Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021 fel cofnod
cywir. |
|
Datblygu Polisi Adennill Dyled Personol Corfforaethol a'r camau nesaf. (Llafar) (Anthony Richards) Penderfyniad: Penderfynwyd: - 1) Dylid nodi
cynnwys y diweddariad; 2) Mae cyfarfodydd Pwyllgor y Dyfodol yn cychwyn
am 3p.m., yn amodol ar Gynghorwyr
absennol hefyd yn cytuno i'r newid; 3) Darparu cyflwyniad yn y
cyfarfod nesaf a drefnwyd ynghylch gweithdrefnau maes
gwasanaeth sy'n ymwneud â'r holl ddyled
bersonol sy'n ddyledus i'r
Awdurdod; 4) Mae'r Rheolwr Strategaeth a Datblygu Tlodi ac Atal yn trefnu sesiwn gweithdy yn syth ar ôl i'r cyfarfod nesaf a drefnwyd ddod i ben. Cofnodion: Rhoddodd Anthony
Richards, Rheolwr Strategaeth a Datblygiad Tlodi a'i Atal ddiweddariad llafar
ynghylch datblygu Polisi Adennill Dyledion Personol Corfforaethol a'r camau
nesaf. Amlinellwyd y
cynhaliwyd sesiwn weithdy ym mis Awst a chysylltwyd â gwasanaethau ar draws yr
Awdurdod i roi adborth ynghylch eu trefniadau adennill dyledion presennol. Ychwanegwyd bod nifer o feysydd gwasanaeth
wedi darparu adborth, gan gynnwys sylwadau gan y Gwasanaethau Cyfreithiol ar y
broses o adennill dyledion. Y camau nesaf
fyddai edrych ar y manylion a ddarparwyd gan bob maes gwasanaeth a gweithio ar
egwyddorion darparu polisi a chymorth ar draws yr Awdurdod cyfan. Gofynnodd y
Cadeirydd a fyddai modd i gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol ddechrau am 3pm er mwyn
caniatáu i gyfarfodydd gweithgor gael eu cynnal yn syth ar ôl i gyfarfod y
Pwyllgor ddod i ben. Ychwanegwyd bod yn
rhaid i holl Aelodau'r Pwyllgor gytuno i'r newid amser. Ychwanegodd hefyd
y dylid gwneud cyflwyniad yn y cyfarfod nesaf a fydd yn edrych ar
weithdrefnau'r maes gwasanaeth ynghylch yr holl ddyled bersonol sy'n ddyledus
i'r Awdurdod. Byddai'r Pwyllgor hefyd yn
edrych ar enghreifftiau o arfer gorau. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf; 2)
Bydd
cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol yn dechrau am 3pm., yn amodol ar Gynghorwyr
sy'n absennol hefyd yn cytuno i'r newid; 3)
Bydd
y Rheolwr Strategaeth a Datblygiad Tlodi a'i Atal yn trefnu sesiwn weithdy yn
syth ar ôl i'r cyfarfod nesaf a drefnwyd ddod i ben, i drafod y pwnc hwn. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a thrafod y mater ymhellach mewn cyfarfodydd gweithdy / Pwyllgor yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd Jane
Storer, Uwch-gynghorydd Hawliau Lles, adroddiad 'er gwybodaeth' am y problemau
o ran hawlio budd-daliadau, y rhesymau dros dan-hawlio, enghraifft o waith a
wnaed yn y gorffennol i gynyddu'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau, ymgyrchoedd
cyfredol, nodi blaenoriaethau yn y dyfodol o ran cynyddu'r nifer sy'n hawlio
budd-daliadau a sut y gallai'r Pwyllgor gefnogi'r gwaith hwn yn y dyfodol. Amlinellwyd bod y
Pwyllgor wedi nodi'r angen i gynyddu'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau yn
Abertawe. Nod cynyddu nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau oedd sicrhau bod
pobl yn hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo ac yn cynyddu incwm eu cartref. Darparwyd yr adroddiad a roddwyd i'r Pwyllgor
ym mis Chwefror 2021 yn Atodiad 1. Nododd yr
adroddiad y problemau o ran hawlio budd-daliadau gan gynnwys: - ·
Pobl
sydd â diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o'r system fudd-daliadau; ·
