Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2021 fel cofnod cywir. |
|
Hyrwyddo Polisi Credyd Fforddiadwy. PDF 235 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd cytuno ar y polisi a'i anfon at yr Aelod Cabinet/ Cabinet i'w gymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd Amy
Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, adroddiad ar
ran y Cadeirydd a oedd yn ceisio mabwysiadu polisi a oedd yn gwreiddio’r gwaith
o hyrwyddo credyd fforddiadwy. Amlinellwyd bod y
Pwyllgor Datblygu Polisi (PDP) Lleihau Tlodi wedi archwilio'r mater o Fenthyca
Cost Uchel yn ystod Blwyddyn Ddinesig 2018-19 a chytunodd i ddatblygu Polisi
Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy a oedd yn amcanu rhoi terfyn ar dargedu Credyd Cost
Uchel, atal Benthyca Cost Uchel a hyrwyddo mynediad at Gredyd Teg a Fforddiadwy
i holl breswylwyr Abertawe. Byddai
datblygu Polisi Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy yn helpu i sicrhau bod yr ymagwedd
yn rhan annatod o fframwaith polisi'r cyngor. Ychwanegwyd bod
benthyca'n anghenraid i lawer o bobl ar incwm isel, er mwyn cael 'dau ben
llinyn ynghyd' neu o ganlyniad i adegau prysur fel y Nadolig, neu adegau anodd
fel profedigaeth. Roedd pandemig COVID-19 hefyd wedi effeithio’n anghyfartal ar
aelwydydd incwm isel, gan arwain at gynnydd yn nifer y bobl ac aelwydydd sy'n
defnyddio credyd i dalu am hanfodion bob dydd fel bwyd, dillad a
chyfleustodau. At hynny, cyn pandemig COVID-19, amcangyfrifodd elusen ddyledion StepChange fod 8.8 miliwn o bobl yn defnyddio credyd cost
uchel ar gyfer costau cadw tŷ beunyddiol.
Roedd cwmnïau credyd cost uchel yn aml yn targedu'r rheini sydd o bosib
â chredyd gwael ac chadernid ariannol isel.
Mae hyn yn aml yn arwain at ddyled, diffygdalu ac ansolfedd,
oherwydd gallai preswylwyr gymryd gormod o Gredyd Cost Uchel. Roedd nifer o breswylwyr a dargedwyd gan
ddarparwyr credyd cost uchel hefyd yn agored i niwed ac mae gan y cyngor
ddyletswydd i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i wneud dewisiadau benthyca
gwybodus. Esboniwyd bod
fersiwn ddrafft o'r Polisi Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy, sydd ynghlwm wrth
Atodiad A, wedi'i chyflwyno i'r Tîm Rheoli Corfforaethol ar 4 Tachwedd 2020 lle
cytunwyd y gallai datblygiad y polisi symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus,
cyn iddo gael ei gyflwyno gerbron y Cabinet a'i fabwysiadu fel polisi'r cyngor.
Hysbyswyd y
Pwyllgor fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y Polisi Hyrwyddo Credyd
Fforddiadwy wedi'i lansio ar 26 Ebrill 2021 ac fe'i cynhaliwyd am gyfnod o
bedair wythnos gan ddod i ben ar 23 Mai 2021. Ystyriwyd yr ymatebion i'r
ymgynghoriad a chymerwyd camau pellach i ymgysylltu â'r Undeb Credyd yn
Abertawe. Croesawodd y
Pwyllgor yr adroddiad a thynnodd sylw at yr angen i newid agweddau at undebau
credyd ac annog y defnydd ohonynt. Penderfynwyd cytuno ar y polisi a'i anfon at yr Aelod Cabinet/ Cabinet i'w gymeradwyo. |
|
Polisi Adennill Dyledion Personol Corfforaethol. PDF 237 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd: - 1)
Y caiff gweddill y gwasanaethau sy'n casglu dyled
bersonol eu gwahodd i ddrafftio adrannau pellach i'r polisi drafft sy'n
adlewyrchu sut y caiff egwyddorion y polisi eu defnyddio yn eu meysydd
gwasanaeth; 2) Y caiff gwelliannau pellach eu dosbarthu
