Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu
Polisi Lleihau Tlodi a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2021 fel cofnod cywir. |
|
Diwygiad Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe. PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Anthony
Richards, Rheolwr Strategaeth a Datblygiad Tlodi a'i Atal, adroddiad a oedd yn
ceisio adolygu a diweddaru Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe 2017 -
2020. Amlinellodd y
cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i gyflwyno'r strategaeth wreiddiol a nododd fod y
ddogfen ddiwygiedig a amlinellwyd yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau ac
ymgynghori drwy gydgynhyrchu â phartneriaid a'r
cyhoedd. Amlinellodd a
manylodd ar y sail bresennol ar gyfer y strategaeth ar draws y cyngor,
cyfeiriodd at y tri phrif ddiffiniad o dlodi a amlinellir ym mharagraff 2.2 o'r
adroddiad, ac amlinellodd y chwe phrif faes y mae'r strategaeth newydd yn
sefydlu gweledigaeth ar eu cyfer ar gyfer y dyfodol. Cyfeiriodd at y
naw maes i'w cynnwys/hychwanegu at y ddogfen newydd fel yr amlinellir ym
mharagraff 2.4 o'r adroddiad. Trafododd yr aelodau'r strategaeth ddiwygiedig arfaethedig ac awgrymwyd yr
ychwanegiadau ynghylch y meysydd canlynol: - ychwanegu addysg uwch a
hyfforddiant galwedigaethol (2.4.2), ychwanegu paragraff sy'n manylu ar grynodeb
o'r prif feysydd llwyddiannau/mentrau a ychwanegwyd yn ystod oes y strategaeth
a chyfeirio at syniadau llai llwyddiannus, er mwyn rhoi cyd-destun i'r
adroddiad. Gofynnodd yr aelodau hefyd gwestiynau a chodwyd ymholiadau ynghylch
strwythur yr awdurdod a gweithio trawsadrannol ar faterion tlodi ac effaith
COVID ar ddarparu gwasanaethau, yr ymatebodd y swyddogion iddynt yn briodol. Yna cyfeiriodd swyddogion at y prif ddatblygiadau dros y blynyddoedd, a
nodwyd y gellid dosbarthu'r wybodaeth berthnasol i'r aelodau a'i hychwanegu at
yr adroddiad fel yr awgrymwyd. Byddai'r strategaeth ddiwygiedig arfaethedig
wedyn yn dod yn ôl i'r pwyllgor hwn i'w thrafod yn dilyn y broses ymgynghori yn
y flwyddyn newydd. Penderfynwyd bod y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi yn
cymeradwyo Diwygiad Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe fel a nodwyd yn
Adran 2 yr adroddiad hwn (yn amodol ar y diwygiadau/ychwanegiadau a amlinellir
uchod) fel man cychwyn i gydgynhyrchu fersiwn
derfynol gyda'n partneriaid a'n cymunedau. |
|
Datblygiad Polisi Adennill Dyledion Personol Corfforaethol. PDF 236 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Anthony Richards, Rheolwr Strategaeth a Datblygiad Tlodi a'i Atal, adroddiad a
oedd yn ceisio gweithio tuag at fabwysiadu polisi sy'n gwreiddio ymagwedd
gorfforaethol at adennill dyledion personol. Mae'r adroddiad
yn nodi rhai o'r mathau o ddyled bersonol a fyddai'n rhan o unrhyw bolisi
newydd, ac yn cyfeirio at y problemau sy'n ymwneud â adennill dyledion y mae'n
rhaid i'r awdurdod ymgymryd â hwy'n gyfreithiol. Trafododd yr
aelodau y problemau sy'n ymwneud â'r modd y dylai'r cyngor fod yn adennill
dyledion, yn enwedig o ran geiriad y llythyrau cychwynnol, a nodwyd bod rhoi
cyngor ac opsiynau ar gyfer talu a pheidio â chaniatáu i ddyled gynyddu yn
faterion allweddol i'w hystyried. Amlinellodd y
Cadeirydd y cynnig i gynnal cyfres o weithgorau gyda swyddogion perthnasol i
ymchwilio i'r mater. Cefnogodd aelodau'r pwyllgor hyn a gofynnwyd i gopïau o
lythyrau perthnasol a anfonwyd at ddyledwyr i ddechrau fod ar gael i'w trafod
yn y cyfarfod cyntaf. Penderfynwyd 1)
sefydlu
Gweithgor Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi ynghyd â chynrychiolwyr gwasanaeth
perthnasol a wahoddir i ddatblygu Polisi Adennill Dyledion Personol
Corfforaethol. 2)
cynnal
cyfarfod cyntaf y grŵp am 2.30pm ddydd Llun 23 Awst 2021. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022. PDF 124 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer 2021-2022, yn amodol ar ychwanegu'r
gweithgor ar 23 Awst fel yr amlinellir yng nghofnod 11 uchod. Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith. |