Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2018 fel
cofnod cywir. |
|
Cyflwyniad - Y Diweddaraf ar Ddinas Hawliau Dynol (DHD). Dr
Simon Hoffman, Prifysgol Abertawe. Cofnodion: Rhoddodd Dr Simon
Hoffman, Athro Cyswllt, Prifysgol Abertawe,
gyflwyniad ar y diweddaraf am statws Dinas Hawliau Dynol. Rhoddodd gefndir
y gwaith yr oedd wedi'i gyflawni a phwysleisiodd yr angen i gael canlyniadau
gweladwy ac amcanion tymor hir. Ychwanegodd fod y gwaith yn ymwneud yn bennaf â
hawliau cymdeithasol mewn cyd-destun Cymreig a bu'n ymwneud â chynnwys a
chyfranogiad. Cyfeiriodd at y
gwaith yr oedd wedi'i wneud ar ran Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, yn enwedig
sefydlu Grŵp Llywio a Chynllun Cyflawni. Canolbwyntiodd ar gynnwys y
Datganiad o Fwriad a'r Cynllun Cyflawni a dywedodd y byddai'n hapus i roi
diweddariad i gyfarfod yn y dyfodol. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau ynghylch y cyflwyniad, ac ymatebwyd iddynt yn briodol.
Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Amserlen
Abertawe i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol; ·
Y
gallu oedd ei angen i Abertawe ddod yn Ddinas Hawliau Dynol; ·
Sut i
ddatblygu materion drwy'r cyngor, y BGC a grwpiau dan
anfantais; ·
Cysylltu
â materion/grwpiau cydraddoldeb; ·
Enghreifftiau
o ddinasoedd eraill, e.e. Efrog; ·
Yr
angen i statws Dinas Hawliau Dynol weithio i bawb. Diolchodd y
Cadeirydd i Dr Simon Hoffman am ddarparu'r
cyflwyniad. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys y cyflwyniad; 2)
Gwahodd
Dr Simon Hoffman i ddarparu diweddariad pellach yng
nghyfarfod y pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 27 Mawrth 2019. |
|
Ymatebion Cadarnhaol i Egwyddorion Diwygio Lles. (Trafodaeth) Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y cyflwyniad a ddarparwyd gan Rachel Moxey yn y cyfarfod blaenorol
ynghylch Ymatebion Cadarnhaol i Egwyddorion Diwygio Lles. Cyfeiriodd at y
canlynol a oedd yn rhan o’r cyflwyniad a dywedodd fod ymwybyddiaeth gan
gynghorwyr a'r cyhoedd yn bwysig: - ·
Polisi
defnydd data mewnol. ·
Cefnogaeth
ariannol - y rhai y mae angen iddynt leihau dyledion rhent, gan leihau'r posibilrwydd
o droi allan (Tai Coastal ac Abertawe). ·
Clustnodi
aelwydydd lle na fyddai'r trydydd plentyn/plant dilynol yn derbyn Credydau
Treth Plant bellach. ·
Clustnodi'r
teuluoedd sydd mewn perygl. ·
Cynghorwyr
yn nodi pobl yn eu ward y gallent eu helpu. Mynegodd y
pwyllgor bryder bod y Pennaeth Tlodi a'i Atal yn gadael yr awdurdod yn fuan a
gofynnodd am eglurder ynghylch dyfodol y swydd. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys y trafodaethau; 2) Y bydd y Cadeirydd, ar ran y pwyllgor, yn ysgrifennu at Aelod y Cabinet i geisio eglurder ynghylch swydd Pennaeth Tlodi a'i Atal. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019. PDF 105 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2018-2019. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Gofal
Plant Estynedig - derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd. ·
Abertawe'n Gweithio a'r Fargen Ddinesig – rhoi’r cyflwyniad
ar y cyd yng nghyfarfod mis Chwefror. ·
Y
Diweddaraf am statws Dinas Hawliau Dynol - Dr Simon Hoffman
yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i gyfarfod mis Mawrth. ·
Benthyca
Llog Uchel - Penderfynu faint mae'r cyhoeddusrwydd ychwanegol wedi gweithio. ·
Cynllun
Rhoi'n Gall - Llythyr drafft i'w ddosbarthu i'r pwyllgor ar gyfer
sylwadau/cytundeb. Penderfynwyd: - 1)
Dylid
nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Y
bydd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn penderfynu pwy fydd yn mynd i'r cyfarfod
nesaf i roi diweddariad ynghylch Gofal Plant Estynedig; 3)
Rhoi’r
cyflwyniad ynghylch Abertawe'n Gweithio a'r Fargen
Ddinesig yng nghyfarfod mis Chwefror; 4)
Y
bydd Dr Simon Hoffman yn darparu'r diweddaraf am
statws Dinas Hawliau Dynol yng nghyfarfod mis Mawrth; 5) Dosbarthu llythyr drafft y Cynllun Rhoi'n Gall i'r pwyllgor am sylwadau/gytundeb. |