Staff
yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cael eu hyfforddi yn y meysydd maent yn
gweithio ynddynt yn unig, a'u diffyg gwybodaeth gyffredinol; ·
Mae
pobl sy'n cysylltu â chanolfan alwadau'r Adran Gwaith a Phensiynau yn aml yn
cael y cyngor anghywir, gan gredu nad oes ganddynt hawl i unrhyw fudd-daliadau
pan fo'r gwrthwyneb yn wir; ·
Roedd
yr hawl yn dibynnu ar amgylchiadau unigolyn ac roedd yn aml yn gymhleth; ·
Sefydliadau
sy'n cynnig mynediad at gyngor diduedd am ddim yn cael eu llethu gan nifer y
ceisiadau; ·
Y
newidiadau cyson sy'n cael eu gwneud i'r system fudd-daliadau, hawliau hawlwyr
i fudd-daliadau yn newid, ac amgylchiadau newidiol sy'n effeithio ar hawlogaeth, nad yw hawlwyr budd-daliadau'n sylweddoli bod y
rhain yn cael effaith. Amlinellodd yr
adroddiad graddau'r tan-hawlio a'r rhesymau dros hyn; yr hyn sy'n gweithio, gan
gynnwys cymorth un-i-un wedi'i deilwra; beth oedd yn digwydd ar hyn o bryd, gan
gynnwys yr ymgyrch hawlio Credyd Pensiwn ac ymgyrchoedd hawlio eraill. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Amlygu'r
materion gyda sefydliadau lleol / Cynghorau Tref a Chymuned a chynnwys manylion
ar eu gwefannau / cylchlythyrau / cyfryngau cymdeithasol; ·
Sicrhau
bod pobl yn hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo a bod Cydlynwyr Ardaloedd
Lleol (LAC) yn cefnogi unigolion mewn cymunedau; ·
Adolygu'r
strategaeth bresennol a datblygu polisi'r cyngor; ·
Gwaith
presennol yr Uned Hawliau Lles, y dulliau y maent yn eu defnyddio a'r diffyg
adnoddau sydd ar gael; ·
Y
posibilrwydd o dynnu sylw at wybodaeth Credyd Pensiwn gyda biliau blynyddol
Treth y Cyngor; ·
Cylch
gwaith CALl – i wneud pobl yn fwy dyfeisgar; ·
Opsiynau
sydd ar gael i'r Pwyllgor i ddatblygu materion, gan gynnwys cael cwmpas gan yr
Aelod Cabinet. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddog am yr adroddiad a dywedodd y byddai'n trafod y mater
ymhellach gyda'r Aelod Cabinet. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a thrafod y
mater ymhellach mewn cyfarfodydd gweithdy/Pwyllgor yn y dyfodol. |
|
Tegwch mewn Iechyd Gwyrdd. (Deb Hill) PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd: - 1) Cymeradwyo'r opsiwn polisi hybrid; 2) Adrodd am ddiweddariad ar gynnydd i'r cyfarfod nesaf. Cofnodion: Cyflwynodd Deb Hill,
Arweinydd y Tîm Cadwraeth Natur, adroddiad a oedd yn ceisio ystyried yr
opsiynau mewn perthynas â'r camau nesaf o ddatblygu polisi Tegwch mewn Iechyd
Gwyrdd. Amlinellwyd bod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi (PDC) ym mis Medi 2019 wedi penderfynu
datblygu Polisi Tegwch mewn Iechyd Gwyrdd (a elwid gynt yn Bolisi Iechyd
Gwyrdd). Datblygwyd polisi drafft gan
weithgor y Pwyllgor a gafodd ei lywio gan ymchwil a'r sylfaen dystiolaeth
ehangach am fanteision yr amgylchedd naturiol a'i effaith o ran mynd i'r afael
ag anghydraddoldebau iechyd a lles, cyflwyniadau gan siaradwyr allanol fel
Cyfoeth Naturiol Cymru a thrafodaethau parhaus. Ychwanegwyd mai
prif nod y polisi oedd hyrwyddo'r ddarpariaeth isadeiledd gwyrdd o ansawdd
uchel a mannau gwyrdd naturiol mewn cymdogaethau difreintiedig, er mwyn gwella
anghydraddoldebau iechyd a lles a chynyddu'r gallu i wrthsefyll newid yn yr
hinsawdd. Awgrymodd y polisi drafft y
gallai'r cyngor hyrwyddo tegwch mewn iechyd gwyrdd mewn nifer o ffyrdd a thrwy
