gofynnodd Chris Sivers am arweiniad gan y partneriaid am ymateb ar y cyd, sy’n canolbwyntio ar y penawdau canlynol:

 

·                 Yr hyn rydym yn credu ein bod yn ei wneud yn dda ar hyn o bryd/eisoes yn ei wneud;

·                 Meysydd rydym wedi canfod eu bod yn llai defnyddiol;

·                 Elfennau rydym wedi canfod eu bod yn arbennig o gynorthwyol/defnyddiol.

 

Roedd yr aelodau'n teimlo y dylai'r ymateb i'r Comisiynydd fod yn gadarn a dylai amlygu'r ffaith bod gwaith mewn perthynas â llawer o awgrymiadau'r llythyr eisoes yn cael eu gwneud gan y partneriaid.

 

Cytunwyd bod Chris Sivers yn llunio llythyr ymateb yn seiliedig ar y penawdau uchod ac yn ei ddosbarthu i aelodau'r Bwrdd am eu sylwadau, cyn ei anfon at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

24.

Dinas Hawliau Dynol. pdf eicon PDF 130 KB

Chris Sivers

Cofnodion:

Darparodd Chris Sivers nodyn briffio mewn ymateb i gais y cadeirydd am fwy o wybodaeth am esboniad o'r hyn yw Dinas Hawliau Dynol, gan ddefnyddio profiad dinas Efrog, a beth fyddai potensial Abertawe i fabwysiadu ymagwedd debyg yn ei gwaith.

 

Amlinellodd y nodyn briffio'r diffiniadau gwahanol, pwy oedd yn cymryd rhan, yr hyn maen nhw'n ei wneud a'r ystyriaethau ar gyfer Abertawe.

 

Gwnaed cyswllt cychwynnol â Dinas Hawliau Dynol Efrog gyda'r cynnig ei bod yn bresennol mewn cyfarfod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe yn y dyfodol. 

 

Cytunwyd bod Dinas Hawliau Dynol Efrog yn cael ei gwahodd i gyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y dyfodol.

25.

Strategaeth Cynnwys. pdf eicon PDF 126 KB

Joanne Portwood

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Andrew Davies (Vice Chair) Presided

 

Amlinellodd Jo Portwood ymagwedd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe at gyfranogaeth (cynnwys ac ymgynghoriad) yn dilyn cyhoeddiad ei gynllun lles.

 

Mae'r ymagwedd yn adeiladu ar y gwaith cynnwys ac ymgynghori yr ymgymerwyd ag ef cyn datblygu'r cynllun a'r amcanion drafft yn ystod y gweithdai ar gyfer rhandeilliaid a gynhaliwyd gan Alan Netherwood (Netherwood Sustainable Futures) a gomisiynwyd gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Mehefin ac ym mis Gorffennaf 2017.

 

Cytunwyd ar y canlynol:

 

1)       Y diffiniadau a'r defnydd o gysyniadau o'r fath - cyfranogaeth, ymgynghoriad, cynnwys a chyfranogiad - amlinellwyd yn y papur, at ddiben y cynllun lles;

 

2)       Safonau fel y mae safonau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar ymgynghori, at ddibenion y cynllun;

 

3)       Y cynllun gweithredu drafft a'i gynnwys fel cynllun gwaith ar gyfer gweithgareddau cyfranogaeth, gyda'r awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r grŵp cynllunio i gadarnhau'r manylion manylach. 

 

4)       Aelodau'r bartneriaeth i roi dolen i'r arolwg a'r cynllun lles ar dudalen hafan eu gwefan/unrhyw blatfform perthnasol arall (fel y cytunwyd gan y Grŵp Cynllunio ar 10 Hydref 2017), anfon cynrychiolwyr i'r diwrnod hyfforddi ar ymgynghori (wedi'i drefnu ar gyfer dydd Llun, 11 Rhagfyr), defnyddio fforymau a rhwydweithiau eu hunain i ymgynghori â'r cynllun (bydd deunyddiau ac adnoddau ar gael ar y diwrnod hyfforddi ac ar wefan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus), darparu gwybodaeth am ddigwyddiadau'r ymgynghoriad a drefnir a chanlyniadau unrhyw ymgynghoriad i sicrhau bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael trosolwg o bob gweithgaredd cyfranogiad.

 

26.

Adroddiadau er gwybodaeth. pdf eicon PDF 702 KB

·                 Lles yng Nghymru: Cynllunio heddiw ar gyfer gwell yfory https://futuregenerations.wales/wp-content/uploads/2017/07/FGCW_Well-being_in_Wales-Planning_today_for_a_better_tomorrow_2017FINALENG.pdf

 

·                 Cludiant Cymunedol: Cyflwyno lles ar gyfer y bobl.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd nodi'r adroddiadau 'er gwybodaeth' canlynol:

 

·       Lles yng Nghymru: Cynllunio heddiw ar gyfer gwell yfory;

·       Cludiant cymunedol: Cyflwyno lles i bobl Cymru.

27.

Unrhyw fater arall.

Cofnodion:

Esboniodd Phil McDonnell, Fforwm Amgylcheddol Abertawe, fod Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rownd derfynol Her Beiciau Prifysgolion Santander. Byddant yn cystadlu yn erbyn pedair prifysgol arall yn y DU mewn ymgyrch cyllido torfol, a fyddai'n dod â chynllun llogi beiciau i Abertawe os yn fuddugol.

 

Y ddwy brifysgol fuddugol fyddai'r ddwy sy'n codi'r ganran uchaf o arian dros ben eu targedau gwreiddiol a byddent yn derbyn gwerth £100,000 o gyfarpar ac isadeiledd yr un er mwyn sefydlu cynllun rhannu beiciau i'w cymuned.

 

Gofynnodd i'r holl bartneriaid gymryd rhan ac i wneud addewid i helpu i ddod â'r cynllun beicio gwych hwn i Abertawe.

 

Roedd taflenni gyda gwybodaeth bellach ar gael i bartneriaid ar ddiwedd y cyfarfod.