i'r Pwyllgor er mwyn iddynt wneud sylwadau arnynt. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion adroddiad drafft a oedd yn ceisio
mabwysiadu polisi a oedd yn gwreiddio ymagwedd gorfforaethol at gasglu dyledion
personol. Esboniwyd bod y
Polisi Adennill Dyledion Personol Corfforaethol drafft a ddarparwyd yn Atodiad A
yn nodi sut y byddai Cyngor Abertawe'n gweithio
gyda'i gwsmeriaid a'i bartneriaid i gasglu dyledion personol a'r hyn y byddai'n
ei wneud i helpu'r rheini sydd mewn dyled. Ychwanegwyd bod
dyled yn cael ei diffinio fel 'unrhyw swm sy'n ddyledus nad yw wedi'i dalu
erbyn y dyddiad y mae'r taliad yn ddyledus' ac mae'r polisi'n cwmpasu'r holl
ddyledion personol sy'n ddyledus i'r cyngor. Pwysleisiwyd
pwysigrwydd cynnal incwm y cyngor, ynghyd â chydnabod y gallai ymgysylltu'n
gynnar â'r rheini sydd mewn perygl o ddyled neu sydd mewn dyled atal dyledion
rhag gwaethygu, lleihau dyled a chynyddu gallu dinasyddion i gyflawni’u
cyfrifoldebau ariannol. Nodwyd bod y
cyngor wedi ceisio datblygu polisïau i adlewyrchu ffyniant economaidd a sut mae
cwsmeriaid yn gwybod y bydd y cyngor yn helpu pobl â phryderon ariannol i gael
cymorth diduedd ac am ddim os oedd angen cymorth arnynt. Roedd
gwasanaethau ar draws y cyngor sy'n casglu dyledion personol heb eu talu wedi
rhoi adborth cychwynnol ar y Polisi Adennill Dyledion Personol Corfforaethol
drafft, gan gynnwys yr egwyddorion arweiniol a oedd wedi'u datblygu. Cynhaliwyd gweithdy gyda Swyddogion Rhenti
Tai a'r adran Treth y Cyngor ac wedi hynny gofynnwyd i'r gwasanaethau hyn
ddarparu cynnwys drafft priodol mewn perthynas â'u gwasanaethau. Y gobaith oedd y byddai cynnydd yn cael ei
wneud yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Soniodd y
Pwyllgor am yr angen am gynnydd er mwyn i'r polisi gael ei fabwysiadu a chynigiwyd, er mwyn cyflymu'r broses, y dylid dosbarthu
gwelliannau pellach i'r Pwyllgor i gael sylwadau arnynt. Penderfynwyd: - 1)
Y caiff gweddill y gwasanaethau sy'n casglu dyled
bersonol eu gwahodd i ddrafftio adrannau pellach i'r polisi drafft sy'n
adlewyrchu sut y caiff egwyddorion y polisi eu defnyddio yn eu meysydd gwasanaeth; 2) Y caiff gwelliannau pellach eu dosbarthu
i'r Pwyllgor er mwyn iddynt wneud sylwadau arnynt. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022. PDF 126 KB Penderfyniad: Penderfynwyd: - 1)
nodi
cynnwys y Cynllun Gwaith diweddaredig; 2)
trafod
y Polisi Tyfu Bwyd Cymunedol yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 24 Ionawr
2022; 3) darparu map sy'n amlinellu'r holl dir sydd ar gael y gellid ei ddefnyddio ar gyfer tyfu bwyd o fewn yr Awdurdod; 4) cynnwys adran ar Rannu Gerddi yn y Polisi. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith diweddaredig ar gyfer
2021-2022. Cynigiodd y dylid trafod y Polisi Tyfu Bwyd Cymunedol yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 24 Ionawr 2022. Ychwanegodd y byddai map o'r holl dir y gellid ei ddefnyddio ar gyfer tyfu bwyd o fewn yr Awdurdod yn helpu’r trafodaethau. Yn ogystal, gofynnodd i adran ar Rannu Gerddi gael ei chynnwys yn y Polisi. Penderfynwyd: - 1) nodi cynnwys y Cynllun Gwaith diweddaredig; 2) trafod y Polisi Tyfu Bwyd Cymunedol yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 24 Ionawr 2022; 3) darparu map sy'n amlinellu'r holl dir sydd ar gael y gellid ei ddefnyddio ar gyfer tyfu bwyd o fewn yr Awdurdod; 4) cynnwys adran ar Rannu Gerddi yn y Polisi. |