Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

17.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

18.

Cofnodion. pdf eicon PDF 233 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiadau canlynol: -

 

Ychwanegu enwau'r Cynghorwyr C Richards a K Roberts at y rhestr o ymddiheuriadau.

 

Cofnod Rhif 12 - Comisiwn Gwirionedd Tlodi - rhoi 'grŵp cychwyn' yn lle 'Grŵp Tasg a Gorffen, a newid Mr A Gravell i Mr Grinnell.

19.

Cyflwyniad - Tai Teuluoedd: Cynllun "Cynnwys Tenantiaid" - Gwaith ar Lythyrau.

Cofnodion:

Hysbyswyd y pwyllgor gan Jo Ashford a Paul Burge o Tai Teulu ynghylch y broses graffu yr ymgymerwyd â hi o ran diwygio cynnwys y llythyrau a anfonwyd gan eu sefydliad.  Dosbarthwyd enghreifftiau defnyddiol o'r llythyrau i'r pwyllgor:

 

Amlinellwyd y pwyntiau canlynol: -

 

·         Roedd y tîm craffu wedi nodi bod y llythyrau a oedd yn cael eu hanfon yn ymosodol/llym o ran eu naws ac argymhellwyd ymagwedd fwynach:

·         Roedd rhai llythyrau wedi'u hysgrifennu flynyddoedd ynghynt; roeddent yn ymosodol ac yn cynnwys gwallau ond roedd staff wedi'u copïo ers blynyddoedd lawer;

·         Archwiliwyd 134 o lythyrau gan Tai Teulu.  Roedd angen gwneud mân newidiadau i 35 o lythyrau a rhoddwyd y newidiadau arfaethedig i adrannau unigol, gan dderbyn bod y newid yn angenrheidiol.

·         Nid oedd llythyrau a anfonwyd yn flaenorol yn cydnabod anableddau rhai unigolion e.e. ni all y rheiny ar y sbectrwm awtistig ddarllen inc coch/brawddegau llawn priflythrennau;

·         Roedd y llythyrau a luniwyd ar ôl y broses graffu mewn iaith glir ac yn esbonio'n glir i'r tenant pam yr anfonwyd y llythyr.

 

Dosbarthwyd rhai o'r llythyrau a luniwyd gan yr awdurdod. Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Pwysigrwydd ymgynghori'n iawn â dinasyddion a'u cynnwys mewn unrhyw newidiadau arfaethedig, a gwreiddio polisi y mae dinasyddion yn ganolog iddo.

·         Cydnabod y ffaith nad yw llawer o unigolion yn agor llythyrau sy'n ymddangos yn swyddogol a nodi dulliau amgen o gyfathrebu â dinasyddion;

·         Sicrhau bod dinasyddion yn deall cynnwys y llythyrau;

·         Defnyddio'r enghraifft dda o sut mae Tai Teulu wedi newid eu llythyrau/sut maent yn ymdrin â thenantiaid;

·         Cydnabod y dasg enfawr a wynebir gan yr awdurdod wrth adolygu llythyrau a anfonir gan yr holl adrannau;

·         Yr angen i lythyrau fod mewn iaith glir i egluro pam y cawsant eu hanfon; ni ddylent fod yn ddatganiad ariannol yn unig, a dylent gynnwys rhestr termau

·         Sut roedd lefelau ôl-ddyledion wedi gostwng o ganlyniad i'r llythyrau diwygiedig/creu swydd benodol i ymdrin â'r mater;

·         Cydnabod pwysigrwydd cysondeb ar draws yr awdurdod;

·         Sefydlu gofynion deddfwriaethol ar gyfer llythyrau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr Tai Teulu am ddod i'r cyfarfod.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Sefydlu gweithgor i archwilio llythyrau a gyhoeddir gan yr awdurdod;

2)    Y bydd y gweithgor yn cwrdd â'r Rheolwr Refeniw a Budd-daliadau i drafod y 5 llythyr a gyhoeddir fwyaf gan y gwasanaeth.

20.

Cyflwyniad - Achrediad Cyflog Byw.

Cofnodion:

Rhoddodd Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol, gyflwyniad i'r pwyllgor ar yr Achrediad Cyflog Byw.

 

Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys Cyfraddau Cyflogau'r DU a oedd yn amlinellu manylion yr isafswm cyflog, y cyflog byw cenedlaethol a'r cyflog byw gwirioneddol  a hefyd sut yr effeithir ar weithwyr a gweithwyr asiantaeth yng Nghyngor Abertawe. 

 

Trafododd y pwyllgor: -

 

·         Nifer y cynghorau yng Nghymru/y DU a oedd yn gyflogwyr y cyflog byw;

·         Y cyngor yn cael ei achredu pe bai'n talu ei weithwyr ei hun

·         Posibilrwydd nodi mewn dogfennau contract fod yn rhaid i gontractwyr dalu'r cyflog byw i'w gweithwyr;

·         Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, gwobrwyo cwmnïau sydd yn talu'r Cyflog Byw ac eglurhad ynghylch yr achrediad os nad yw contractwyr yn talu'r Cyflog Byw i'w gweithwyr;

·         Rheolau ynghylch ôl-ddyddio/peidio ag ôl-ddyddio taliadau Cyflog Byw;

·         Y bwlch rhwng y Cyflog Byw gwirioneddol a gwaelod graddfeydd cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol;

·         Sut roedd awdurdodau lleol nad oeddent wedi ymrwymo i'r achrediad yn aelodau o gyrff eraill;

·         Sut roedd yr awdurdod wedi hepgor cyfraddau cyflog is yn flaenorol;

·         Cyhoeddiad y Llywodraeth y byddai'r Cyflog Byw yn cynyddu i £10.50 yr awr i bob gweithiwr dros 21 oed, sut roedd hyn yn cymharu â'r Cyflog Byw Gwirioneddol, sut y byddai'n cael ei ariannu gan y Llywodraeth a sut byddai cyfraddau cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol yn mynd bob yn gam â'r newidiadau;

·         Goblygiadau cost gwerth £5m pe bai'r awdurdod yn talu'r Cyflog Byw;

·         Posibilrwydd gofyn i sefydliadau partner y BGC ymrwymo i'r Cyflog Byw.

