Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 219 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi fel cofnod cywir.

21.

Nifer sy'n hawlio budd-dal. (Jane Storer) pdf eicon PDF 253 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Jane Storer, yr Uwch-swyddog Hawliau Lles adroddiad a roddodd wybodaeth i'r Pwyllgor am y problemau ynghylch hawlio budd-daliadau, y rhesymau dros dan-hawlio, enghraifft o waith a wnaed yn y gorffennol i gynyddu'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau, ymgyrchoedd cyfredol, nodi blaenoriaethau'r dyfodol o ran cynyddu'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau a sut gallai'r Pwyllgor gefnogi'r gwaith hwn yn y dyfodol.

 

Amlinellwyd bod y Pwyllgor wedi nodi'r angen i gynyddu'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau yn Abertawe. Nod mwyhau’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau oedd sicrhau bod pobl yn hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo ac yn cynyddu incwm eu cartref.

 

Nododd yr adroddiad y problemau o ran hawlio budd-daliadau, gan gynnwys y canlynol: -

 

·         Nid oes gan bobl ddigon o wybodaeth am y system fudd-daliadau na dealltwriaeth ohono;

·         Mae staff yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cael eu hyfforddi yn y meysydd y maent yn gweithio ynddynt yn unig, a'u diffyg gwybodaeth gyffredinol;

·         Rhoddir y cyngor anghywir yn aml i bobl sy'n cysylltu â chanolfan alwadau'r Adran Gwaith a Phensiynau, ac maent yn credu nad oes ganddynt hawl i unrhyw fudd-daliadau pan fo'r gwrthwyneb yn wir;

·         Mae’r hyn y mae gan yr unigolyn hawl iddo’n dibynnu ar ei amgylchiadau ac mae'n aml yn gymhleth;

·         Mae sefydliadau sy'n cynnig mynediad at gyngor diduedd am ddim yn cael eu llethu gan nifer mawr y ceisiadau;

·         Gwneir newidiadau cyson i'r system fudd-daliadau, gan olygu bod hawlwyr yn symud i mewn ac allan o grwpiau hawl ac wrth i amgylchiadau newid, effeithir ar eu hawl; nid yw hawlwyr budd-daliadau’n sylweddoli y byddai hynny'n effeithio arnynt.

 

Yn ogystal, tynnwyd sylw at sawl rheswm dros pam y mae pobl yn tan-hawlio budd-daliadau ac roedd y rhain yn cynnwys diffyg adnoddau i helpu hawlwyr drwy'r broses; diffyg gwybodaeth am y budd-daliadau sydd ar gael; nid yw hawlwyr yn meddwl bod ganddynt hawl i fudd-daliadau; profiadau gwael yn y gorffennol; ailasesiadau parhaus; ofn; a stigma.

 

Trafodwyd graddau'r tan-hawlio a dywedwyd ei fod yn broblem eang ymhlith grwpiau penodol o bobl; dangosodd ffigurau a ryddhawyd yn 2016-2017 fod dros £16 biliwn mewn budd-daliadau sy’n destun prawf modd heb gael ei hawlio.

 

Amlygodd yr adroddiad y camau gweithredu a oedd wedi gweithio i gynyddu'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau, gan gynnwys cynyddu ymwybyddiaeth o hawl pobl i gael budd-daliadau, herio canfyddiadau pobl o hawlwyr budd-daliadau gan gynnwys stereoteipio negyddol a darparu cymorth ychwanegol wedi'i deilwra i'r unigolion pan fo angen.

 

Amlinellwyd manylion yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd, gan gynnwys yr ymgyrch hawlio credyd pensiwn, a darparwyd gwybodaeth am y grwpiau a gynorthwywyd gan ymgyrchoedd hawlio blaenorol.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol: -

·         Sut roedd y wasg yn barod iawn i adrodd am straeon negyddol ond yn cymryd amser i adrodd am hawliadau dilys a'r stigma y maent yn ei greu ynghylch hawlwyr a'r iaith negyddol a ddefnyddir;

·         Y symiau bach iawn o arian o'i gymharu â symiau twyll busnes;

·         Effaith unrhyw gyngor gwael/anghywir a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;

·         Proses apelio'r Adran Gwaith a Phensiynau;

·         Y broses anodd y mae unigolion yn ei hwynebu i gael y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, y cymorth ymarferol y gall y cyngor ei gynnig a'r cymorth y gall Cynghorwyr ei gynnig;

·         Newid canfyddiadau'r cyhoedd ynghylch budd-daliadau a sicrhau bod unigolion yn hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt;

·         Y gamdybiaeth fod y rhan fwyaf o hawlwyr budd-daliadau'n ddi-waith pan fo'r mwyafrif naill ai'n gyflogedig neu'n bensiynwyr mewn gwirionedd;

·         Sut roedd pandemig COVID-19 wedi dechrau newid canfyddiadau wrth i fwy o bobl sylweddoli'r anawsterau a wynebir pan fyddant yn byw ar £94 yr wythnos;

·         Y potensial i'r cyngor gynnwys gwybodaeth gyda biliau blynyddol Treth y Cyngor, er enghraifft trwy gynhyrchu taflen i'w dosbarthu ledled cymunedau neu ddosbarthu gwybodaeth drwy'r cyfryngau cymdeithasol;

·         Cynnwys pob Aelod Seneddol/Aelod o'r Senedd mewn unrhyw gyhoeddusrwydd er mwyn gallu dosbarthu gwybodaeth yn ehangach;

·         Defnyddio banciau bwyd lleol i ddosbarthu taflenni gyda pharseli bwyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ddarparu'r adroddiad a dywedodd y byddai trafodaethau ychwanegol yn cael eu cynnal mewn gweithgor ynghylch cefnogi ymgyrchoedd i hawlio budd-daliadau yn y dyfodol. Ychwanegodd y byddai'r taflenni sy'n cefnogi'r ymgyrch bresennol i ddefnyddio credyd pensiwn hefyd yn cael eu dosbarthu gan fanciau bwyd ac y byddent hefyd yn cael eu trafod mewn cyfarfod gweithgor.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

22.