ystod eang o weithgareddau e.e. plannu coed, rheoli gwrychoedd ac ymylon,
gwella ansawdd a mynediad i barciau, bywyd gwyllt a gwarchodfeydd natur,
sicrhau bod systemau draenio cynaliadwy yn bodoli a chymryd camau i leihau
llygredd aer. Amlygwyd sut yr
oedd yr adroddiad yn cyd-fynd â pholisïau presennol y cyngor, a ddylid
mabwysiadu'r polisi fel polisi annibynnol, wedi'i integreiddio fel amcan i
strategaethau a chynlluniau presennol, neu fel polisi a fabwysiadwyd fel polisi
hybrid byr a gyflwynwyd ac a adroddwyd drwy gynlluniau a strategaethau
presennol. Nodwyd, ni waeth
pa opsiwn y cytunwyd arno, bod cafeat bod angen i degwch gwyrdd fod yn un o
gyfres o feini prawf a ddefnyddiwyd i farnu prosiectau/ymyriadau, gan gynnwys
cysylltedd, yr angen am ymyriadau Isadeiledd Gwyrdd ac addasrwydd yr isadeiledd
gwyrdd (h.y. beth mae'r ymyriad yn ceisio'i ddatrys, fel llifogydd neu lygredd
aer, unrhyw amodau grant penodol etc. Yn
yr un modd, dylai bwriadau Isadeiledd Gwyrdd hefyd ddilyn y 5 egwyddor
Isadeiledd Gwyrdd – amlswyddogaethol, wedi'i addasu i newid yn yr hinsawdd,
bioamrywiaeth, iechyd a lles a deallus a chynaliadwy. Darparodd Atodiad A y Polisi Tegwch mewn
Iechyd Gwyrdd drafft. Gofynnwyd i'r
Pwyllgor ystyried tri opsiwn mewn perthynas â datblygu polisi Tegwch mewn
Iechyd Gwyrdd ymhellach: - ·
Polisi
annibynnol ·
Wedi'i
integreiddio fel amcan i strategaethau a chynlluniau sy'n bodoli eisoes ·
Polisi
hybrid Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Y
gwahaniaeth amlwg mewn disgwyliad oes mewn ardaloedd difreintiedig; ·
Y
tlodi/amddifadedd a oedd yn bodoli mewn rhai wardiau lle'r oedd cyfoeth mawr
hefyd; ·
Y
modd y cafodd ardaloedd o amddifadedd eu trin o'u cymharu ag ardaloedd cefnog; ·
Yr
angen i gynnwys pobl leol mewn unrhyw bolisïau newydd wrth symud ymlaen i gam
'ymrwymo'; ·
Adnoddau
i fwrw ymlaen â'r polisi yn y tymor hir a pharhau i'w reoli; ·
Cyllid
grant a gafwyd i gefnogi swyddi; ·
Nodi
ardaloedd o amddifadedd; ·
Angen
proses ymgynghori bosib. Penderfynwyd: - 1)
Cymeradwyo'r
opsiwn polisi hybrid ond gellid ei ehangu i gynnwys unrhyw elfennau priodol o
opsiwn 2; 2)
Adrodd
am yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022. PDF 124 KB Penderfyniad: Penderfynwyd:
- 1) Dylid nodi
cynnwys yr adroddiad; 2) Polisi Tyfu Bwyd
fydd yr unig bwnc i'w drafod
yng nghyfarfod y Pwyllgor a
drefnwyd ar gyfer 25 Hydref 2021; 3) Ychwanegu gwaith Cydlynwyr Ardal Leol at y rhestr o bynciau i'w trafod. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2021-2022. Amlinellodd fod
yr Aelod Cabinet wedi gofyn i'r Pwyllgor drafod y Polisi Tyfu Bwyd Cymunedol yn
y cyfarfod nesaf. Tynnodd Amy
Hawkins, Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion, sylw at waith Cydlynwyr
Ardaloedd Lleol ac ychwanegodd y byddai'n ddefnyddiol i'r Pwyllgor gael yr
wybodaeth ddiweddaraf am eu gwaith, yn enwedig sut maent yn mynd i'r afael â
thlodi. Dywedodd Craig
Davies, Cyfreithiwr Cyswllt, fod angen trafodaethau pellach y tu allan i'r
cyfarfod ynglŷn â'r ymgynghoriad cyhoeddus posib sydd ei angen ar gyfer y
Polisi Tegwch mewn Iechyd Gwyrdd. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad; 2)
Trafod
y Polisi Tyfu Bwyd Cymunedol yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 25
Hydref 2021; 3)
Ychwanegu
gwaith Cydlynwyr Ardaloedd Lleol at y rhestr o bynciau i'w trafod. |