 

Gofynnwyd i Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol ddiweddaru'r Pwyllgor ar y materion a drafodwyd.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Y bydd y Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol yn darparu adroddiad diweddaru yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd.

21.

Tlodi Bwyd: Y Diweddaraf am waith y Trydydd Sector. (Llafar)

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd fod Fareshare wedi bod yn trafod â'r awdurdod ynghylch  defnyddio meysydd parcio'r cyngor fel rhan o'u model newydd.  Eglurodd diben a nod Farshare a oedd yn casglu bwyd dros ben gan gynhyrchwyr, gan gynnwys cynnyrch ffres.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi fod cwmnïau â diddordeb, a bod cydweithwyr yn yr adrannau hamdden a meysydd parcio yn gadarnhaol iawn ynghylch y cynigion.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Y ffaith bod Ceiswyr Lloches Abertawe wedi colli arian grant sylweddol a diffyg lle storio bwyd;

·         Y gwahaniaeth rhwng Fareshare a banciau bwyd, h.y. mae Fareshare hefyd yn darparu cynnyrch ffres;

·         Datblygiadau'n ymwneud â'r Gynghrair Tlodi Bwyd.

 

Penderfynwyd y bydd Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi'n darparu diweddariad am Fareshare a'r gynghrair Tlodi Bwyd yn y cyfarfod nesaf a drefnir.

22.

Cyflwyniad - Polisi Dyled Corfforaethol.

Cofnodion:

Rhoddodd Jo Portwood, y Swyddog Strategaeth a Pholisi, gyflwyniad ar ddatblygu Polisi Dyled Corfforaethol a helpu aelwydydd â lefelau uchel o ddyled.

 

Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: -

 

·         Y rhesymeg;

·         Arfer da - cefnogi aelwydydd ag incwm isel a chanddynt lefelau dyled uchel;

·         Beth yw Polisi Dyled Corfforaethol;

·         Cwmpas Polisi Dyled Corfforaethol;

·         Defnyddio Polisi Dyled Corfforaethol;

·         Buddion Polisi Dyled Corfforaethol;

 

Dywedodd y Cadeirydd fod llawer o enghreifftiau gweithredol yn y DU a chynigiodd fod y pwyllgor yn archwilio cyn-strategaeth Dyled Deg y cyngor ar gyfer 1999-2007. Ychwanegodd mai'r prif bwrpas oedd casglu dyled mewn ffordd wahanol, gan wneud i bobl deimlo eu bod yn rhan o'r broses fel eu bod yn gweithio gyda'r awdurdod mewn ffordd adeiladol.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol: -

 

·         Byddai datblygu Polisi Dyled Corfforaethol ar y cyd â dinasyddion yn neges glir am ymrwymiad yr awdurdod;

·         Mae'r modd y mae'r awdurdod yn cyfathrebu'n ehangach â phobl ynghylch dyled yn bwysig; 

·         Gweithio gydag Undebau Credyd/ Cyngor ar Bopeth;

·         Canolbwyntio ar ddyled bersonol a'i chasglu mewn ffordd deg a llawn parch.

 

Penderfynwyd:  -

 

1)    Nodi cynnwys y cyflwyniad;

2)    Y bydd y pwyllgor yn bwrw ati i ddatblygu Polisi Dyled Corfforaethol;

3)    Y deuir o hyd i gyn-Strategaeth Dyled Deg y cyngor ar gyfer 1999-2007 i gynorthwyo â'r trafodaethau.

23.

Comisiwn Gwirionedd Tlodi. (Llafar)

Cofnodion:

Adroddodd Amy Hawkins, Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi, y byddai CGGA Abertawe yn cynnal y Comisiwn Gwirionedd Tlodi ac y byddai 2 is-grŵp yn cael eu creu i ymdrin ag ariannu a chyfathrebu.  Byddai manylion yn cael eu cylchredeg i'r pwyllgor.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

24.

Adborth Gan y Fforwm Tlodi Mewnol. (Llafar)

Cofnodion:

Adrodd Rheolwr y Gwasanaeth Trechu Tlodi am y cynnydd gan y Fforwm Tlodi Mewnol.  Ychwanegodd sut roedd y fforwm yn edrych ar gyflogadwyedd, ysgolion, hyfforddiant, cyflogaeth, mwyafu buddion, sut gall pobl ymuno â'r awdurdod, y defnydd o ddata, y cynnig gofal plant, rhieni sengl a chredyd pensiwn.

 

Gwnaeth y pwyllgor sylw ar yr angen i gynnwys dinasyddion yn llawn ac ymgynghori â hwy'n iawn er mwyn cael y safbwynt cywir.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd fod y Fforwm Tlodi'n ymchwilio i ddatblygu Cynllun Gweithredu Tlodi a byddai swyddogion sy'n gweithio'n agos gyda'r cyhoedd yn archwilio sut bydd y Comisiwn Gwirionedd Tlodi yn mynd ati i gyfeirio camau gweithredu'r Fforwm.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y diweddariad.

25.

Cynllun Gwaith 2019-2020. pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y cynllun gwaith diweddaredig 'er gwybodaeth’.