Rhannu Gerddi. (Trafodaeth)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Ange Bethany o brosiect Room to Grow yn Uplands a Joyce Veheary, sylfaenydd Benthyca a Thrin fel rhan o ymchwiliadau'r Pwyllgor i rannu gerddi.

 

Amlinellodd Ange Bethany fanylion y prosiect Room to Grow yn Uplands. Tynnodd sylw at y ffaith bod y prosiect wedi defnyddio a thrawsnewid 6 gardd flaen nad oedd neb yn gofalu amdanynt o jyngl concrit i erddi bwytadwy hyfryd, h.y. rhandiroedd bach, a'u bod am greu "coridor gwyrdd" o Brynymor Road yr holl ffordd i ganol tref Uplands.

 

Ychwanegodd fod y prosiect wedi derbyn ymateb anhygoel gan y gymuned a bod ganddo bellach gnwd cyson o gynnyrch o'r 6 thŷ sy’n rhan ohono. Dysgodd lawer mewn amser byr wrth wneud y prosiect ac mae wedi mwynhau gweld pobl yn stopio i fwynhau'r ardd a gofyn cwestiynau. Tynnodd sylw hefyd at fanteision niferus y prosiect i'r gymuned.

 

Yn y cam nesaf, roedd am weld faint o dai ychwanegol y gellid eu cofrestru ar gyfer y prosiect a gweld effaith weledol cael nifer mawr o erddi blaen wedi'u trawsnewid, a fyddai'n gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol yn yr ardal. Byddai plannu gwelyau uwch yn helpu i liniaru fflachlifoedd a byddai'r planhigion yn cynyddu ansawdd aer, yn gwella bioamrywiaeth ac yn darparu bwyd a mwynhad i'r gymuned.

 

Amlinellodd Joyce Veheary, un o aelodau sefydlu Benthyca a Thrin sy’n brosiect ar draws y DU, fanylion y prosiect. Nodwyd bod cynghorwyr wedi derbyn ffilm fer i'w gwylio, sy'n esbonio'r prosiect a sut y cafodd ei drefnu.

 

Esboniwyd bod y prosiect yn seiliedig ar achub gerddi nad oes neb yn gofalu amdanynt trwy rannu gerddi. Gallai perchnogion gerddi nad oeddent yn gallu gofalu amdanynt roi benthyg eu gerddi i'r prosiect a chaniatáu i'r rheini nad oes ganddynt ardd neu a oedd yn aros am randir ddefnyddio'r lle.

 

Ychwanegodd fod nifer o ddinasoedd yn cymryd rhan ledled y DU a bod y prosiect yn seiliedig ar rai egwyddorion syml iawn a oedd hefyd â'r nod o ddod â phobl at ei gilydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y gwahanol agweddau ar y ddau brosiect gan gynnwys: -

 

·         Ehangu'r ardaloedd sydd ar gael i'r ddau brosiect;

·         Sut y gallai'r ddau brosiect gydweithio;

·         Bod Room to Grow yn annog amrywiaeth o gynnyrch gan gynnwys llysiau, blodau a phlanhigion i ddenu pryfed peillio;

·         Bod Room to Grow yn canolbwyntio ar erddi blaen;

·         Ymgysylltiad cadarnhaol y ddau brosiect â'r gymuned;

·         Y gweithdrefnau a ddilynir gan y ddau brosiect, yn enwedig diogelu preswylwyr drwy sicrhau mynediad diogel i'r ardd heb fynd i mewn i unrhyw eiddo;

·         Yr anawsterau parhaus a wynebir gan y ddau brosiect drwy gydol pandemig COVID-19 a sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â'r prosiectau’n glynu wrth y cyfyngiadau presennol;

·         Bod yr Heddlu lleol wedi cynghori pobl Room to Grow ynghylch sut i barhau â'r prosiect o fewn y cyfyngiadau presennol;

·         Y potensial enfawr i ehangu’r ddau brosiect a'r manteision enfawr i'r gymuned/yr amgylchedd a gynigir gan y ddau;

·         Defnydd cadarnhaol o wirfoddolwyr o’r cymunedau a fyddai o fudd enfawr iddynt;

·         Sut gallai'r cyngor/y Pwyllgor gynorthwyo a hyrwyddo'r ddau brosiect.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr y ddau brosiect am eu presenoldeb ac am amlinellu eu prosiectau. Ychwanegodd y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal mewn cyfarfod gweithgor ac yr adroddir wrth y pwyllgor am y cynnydd

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y trafodaethau.

23.

Cynllun Gwaith 2020-2021. pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2020-2021.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.